Wednesday, 20 September 2017

Ymateb i Prestatyn Rocks, Herald Gymraeg 20 Medi 2017




Peth digon anodd yw cael ‘ymateb’ os yn creu mewn unrhyw ffordd neu gyfrwng yn y Gymraeg. Fel arfer mae ‘gwylltio’ pobl yn gweithio yn eitha da, bod yn fwriadol ddadleuol hyd yn oed.

Pan ddechreuais ysgrifennu colofn i’r Faner dan olygyddiaeth Emyr Price yn y 1980au dyna oedd fy unig fwriad. Doedd y gynulleidfa pop Cymraeg arferol ddim yn darllen y Faner felly rhesymais mae’r unig bwynt mewn sgwennu colofn oedd i herio’r drefn hen-ffordd-draddodiadol Gymraeg. Roeddwn rhy ifanc a di-brofiad i adnabod fod Emyr Price yn gyd-deithiwr o fath – nath o rioed olygu na gofyn i mi newid unrhywbeth.

Trodd bod yn ‘ddadleuol’ mewn i yrfa yn mynegi barn ar y Cyfryngau a wedyn dros y blynyddoedd, pallodd yr awydd i fod yn ddadleuol. Go iawn roedd gennyf rhywbeth i’w ddweud ac roeddwn  yn ‘credu’ yn hynny. Roedd pobl yn meddwl fod safbwyntiau yn cael eu mynegi er mwyn bod yn ‘ddadleuol’. Ddim bob tro a llai a llai gyda threigliad amser.
Felly tydi rhywun ddim yn mynd ati i sgwennu er mwyn bod yn ‘ddadleuol’ ond eto, yn yng nghefn y meddwl mae rhywun yn ceisio procio, neu addysgu, neu ddiddanu, neu gwestiynnu – rhaid bod yna bwrpas mewn sgwennu colofn.

Wrth son am fy mhrofiad yn y gig Prestatyn Rocks mae’n amlwg fy mod wedi cyflwyno darlun llai na chywir o dref Prestatyn – argraff hanner diwrnod oedd hwn mae’n wir.
Yn yr erthygl awgrymais nad oedd trigolion Prestatyn efallai ddigon cyfarwydd a grwpiau pop Cymraeg cyfoes fel HMS Morris neu Ani Glass. A dyna chi un gwendid sylfaenol yn fy ngholofn fel awgrymodd Pennaeth Ysgol y Llys, Dyfan Philips wythnos dwetha.

Tydi trigolion y trefi mwyaf Cymraeg yng Nghymru ddim chwaith yn gwirioni ar gerddoriaeth amgen Cymraeg. Rhywbeth ymylol iawn yw hyn – tydi’r iaith na’r daearyddiaeth ddim yn ffactor go iawn. Dim ond yng Nghaerdydd lle mae digon o ‘exiles’ Cymraeg gall y gynulleidfa fod yn un sylweddol. Mae Dyfan yn gywir. Fi sydd yn gobeithio fod grwpiau o safon HMS Morris ac Ani Glass yn gallu apelio a denu pobl at y Gymraeg.

Nid ymosod yn benodol ar Brestatyn mwy na Llandrindod yr wythnos cynt oedd y bwriad a dweud y gwir – ac yn sicr nid ymosod ar ymdrechion Cymry Cymraeg sydd yn gweithio dros yr iaith yn y trefi hynny. Eto mae Hari Huws (Huw Tân) o’r Rhyl yn iawn i gwestiynu fy erthygl.
Ymosod ar ein di-faterwch ni fel Cenedl oedd y bwriad am ganiatau i lefydd (unrhywle yng Nghymru) fod yn ddi-Gymraeg, yn ang-Nghymreig. Nid eu bod nhw felly yn llwyr ond byddwn wedi mwynhau gweld grwp neu grwpiau Cymraeg yn Prestatyn Rocks. Mor syml a hynny.

Gig anodd i unrhyw band ac efallai wedi eu magu ar Maes B a gigs braf y Steddfod – nad oes grwpiau Cymraeg gyda’r elfen genhadol o fod isho cyrraedd cynulleidfaoedd newydd i fentro i ardaloedd fel hyn.

Chlywais i ddim gair o Gymraeg go iawn yn Prestatyn Rocks – beirniadu’r gweddill ohonnom oedd fy mwriad nid pobl Prestatyn. Tyfais fyny ar y ffin. Nid ffedog gynnes Gwynedd a chadarnle ieithyddol oedd fy mhrofiad arddegau ond frontline ieithyddol a gorfod cwffio i gael unrhyw fath o fynegiant yn y Gymraeg ac yn fwy na hynny i weld unrhyw werth yn beth oedd ar gael yn y Gymraeg pryd hynny.

Dal i ddweud – os da ni am gyrraedd y miliwn – rhaid i bethau newid – rhaid i rhywbeth newid – tydi’r staus quo ddim yn opsiwn. Petawn yn sgwennu er mwyn creu ymateb fe lwyddais. Diolch fod pobl Prestatyn wedi ymateb a wedi mynegi eu siom yn fy ngholofn a hyd yn oed wedi dangos gwendidau fy nadl. Da o beth.


Thursday, 14 September 2017

Drysau Agored, Herald Gymraeg 13 Medi 2017

Graffiti Castell Dolforwyn

Dyna ddiwedd ar ‘Anus of the North’ felly. Bu rhaid i Ken Skates syrthio ar ei gleddyf canoloesol a chydnabod maint y gwrthwynebiad i’r cylch mawr dur celfyddydol ar gyfer y dirwedd ger Castell y Fflint. Boed y cylch yn cynrychioli gormes Edward I neu ddim fe arwyddwyd deiseb gan drso 11,000 yn gwrthwynebu.

Byddwn yn hapusach petae’r 11,000 yn eu tro hefyd yn ymweld a chestyll Cymreig tysysogion Gwynedd ac yn ymddiddori yn yr archaeoleg a hanes rhyfeddol sydd gennym yma yn y gogledd. Fel soniais yn fy ngholofn 9 Awst, mae gwrthwynebu yn gallu bod yn fwy poblogaidd (neu’n haws) na dathlu a mynychu

Onibai fod yr holl beth am ‘Anus of the North’ yn ymylu ar y trist byddai rhywun yn chwerthin yn uchel. Gwyliwch allan neu mi fydd yna ddraig arall yn ymddangos yn un o’r cestyll. Mwy Cymreig o bosib ond yr un mor ystrydebol. Dyma ni (eto) yn brwydro dros ail-ddehongli ac osgoi’r ystradebau.


Hen bregeth yw hon gennyf wrthgwrs, rwyf wedi bod yn dadlau fod angen i ni Gymry ail-berchnogi ein hanes ers blynyddoedd. Does dim digon yn newid drwy gwyno’n barhaol – dim ond drwy newid y naratif, newid y drafodaeth a newid agwedd mae modd i ni newid pethau.

Gall y naratif gael ei newid yn hawdd. Trwy ddathlu Hanes Cymru ac archaeoleg Cymru, buan iawn y ni sydd yn gyfrifol am y naratif. Clywaf ddigon yn cwyno am ddiffyg “ein Hanes ni”, ond mae hyn rhy aml ar sail fod rhaid i rhywun arall newid pethau – byth y ni – rhywun arall.

Hyd yn oed os oedd gwrthwynebu’r cylch dur yn angenrheidiol, rhaid peidio anghofio’r dathlu. Dal i sefyll mae cestyll tywysogion Gwynedd, er efallai yn fwy unig na ddylia nhw fod o ran ymwelwyr o Gymru. Esgus stepan drws ydi hi rhy aml. Rioed di bod, o hyd wedi bwriadu mynd.

Cyn unrhyw ormes gan Edward I, cyn y Normaniaid a’r Eing-Sacsoniaid roedd y Rhufeiniaid yma. Wedi difa’r Derwyddon oddeutu 60-61 oed Crist ar Ynys Môn. Efallai fod y Rhufeiniaid mor bell yn ôl tyda ni ddim yn gweld eu holion nhw fel rhai gormesol nac o goncwest ond ddyna oedd y caerau i chi heb os nac onibai. Dim ond treigliad amser sydd yn gwahaniaethu Segontium, Caerhun a Thomen y Mur o Gestyll Caernarfon, Harlech a Chonwy.

Pob un o rhain yn rhan o broses o amgylchu Eryri – yn ein cadw dan reolaeth, yn ein cadw yn ein lle. Efallai? Ond, dwi heb glywed cwynion am y Rhufeiniaid eto? Cofiwch nid gormes oedd popeth. Fe gafodd ambell ffarmwr cyfoethog ar Ynys Môn fodd i fyw o dan y drefn Rufeinig gan werth nwyddau a chynyrch amaethyddol iddynt.

Dyna hanes Din Lligwy, y fila neu ‘blasdy’ (cytiau crynion) Celtaidd wedi ei ddylanwadu gan dai crand y Rhufeiniaid yn ne ddwyrain Lloegr. Ffarmwr wedi gwneud yn dda, tirfeddianwr dwy fil o flynyddoedd yn ôl yn edrych dros ei stad yn ardal Lligwy. Chafodd hwnnw ddim ei ormesu yn sicr.

Roedd digon o statws cymdeithsol gan berchennog Din Lligwy i fewnforio gwin yn y 3dd a 4dd ganrif. Byddai wedi byw yn gyfforddus o fewn y muriau calchfaen pump ochrog nobl oedd yn amgylchu’r tai crynion a’r holl weithdai. Yn y gweithdai cafwyd dystiolaeth o weithio haearn – bydda’r teulu yma wedi gallu cynhyrchu a thrwsio arfau ac offer fferm.

Dyma chi ran o hanes amaethyddol Môn dwy fil o flynyddoedd yn ôl, ond wrth reswm, am bob tirfeddianwr byddai cannoedd o ffermwyr cyffredin yn llawer mwy caeth i effeithiau tywydd a threthi’r Rhufeiniaid. Y gwahaniaeth mawr fyddai’r cyfoeth.

Cafwyd diwrnod agored fel rhan o gynllun Drysau Agored yn Din Lligwy dros y penwythnos ar hyn oedd yn codi calon rhywun oedd faint o drigolion Môn alwodd heibio. Dyma ddechrau ar y broses o ail-berchnogi hanes. Er mor hyfryd a distaw yw’r safle – roedd hyn yn gyfle i drafod sut fywyd fydda yma yn y cyfnod Rhufeinig. Roedd bwrlwm yn lle tawelwch yma dros y penwythnos.

Gall hanes fod yn ddiddorol yn sicr – y camp yw gwneud hanes yn berthnasol. Hawdd iawn yn cynnwys ffolineb Brexit heddiw wrth drafod y gorffennol – pobl yn symud, syniadau yn symud, rhannu diwylliannau – dyma sut mae dyn wedi symud yn ei flaen. Fedra’i ddim gweld unrhywbeth da yn Brexit, yn sicr nid yn wleidyddol, ond fel archaeolegydd byddwn yn dadlau fod Brexit a’r meddylfryd Seisnig cenedlaetholgar cul hynny sydd yn ei yrru yn groes i bopeth rydym yn ei ddysgu o archaeoleg. Symud yw ein hanes. Erioed.

Fel rhan o gynllun Drysau Agored  byddaf yn arwain teithiau tywys yng Nghastell Dolforwyn ger y Drenewydd Sadwrn 16 Medi rhwng 11am a 4pm ac yng Nghastell y Bere ger Abergynolwyn ar Sul 17 Medi - yr un amseroedd.

Dyma fydd fy her wythnos yma. – denu mwy yno. Faint sydd hyd yn oed yn gwybod lle mae Dolforwyn heb son amdano? Un o gestyll Llywelyn ap Gruffudd. Pwysig iawn. Yma cododd Llywelyn ddau fys ar y Brenin Harri III gan adeiladu castell a thref Gymreig o fewn tafliad carreg (rhyw pump milltir) o gastell Harri yn Nhrefaldwyn.

Os fuodd yna weithred well, dychmygwch Llywelyn yn anwybyddu Brenin Lloegr ac yn parhau i adeiladu. Ger llaw mae Rhyd Chwimau lle arwyddwyd Cytundeb Trefaldwyn yn 1267 lle roedd Harri yn cydnabod Llywelyn fel tywysog Cymru. Sir Drefladwyn di hyn – yn allweddol i hanes Cymru yn y 13eg ganrif.


Dewch draw, fe gwech groeso, taith dywys a hwyl – a chyfle i fod yn rhan o’r dathlu.

Friday, 8 September 2017

Prestatyn Rocks, Herald Gymraeg 6 Medi 2017



Henry Pochin (Bodnant)

Dwi ar yr un trywydd eto yr wythnos yma. Y llefydd yma yng Nghymru sydd yn osgoi’r Gymraeg – dyma sydd yn fy mhoeni ac yn fy niddori. Dros y Sul roeddwn yn chwarae gitar fas i grwp o Gaernarfon mewn digwyddiad o’r enw ‘Prestatyn Rocks’. Doeddwn ddim yn disgwyl gweld unrhyw grwp yn canu yn y Gymraeg yno. Tydi’r grwp dwi’n chwarae bas iddynt ddim chwaith. Mae honno yn stori arall.

Doeddwn ddim wirioneddol yn disgwyl clywed y Gymraeg ym Mhrestatyn ond fe ddigwyddodd rhywbeth weddol anisgwyl. Doniol. Dweud y cyfan. A dweud y gwir ddylia rhywun byth glustfeinio ar sgwrs rhywun arall ond wrth i mi wrando ar rieni yn trafod sut hwyl roedd eu plant wedi gael ar eu haroliadau dyma glywed yr hyn fyddwn yn alw yn ‘ddyfyniad y dydd’.

Yn y dorf roedd rhain. O ran ei acen roedd y tad o Fanceinion, ond yn amlwg yn byw yn lleol, a dyma fam arall yn son fod ei merch wedi gwneud yn drychinebus yn ei haroliad Cymraeg. Ateb y tad, oedd iddi beidio poeni, “The only Welsh you need is Dim Siarad Cymraeg” meddai’r Manc, a hynny mewn Cymraeg perffaith.

Roeddwn yn eistedd drws nesa iddynt. Roedd yn weddol amlwg fy mod yn chwerthin yn ddistaw os nad uchel wrth glywed hyn. A oedd ateb gennyf? Methais a meddwl am ddim byd addas. Dyma’r Manc yn troi atof a son fod y grwp oedd ar y llwyfan ar y pryd yn ei atgoffa o Joy Division ac o fewn eiliadau da ni wrthi yn trafod Ian Curtis, The Cure ac yn rhannu’r un dant cerddorol.


Dwi heb ddweud dim am y Gymraeg, dwi heb faddau iddo ond dwi heb willtio chwaith. Mewn maes parcio ger yr orsaf ym Mhrestatyn ar bnawn Sul gyda llwythi o bandiau roc o ogledd Cymru yn perfformio – yr unig beth fedra’i neud yw chwerthin a meddwl pa mor swreal yw hyn ôll.

Does dim diwylliant Cymraeg cyfoes i’w weld ar strydoedd Prestatyn. Tydi’r Manc, na’r rhieni eraill, ddim wedi gweld na chlywed Bendith, HMS Morris, Ani Glass, Candelas, Adwaith, (na’r grwp Ian Rush o’r Wyddgrug hyd yn oed?). Nid fy mod yn cytuno a’r boi bach OND – pryd glywodd o neu welodd o rhywbeth Cymraeg cyfoes, ifanc cŵl? Yn amlwg mae eu plant, yn Ysgol Prestatyn, angen eu trochi mewn pethe Cymraeg cyfoes.

Lle od, ang-nghymreig, anghyfarwydd. Tref a ddatblygwyd gan Henry Pochin (Bodnant) gyda dyfodiad y rheilffordd yn y cyfnod Fictoraidd. Fuodd na rioed ddim byd Cymreig am y lle felly. Wrth grwydo’r stryd fawr rwyf yn taro ar draws ffowntan gofeb Henry Pochin. Dyn hynod.


Cemegydd oedd Pochin a lwyddodd i greu sebon gwyn drwy buro’r rosin – dyna ddaeth a rhan o’i gyfoeth iddo. Llwyddoodd hefyd i ddefnyddio Clai Tseina i greu papur o well ansawdd. Dyna’r ail ran o’r cyfoeth. Dau beth sydd yn cael eu cymeryd yn hollol ganiataol heddiw a dau beth gafodd eu datblygu gan y gŵr hynod yma, Henry Pochin. Gyda’r cyfoeth prynodd Stad Bodnant.

O 1874 ymlaen datblygodd y gerddi ym Modnant, Dyffryn Conwy. Y teulu Puddle, y garddwyr, tair cenhedlaeth ohonynt, ddatblygodd y gerddi go iawn a hynny ar ran Pochin ac yn ddiweddarach y McLaren’s er mai gweledigaeth Pochin a’r McLarens oedd wrth waith yma.

Does fawr o ddiwylliant Cymreig yn perthyn i Bodnant rhywsut chwaith. Hanes Cymru yndi. Cymreig nacdi. Wrth grwydro Stryd Fawr Prestatyn mae’n amlwg fod fwy o gaffis a siopau bach boutique yma. Gwelaf yr ochr dda a’r ymdrech ond o ran Cymreigtod mae angen, i ddyfynu Saunders, dim llai na chwyldro.

Croeso i Gymru medda ni, ond mae angen rhywbeth gweledol, clywedol, amlwg yn y llefydd yma.

Thursday, 31 August 2017

Dysgu Cymraeg yn Llandrindod Wells, Herald Gymraeg 30 Awst 2017

Nigel Half Man Half Biscuit

Wrth bendroni ychydig ar y cwestiwn mawr ynglyn a’r nifer o siaradwyr Cymraeg dyma ddechrau gofyn pam nad oes mwy o’r di-Gymraeg yn ymdrechu i ddysgu’r iaith? Yn amlwg mae trio dysgu’r iaith pan mae rhywun yn 35 neu 55 oed yn ddipyn o waith.

Mae cymaint o ffactorau. Lleoliad. Ardal. Cefndir. Cefndir addysgol. Mewnfudwyr neu ddim.  Fel arbrawf dwi’n rhoi gwersi Cymraeg yn Llandrindod i mewn i Google a gweld beth sydd yn digwydd. A dyna chi be di hawdd. Gwefan learnwelshinmidwales.org a mae cyrsiau yn Llandrindod ddigon hawdd i’w ffendio.

Dim byd yn erbyn Llandrindod, dwi jest yn trio meddwl am rhywle weddol ‘anodd’. Fydda rhywun ddim yn disgwyl cymaint a hynny o Gymraeg ar strydoedd Fictoraidd Llandrindod. Tref Spa Fictoraidd ydi hi wedi’r cyfan, nid tref gynhenid Gymreig. Ond mae’r cyfle i ddysgu yna. Beth wedyn? Dyna’r cwestiwn hir dymor.

Sut gyfleoedd sydd i gymdeithasu yn y Gymraeg yn Llandrindod? Ar ôl ymdrechu i ddysgu mae angen ymarfer a chymdeithasu. Prin iawn yw’r gigs Cymraeg yn Llandrindod. Hyd yn oed yn nyddiau’r Anhrefn naethom ni ddim llwyddo i ganu erioed yn Llandrindod. Llanidleos do (yn y Clwb Rygbi), Llandrindod naddo.

Cwestiwn arall bosib yw pa werth dysgu’r Gymraeg yn Llandrindod os nad oes cyfle i’w defnyddio wedyn ar lawr gwlad? Ateb syml i hynny yw fod manteision diwylliannol amlwg i fedru siarad yr iaith sydd uwchlaw lleoliad daearyddol. Gallwch ddarllen cerddi T.H Parry Williams yn unrhywle yn y Byd (hyd yn oed yn Llandrindod). Siawns fod yr un peth yn wir am wylio S4C neu wrando ar Radio Cymru (signals yn caniatau / DAB / SKY / y we).

Tydi rhywun ddim yn gaeth i Landrindod chwaith (siawns), felly mae digwyddiadau cenedlaethol fel yr Eisteddfod / Maes B neu hyd yn oed pethau Cymraeg yn Theatr Hafren yn y Drenwydd (ddim mor bell a hynny). Ac os oes yna ddysgwyr yn Llandrindod, rhag ein cywilydd ni fel pobl y Pethe / diwylliant pop / diwylliant cyfoes am beidio ymdrechu i wneud rhywbeth yno. Unrhywbeth Cymraeg.

Haws dysgu yn yr ysgol, does dim dadl am hynny a does dim dwy waith mai’r ffordd o gyrraedd y mliwn o siaradwyr yw drwy sicrhau fod pob disgybl ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru yn dysgu’r iath – cyn iddynt gyrraedd 7/8 oed. Awgryn sydd siwr o blesio Julian Ruck/ Newsnight – what’s the point of the Welsh language exactly? Peidiwch.

Soniais yn ddiweddar am y gynhadledd ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg a gynhaliwyd ym Machynlleth, ac yn sicr roedd pwyslais yno ar sicrhau cyfleoedd i siarad ar ôl dysgu. Parhau y broses. Iawn os ydynt wedi dechrau’r broses.

Ond mae miloedd ar filoedd o Gymry sydd ddim yn dysgu’r iaith. Rhaid newid pethau yn yr ysgolion cynradd ar frys gan sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn gadael ysgol gynradd yng Nghymru heb fod yn ddwy-ieithog. Neges i Carwyn. Ond beth am rheini sydd wedi gadael yr ysgol?

Dim ond y dewr sydd ym mynd ati i ddysgu iaith ar ôl gadael ysgol. I’r rhan fwyaf o bobl mae trio gwneud bywoliaeth, magu teulu, diddordebau arall, Eastenders ar y teli yn mynd i fod yn ormod o gystadleuaeth. “I wish I could speak Welsh” neu “I wish I’d learnt the language in school” fydd hi. Neu gyda’r cymal “but I went to school in Pembroke Dock”. Ddim mor hawdd wedyn.


Soniais wythnos dwetha am Nigel o’r grwp pop Half Man Half Biscuit o Gaergwrli yn dysgu’r Gymraeg am ei fod yn ffan o gerddoriaeth Gorky’s Zygotic Mynci. Dyma lle mae angen i ni fod yn fwy siarp. Os oes cyfleodd i ddysgu yn Llandrindod mae angen i ni gyd gynnig fwy o resyma iddynt dros wneud yr ymdrech.

Wednesday, 23 August 2017

Uchafbwyntiau'r Steddfod, Herald Gymraeg 23 Awst 2017

Nigel o Half Man Half Biscuit

“Wyt ti’n gwybod lle ti’n mynd?” medda’r dyn bach wrth fynedfa’r Steddfod. “Dwi di treulio fy holl fywyd ddim yn gwybod lle dwi’n mynd” oedd fy ymateb gan chwerthin yn uchel. Wrthgwrs mae gennyf syniad a chyfeiriad ond mae yna rhywbeth am lwybr bywyd yndoes. Tydi’r arwyddbyst ddim o hyd ar gael, ddim o hyd yn cyfeirio rhywun ar y llwybr cywir. Crwydro ydi’r gair mae’n debyg.

Crwydro. Dilyn fy nhrwyn. Crwydro yn reddfol. Seico-ddaearyddiaeth fel cwrs bywyd.Treulais rhan helaeth o wythnos y Steddfod yn Y LLe Hanes. Treulias rhan helaeth o’r amser hynny yn sgwrsio hefo pobl gan gadw nodiadau am olchfeydd defaid, tai cwrdd cynnar Methodistaidd, bwyeill Neolithig ac Oes Efydd, hyn a llall archaeolegol o Lŷn ac Eifionydd i fwynder Maldwyn a Dyffryn Cowny.

Gofynnodd sawl un pryd fydd y gyfres nesa archaeolegol ‘Olion’ ar S4C? Oes wir mae yna ddiddordeb mewn hanes ac archaeoleg ymhlith y werin Steddfodol. Ar un adeg byddwn yn ymateb drwy awgrymu fod pobl yn sgwennu at S4C yn gofyn am gyfres arall. Bellach dwi jest yn gwenu ac yn dweud S4C. Oes unrhyw bwynt sgwennu atynt dwedwch? Gyda chyn llied o hanes ac archaeoleg ar ein unig sianel Gymraeg rwyf yn ofni fy mod bron byth yn gwylio’r sianel bellach.

Holwyd Y Blew yn y Babell Lên, a hynny 50 mlynedd ers rhyddhau y sengl ‘Maes B’. Methais a chyrraedd oherwydd y gwaith. Wedi dweud hynny, petae Griff Lynch, yr holwr, heb fy atgoffa mae’n debyg na fyddwn wedi gwybod am y digwyddiad. O feddwl am bwysigrwydd Y Blew o ran Hanes Pop Cymraeg mae’n syndod i rhywun fel fi fod hwn yn ddigwyddiad mor ‘ddistaw’. Bron yn danddaearol onibai am y Babell Lên.

Synnais rhywsut nad oedd neb o’r trefnwyr wedi cysylltu a’n sioe radio Nos Lun ar Radio Cymru. Byddwn wedi rhoi sylw iddynt. Byddwn wedi dod draw i recordio pwt. Cydweithio? Hyrwyddo? Dwi ddim yn dallt hyn. Ella fod y Babell Lên yn orlawn ta beth a doedd dim angen mwy o hyrwyddo. Mae’r Blew yn haeddu gwell, yn haeddu mwy o sylw – does dim modd rhoi gormod o sylw iddynt. Tydi’r @Blew ddim yn trydar.

Ymwelais ar Lle Celf. Diddorol, achos doedd fawr o Sêr Pop Cymraeg yn yr agoriad swyddogol. Credaf (erioed neu oleiaf ers 1979)  fod angen mwy o ryngweithio rhwng y digyblaethau celfyddydol Cymreig. Credaf fod angen chwalu ffiniau celfyddydol ond yr hyn sydd yn boenus o amlwg yw fod y celfyddydau Cymraeg yn bodoli rhy aml o lawer yn eu swigod unigol.

Christine Mills

Do fe lwyddodd Christine Mills am yr eil-waith i greu darn syfrdanol o waith o ddarn o wlan – syfrdanol!. Atgoffir rhywun bron o gadair-drydan Gary Gilmore, a anfarwolwyd gan The Adverts ar y sengl ‘Gary Gilmore’s Eyes’. Saif gwaith Christine Mills pen a chynffon uwch y mwyafrif o ddarnau yn y Lle Celf. O wlan Yr Ysgwrn, union 100 mlynedd ar ôl y ffaith, ac yn awgrymu fod angen i bawb ohonnom fod chydig bach mwy am ein pethau os am osgoi mwy o Trumps.

Gosodiad Manon Awst tu allan y LLe Celf hoeliodd yr archaeolegydd ynof. Gan gynnwys botaneg, daeareg ac archaeoleg llwyddodd Awst i bonito cyfnodau a disgyblaethau. Hi efallai, gyda Christine Mills, sydd yn arloesi go iawn yma. Gwhaoddwyd Ffion Reynolds (Cadw) a minnau i wneud ychydig o waith cloddio archaeolegol yn y gosodiad gan Manon.
Mewn sawl ffordd dyma oedd uchafbwyt y Steddfod i mi. Rhaid cyfaddef fod cael cloddio yn baw yn gwneud hen punk 55 oed yn ddigon bodlon. Wrth drafod ein ‘ymyraerh celfyddydol’ hefo Ffion a Manon gofynais a’i dyma’r tro cyntaf i osodiad / gwaith celf gael ei gloddio yn archaeolegol?

Manon Awst

Rhaid rhoi canmoliaeth hefyd i osodiad Lindsey Colbourne a Lisa Santana yn seiliedig / wedi ei ysbrydoli gan Mynydd Parys. Marblis a cherddoriaeth. Lindsey wedi dysgu Cymraeg – does na ddim gair o Saesneg rhynddom bellach. Addas. Braf iawn ar y Maes.
Felly roedd ambell ddarn yn Y LLe Celf wirioneddol yn rhagori ond mae yna deimlad ym mer fy esgyrn fod angen rhywun ifanc i roi ysgytawd go iawn i’r Byd Celf Cymreig. Rhy fach. Rhy glud. Rhy gyfforddus. Rhy ynysig. Angen Punk Rock.

Uchafbwynt arall oedd cyfarfod Nigel o’r grwp Half Man Half Biscuit. Nigel wedi dysgu Cymraeg a finnau wedyn yn gofyn y cwestiwn twp iddo. Pam? Ateb Nigel oedd Gorky’s Zygotic Mynci (a’r Anhrefn). Cofiaf Half Man Half Biscuit ar John Peel. Arwyr Cilgwri. Ond unwaitheto, dim gair o Saesneg, dim angen. Rhyfeddol.

Gan fod Nigel wedi colli ei wallt, go brin byddai fawr o’r Eisteddfodwyr wedi ei adnabod. Hyd yn oed yn anterth Half Man Half Biscuit fydda’r rhan fwyf ddim callach. Dyma rhywbeth arall sydd yn poeni rhywun braidd am y Byd Cymraeg. Roedd sgwrs Casi Wyn a genod Adwaith am ffeministiaeth yn Y LLe Celf yn wefreiddiol ac heriol. Heriol o ran hyder y pedair ifanc. Rhy hyderus i dderbyn label.

Roedd gigs Twinfield, Ani Glass a HMS Morris yn dangos pa mor bell da ni wedi crwydro ers dyddiau’r triawdau a’r pedwarawdau acwstig. Ond, roedd y mwyafrif yn rhy brysur yn bwyta ‘fish and chips’ i gyfeiliant canol y ffordd i sylwi, i fynychu, i ymddiddori. Os caiff unrhywun o’r artistiaid  rhain lwyddiant yn Saesneg bydd pawb yn honni fod nhw yno yn Caffi Maes B, Steddfod Mon, 2017 fel yn achos y Free Trade Hall, Manceinion gyda’r Sex Pistols.

Ani Glass


Fell, pethau da, pethau rhagorol ond dwi dal ddim yn credu byddai’r Clash wedi canu o flaen pobl yn bwyta eu ‘fish and chips’. Mae angen mwy o barch!

Thursday, 17 August 2017

Celf Luned Rhys Parri, Herald Gymraeg 16 Awst 2017




Mae cymeriadau’r arlunydd Luned Rhys Parri yn symud. Er mai cymeriadau o bapur mache o fewn ffram ydynt mae yna yn sicr symudiad. O edrych ar y cymeriadau, mae rhywun yn gweld fod y bagiau llaw (handbags) bob amser yn yr awyr, yn cael eu chwifio neu gerfydd sgil gwynt y symudiad corfforol yn y llun. Rhyfeddol.

Symud hefyd mae’r coesau. Golwg o’r ochr gawn fel arfer o gymeriadau Luned. Does dim portread statig, dim portread o wyneb mewn ffram. Mae popeth ar frys rhywsut, mae yna le sydd angen ei gyrraedd, ond tyda ni fel y gynulleidfa byth yn ymwybodol o lle bydd diwedd y daith. Nid dyna sydd yn bwysig yma. Jest cyfleu y symud er mwyn creu y darlun.

Na, dwi ddim yn credu fod y daith yn holl bwysig o gwbl. Croesi Maes Caernarfon mae rhai o’r cymeriadau. Y bag llaw yn chwifio. Weithiau mae ci anwes ar y daith hefyd. Tro arall mae’r holl symud o fewn y gegin wrth i nain arllwys neu baratoi y banad o de. Oes mae prysurdeb o fath ond mae o yn brysurdeb hamddenol mewn oes heb ormod o brysurdeb. Prysur yn tywall y te.

Hawdd yw adnabod cymeriadau Luned Rhys Parri. Ar ei fwyaf syml mae rhywun yn gweld ‘nain’, y neiniau hynny oedd yn gwisgod ffedog a sgarffiau, sgarff am y pen er mwyn atal y gwynt. Perthyn i oes o’r blaen. Tydi’r cymeriadau yma ddim mor gyffredin bellach. Rhywsut mae colled ar eu hol. Dim ond Luned sydd yn cofnodi.

Rhain oedd yn glanhau’r stepan drws. Rhain oedd yn gwisgo ffedog i lanhau’r tŷ neu i wneud panad o de. Rhain oedd yn cael ‘ffag’ bach dirgel pan doedd neb yn edrych. Dim ond y neiniau fedrai dorri’r torth o fara mor dena – doedd ru’n taid yn gallu gwneud hynny – chwarelwr neu ddim. Stiwio’r te hefyd, nes fod hwnny yn driagl du, a oedd yn sicr yn amhosib i’w lyncu i ni lanciau yn ôl yn y dydd.

Dwi’n eu cofio yng Nghaernarfon yng nghaffis bach y dre. 1980au. 1990au. Yn smocio ac yn rhegi fel unrhyw foriwr. Y smocio oedd y peth mwyaf od. Cyn y gwaharddiad roedd y neiniau Cofi siwr o danio sigaret jest fel roedd Mr Mwyn yn bwyta ei ffa pob ar dost. Doedd dim byd gwaeth – mwg sigaret yn ymharu ar y ffa pob cynnes. Peth od ynde ond doedd fawr o Gymraeg rhwng y mwg a’r ‘baked beans’ rhywsut.

Rhaid cyfaddef, does dim geiriau y medraf eu pledu at bapur fel hyn sydd yn mynd i wneud cyfiawnder a gwaith celf Luned Rhys Parri. Rhaid gweld y gwaith celf yn y cnawd. Rhaid bod yn agos i weld wynebau crach y cymeriadau ac i fwynhau’r lliwiau. Kitsch ar ei ora. Nid kitsch i’w anwybyddu ond kitsh i’w fwynhau.Kitsh lliwgar a mae hynny yn beth da. Kitsh fel oedd ond yn bosib dyddiau cynnar teledu lliw.

Fe awgrymwyd unwaith fod yr arlunydd Christopher Williams heb gael y clod haeddiannol achos fod Ausgustus John a J D Innes yn rhy swnllyd, yn rhy or-uchel eu clochau. Heb weiddi creodd Williams campweithiau fel golygfa Coedwig Mametz neu’r portread hynod hwnnw o Hwfa Môn sydd ym meddiant y Llyfrgell Genedlaethol.

Tydi Luned Rhys Parri ddim yn un i weiddi chwaith, mae hi yn creu yn dawel ac yn creu cymeriadau llawn cyffro a llawn cymeriad. Ond mae’r gwaith a’r cymeriadau yn wych ac efallai fod angen rhywun yn rhywle i weiddi ac i or-ganmol ychydig. Dyma fy mhregeth yr wythnos hon – dyma waith celf sydd yn gweiddi am fwy o sylw.


Bydd arddangosfa Luned Rhys Parri yn Oriel Ynys Môn hyd at y 10fed o Fedi.

'Anus of the North', Herald Gymraeg 9 Awst 2017



Castell Dolforwyn

‘Anus of the North’. Rhaid chwerthin. A dweud y gwir roedd yr awgrym am gylch enfawr (gosodiad celfyddydol) ger Castell Y Fflint yn gofyn amdani. Byddai unrhywun hanner call wedi rhagweld fod unrhyw awgrym o gylch dur / ‘Ring of Steel’, gormes Edward I, ’da ni wedi ein gormesu wedi’r cyfan ers Rhagfyr 1282 neu oleiaf Gwanwyn 1283 yn gofyn amdani.

Efallai na sywleddolodd y penseiri o Lundain a Swydd Chaerloyw, George King Architects, arwyddocad cylch o’r fath. O’r hyn rwyf wedi ddeall roedd eu pwyslais nhw ar y ffaith fod Rhisiart II wedi ei fradychu yng Nghonwy a wedyn wedi ei drosglwyddo i Gastell Fflint yn 1399. Doedd dim son ganddynt am Edward I na chestyll Harlech, Cowny, Caernarfon a Biwmares sef y cylch dur olaf mwy nac oedd son am Rhuddlan, Aberystwyth neu Llanfair um Muallt.

Rwan, fe all rhywun ddadlau fod Rhisiart II yn berthnasol iawn i hanes Cymru. Wedi’r cyfan onid oedd yr arch-arwr Cenedlaethol, neb llai na Owain Glyndŵr, wedi bod ar gyrchoedd ochr yn ochr a byddin Rhisiart II yn yr Alban – a hynny yn erbyn ei gyd -frodyr Celtaidd. Dyma ran o’r esboniad am gyfoeth Owain a’r estyniadau hynny yn Sycharth a ddisgrifiwyd yng nghywydd Iolo Goch.

Petae Bollingbroke (Harri IV) heb lwyddo i gamarwain Rhisiart yn y cyfarfod tyngedfennol hwnnw yn y capel yng Nghastell Conwy, mae lle i ddadlau y byddai’r Arglwydd Grey wedi bihafio a na fyddai gwrthryfel Glyndŵr rioed wedi digwydd? Pwy o wyr? Dwi’n ‘chwarae’ hefo hanes yma.

Uchelwr oedd yr arch-arwr. Yn nghyd-destun y Rhyfel Dosbarth byddai Glyndŵr yn erbyn y wal ochr yn ochr ac Argwydd Penrhyn. Ha, a dyna chi gysyniad hyd yn oed fwy heriol a doniol nac awgrym celfyddydol naif George King.

Bron yn syth roedd yna ddeiseb. 10,000 a mwy wedi arwyddo yn gwrthwynebu’r fath sarhad arnom fel Cymry. Os dwi di dysgu unrhywbeth o astudio Hanes Cymru dros y blynyddoedd mae’r Cymry wrth eu bodd hefo’r dyddiad 1282 – er mai 1283 ydi diwedd y frwydr go iawn. Rydym yn hapusach wedi ein gormesu.

Nid fy mod yn anghytuno yn llwyr, a nid am eiliad yr wyf yn awgrymu nad ffolineb o’r eithaf oedd hi i beidio rhagweld y fath ymateb ond heb os roedd un yn boenus o ddisgwyliadwy. Tydi 1282 yn golygu dim i mi. Fel soniodd Chuck D o Public Enemy “Elvis means shit to me”. Dwi ddim yn feddyliol gaeth i unrhyw ormoes hanesyddol.
Wrth i Bob Marley ganu yn Redemption Song:
Emancipate yourselves from mental slavery
None but ourselves can free our minds 
rwyf yn ochri gyda doethineb Marley – y ni sydd yn caniatau cysgod Edward I fod yn ormesol. Fel gyda’r Unoliaethwyr yn yr Iwerddon yn rhygnu am Frwydr Boyne, 1690, mae hyn yn ormes meddyliol o ddewis. Hunnan-frifo, ac y ni sydd yn dlotach ein hysbryd.

Datganiad Cadw “Rydym yn cydanabod fod celf yn rhannu barn ac yn gallu ysgogi trafodaeth” (24.07.17)

Datganiad Ken Skates “Rydym wedi gwrando ac yn cydnabod fod teimladau cryf ynglyn a’r gosodiad celf yng Nghastell Fflint” (26.07.17)

Ar y 16 ac 17fed o Fedi byddaf yn cynnal teithiau tywys yng nghestylll Dolforwyn a’r Bere. Digon o waith bydd y mwyafrif o’r 10,000 fydd wedi gwrthwynebu’r darn metal ‘dibwys’ go iawn yn mynychu. Mae’n haws cywno am Edward I na mynd am dro i ail-berchnogi’r cestyll Cymreig, Cestyll tywysogion Gwynedd. Anweledig. Unig.


Eto yn ysbryd Bob Marley, dim ond y ni all ail-berchnogi ein hanes. Cewch gwyno am Cadw, Ken Skates, y Cyngor Celfyddydau, y gyfundrefn addysg ond heriaf y deisebwyr mewn Cwis Tafarn. Lle mae Castell Dolforwyn? Faint sydd wedi bod yno?