Monday 24 October 2011

Herald Gymraeg 12 Hydref 2011 Eglwys Pistyll.

Yn ol y son fe sefydlwyd Eglwys Sant Beuno, Pistyll gan y Sant ei hyn er mwyn iddo gael osgoi holl fwrlwm a phrysurdeb yr Eglwys yng Nghlynnog Fawr a hyn rhywdro yn ystod y 6ed Ganrif. Bellach wrthgwrs mae rhywun yn tueddi i feddwl am Eglwys Pistyll fel rhan o’r eglwysi penodol ar afordir Gogleddol Penrhyn Llyn sydd ar Lwybr y Pererinion. Ond mae’n ddiddorolol iawn meddwl am Sant yn gorfod ffoi rhag llwyddiant ei eglwys ei hyn er mwyn iddo gael y llonyddwch angenrheidiol i gael agosatrwydd at Dduw.
                Gyda’r holl eglwysi hynafol yma, cwestiwn da yw faint o’r adeiladwaith presennol, os o gwbl, sydd yn dyddio yn ol i gyfnod y Seintiau. Y tebygrwydd yw mae adeilad syml o bren fyddai’r lloches gyntaf gan y rhan fwyaf o’r seintiau a mae yn ddiweddarach wedyn daeth yr adeiladwaith o gerrig. Yn wir yn y rhan fwyaf o’r Eglwysi hynafol yma mae rhwyun yn gweld cyfnod ar ol cyfnod o adeiladu, ychwanegu, ail godi nes fod rhwyun yn aml iawn yn edrych ar glytwaith cymhleth, ac ar adegau anealladwy, o wahanol gyfnodau ac arddulliau  pensaerniol.
                Yn ol y son mae ochr orllewinol yr Eglwys yn dyddio o’r 12fed Ganrif, a’r ochr ddwyreiniol wedyn yn dyddio i’r 15fed Ganrif. Ar un adeg doedd dim ffenestri yng nghorff yr Eglwys gan fod y werin bobl yn anllethrennog a felly ddim angen gallu gweld er mwyn darllen. Doedd yna ddim seddau iddynt chwaith, felly y disgwyl oedd iddynt sefyll neu i benlinio. Yn y gangell oedd yr unig ffenestri. Er hyn roedd lle i rhai oedranus neu sal i gael eistedd ar silffoedd carreg ar ochr y wal a mae olion y silffoedd yma i’w gweld yn y gangell.
                Bydd yr ymwelydd heddiw yn gweld to pren, lle bu unwaith to gwellt a hefyd un o’r nodweddion mwyaf diddorol am Eglwys Pistyll yw’r arfer o roi gwellt ar y llawr. Ers 1969 bu’n arferiad i addurno’r Eglwys gyda pherlysiau meddyginiaethol gwyllt a hynny tair gwaith y flwyddyn, adeg y Nadolig, Pasg a Chalan Awst. Yn sicr mae hyn yn rhoi naws ac awyrgylch arbenig i’r Eglwys.
                Nodwedd arall arbenig yw’r bedyddfaen hynafol gyda ei cherfluniau cylchog arbenig sydd yn plethu i’w gilydd. Awgrymir gan Gymdeithas Geltaidd Glasgow fod y ddwy res o leision addurnedig  yn cyfleu y syniad o fywyd heb ddechrau na ddiwedd.
Mae’r Eglwysi hynafol  ’ma yn gafael wyddoch chi a storiau arall sydd yn gysylltiedig a Phistyll yw’r ochr meddyginiaethol, yr hen ysbyty ar Fryn Cefnedd a’r caeau lle arhosia’r claf gyda enwau fel Cae Hosbis a Chae Eisteddfa. Yn wir mae’r ffenestr yn yr ochr Ogleddolyr Eglwys  hyd heddiw yn cael ei chyfeirio ati fel Ffenestr y Gwahangyflwyr. Dyma lle roedd y trueniaid yn cael sefyll ar y tu allan ac edrych i mewn ar y gwasanaeth !
Ger llaw mae ffynnon sanctaidd ond mae llechi trwm yn cuddio’r ffynnon. Mae yma arwydd taclus ond dim modd rhoi eich llaw yn y dwr. Ymdrechais i symud ychydig ar y llechi ond mewn ofer. Pam gorchuddio’r ffynnon ? Onid dyma stori Ffynnon Aelhaearn yn Llanaelhaearn, dan do a than glo, ffynnon Santes Fair yn Nefyn, eto  dan glo. Yw fandaliaeth mor ddrwg a hynny ym Mhen Llyn ? Os felly mae angen ymdrechu i greu fwy o falchder ac ymwybyddiaeth o fro a hanes ymhlith y bobl ifanc golledig yma ? Ar agor i’r cyhoedd mae Ffynnon Santes Fair ym Mryncroes – pam y gwahaniaeth ?
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen a’r tir cyfagos a mae modd cerdded drosodd am Benrhyn Glas a thrwy’r chwarel wedyn i gyfeiriad Canolfan Nant Gwrtheyrn felly hawdd iawn fyddai gwenud diwrnod neu prynhawn da iawn o ymweld a’r hen Eglwys a wedyn cerdded drosodd am Nant Gwrtheyrn. Awr union gymerodd i mi gyrraedd y caffi yn Nant Gwrtheyrn (a hwnnw er mawr siom yn gaeedig) felly ewch ar y penwythnos yr adeg yma o’r flwyddyn !
Rheswm arall dros ymweld a Mynwent Pistyll oedd i gael hyd i garreg fedd yr actor Rupert Davies. Rwan does dim pwrpas gofyn i bobl leol am garreg fedd Rupert Davies achos mae pawb yn ei adnabod fel “Maigret”. Maigret oedd y gyfres deledu rhwng 1960 -63 a oedd yn seiliedig ar storiau Geoges Simenon a’r cymeriad Commissaire Jules Maigret, y ditectif hynod hwnnw. Gall rhywun ddychmygu’r cynnwrf ym Mhistyll wrth gael actor enwog yn byw yn eu plith.
Yn ol y son, ar ol i Rupert Davies gael cynnig y rhan gan y cynhyrchydd Andrew Osborn bu i Simenon gyhoeddi  “C’est Maigret, c’est Maigret, chi yw cnawd ac esgyrn Maigret” a bu Simenon yn gyfrifol wedyn am hyfforddi Davies yn ffyrdd ac arferion anarferol ac od cymeriad y ditectif.
Ganed Davies yn Lerpwl ym 1916, felly dydi’r syniad o ymddeol i Ogledd Cymru efallai ddim mor anarferol a hynny. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu yn y Llynges ac yn dilyn damwain awyren cafodd ei ddal gan yr Almaenwyr a bu’n garcharor yn y carchar enwog Stalag Luf III ac yma cychwynodd ei yrfa fel actor, yn diddanu’r carcharorion eraill.
Rydym yn cofio Davies yn action mewn cyfresi fel Quatermass II, The Champions ac Arthur of the Britons ar y teledu ac yn ddiddorol iawn o ystyried fod dehongliad newydd o “The Spy Who Came in from the Cold” ar fin cael ei rhyddhau fe chwaraeodd ran Geroge Smiley yn y ffilm wreiddiol ym 1965.
Wrth gyrraedd mynwent Pistyll fe welwch hen bwll pysgod y mynaich ar eich ochr chwith a wedyn wrth fynd drwy fynedfa’r fynwent mae “bedd Maigret” i fyny ar yr ochr dde ger wal y fynwent, yn garreg las o lechan gyda ysgrifen aur. Bu farw Rupert Davies ym 1976.
Pwy fysa’n dychmygu fod cymaint o bethau gwahanol o ddiddordeb yn rhywle fel Pistyll, a mae hyn heb ddechrau son am Tom Nefyn ! Dyma Eglwys hynafol gyda naws arbennig. Dyma safle holl bwysig ar Lwybr y Pererinion ac os di hynny ddim at ddaint pawb dyma gysylltiad hefo’r ffilm “The Spy Who Came In From The Cold”  - rhywbeth i bawb !

No comments:

Post a Comment