Monday 24 October 2011

Herald Gymraeg 19 Hydref 2011 Mynediad i Henebion

Rhwystredigaeth yw’r ddolen gyswllt yr wythnos hon a’r hyn sydd dan sylw yw’r anhawster ar adegau i sicrhau mynediad i rai o’n henebion ni yma yng Ngogledd Cymru. Fe soniais yn y golofn yr wythnos dwetha am rai o ffynhonnau Llyn sydd dan do a dan glo. Efallai fod hynny yn angenrheidiol nes fod “ymddygiad gwrth-gymdeithasol” yn cael ei ddatrys a dyma mae’n debyg yw’r rheswm fod Tomen y Bala bellach dan glo.
                Yn gwisgo fy het “dysgu” roeddwn wedi treulio bore bendigedig yn Ysgol y Berwyn, a rhaid dweud mae dyma’r disgyblion ysgol / pobl ifanc mwyaf cwrtais i mi eu cyfarfod ers amser. Yno i son am gychwyn busnes fel rhan o gynllun Dynamo (Menter a Busnes)  oeddwn i a phleser oedd cael dosbarth o bobl ifanc 14 oed yn gwrando ac yn trafod. Anodd gennyf gredu fod unrhyw broblemau gwrth-gymdeithasol yn y Bala o ystyried y fath gwrteisi a welais yn Ysgol y Berwyn.
                Ar ol gorffen yn yr Ysgol fe es draw i Gapel Tegid i dynnu llun o gofeb Thomas Charles, galwais heibio am sgwrs yn Awen Meirion, cefais ginio ardderchog yn Caffi’r Cyfnod a wedyn ymlwybrais draw am yr hen domen (caeedig). Unwaith eto dim ond croeso a chwrteisi a welais ar strydoedd Bala, yr Iaith Gymraeg oedd iaith y stryd a phawb yn trio eu gorau i gael hyd i’r goriad i mi gael cerdded i ben y domen.
                O gopa’r domen mae cynllun strydoedd Balw i’w gweld ac yn benodol y drefn grid sydd yn nodweddiadol o hen drefi canol oesol lle roedd y tir yn cael ei rannu mewn plotiau “burgage” ymhlith y trigolion. Ond chefais i ddim y profiad yma, ofer oedd chwilio am y goriad, ac yn y diwedd penderfynais ar dacteg wahanol. Dyma dynnu lluniau drwy’r ffens fawr oedd yn gwarchod y castell. Mae gennyf luniau tebyg o ran cyfleu y rhwystr rhag mynediad o Gor y Cewri drwy’r  ffens weiran o amgylch y safle.
                Y peth arall od am Domen y Bala yw fod yr holl beth wedi ei dirweddu, mae yna lwybr i’r copa, a choed wedi eu planu – a hyn ar safle hen gastell Normanaidd o’r 11eg neu 12fed Ganrif. Ni chefais fy argyhoeddi o gwbl gyda’r “tirweddu” er fel y deallais fod hyn wedi creu gwaith i bobl ifanc oedd angen gwaith sydd bob amser yn rhywbeth i’w ganmol mewn egwyddor.
                I’r gogledd o Lyn Tegid, mae cymaint a phedair safle lle codwyd cestyll o bridd a phren - sef ar hyd lannau’r Dyfrdwy, rhai yn Normanaidd ac eraill o bosib yn rhai Cymreig, yr holl gestyll yn awgrymu fod rheoli a chadw threfn ar yr adral yma wedi bod yn bwysig yn ystod y Canol Oesoedd. Tomen y Bala yw un o’r mwyaf o ran maint a’r awgrym felly yw mae yma oedd canolfan maerdref ardal Tryweryn.
                Ar daith arall bu i mi daro mewn i Nefyn, eto cael cinio rhagorol y tro yma yn Nghaffi Penwaig,  ac i ddefnyddio iaith disgyblion ysgol dyddiau yma, mae wy, pys a sglodion Caffi Penwaig yn haeddu “A- Serenog”. Dros y ffordd a’r caffi mae’r hen dwr gwylio, yn amlwg newydd ei atgyweirio. Ond unwaith eto dan glo. Unwaith eto rhaid dringo ar ben wal a thynu llun dros y ffens. Dim byrddau dehongli, dim mynediad. Piti.
                A’r engraifft olaf yr wythnos hon, a hyn ychydig yn wahanol ac i ddweud y gwir yn hollol eithriadol. Yn gwisgo fy het “darlithydd” mae gennyf ddosbarth Dysgu Cymraeg / Archaeoleg (Dysgu Gydol Oes) drwy Brifysgol Bangor bob bore Mercher yn festri Capel Ebenezer, Llanfairpwll, rwan fel yr arfer rydym yn cael egwyl am baned tua’r hanner amser a dyma un o’r dosbarth yn sylwi fod rhywun wedi dringo i ben Twr Ardalydd Mon. Yr argraff gyntaf oedd fod rhywun ar fin neidio o ben y twr mewn gweithred o huanladdiad dramatig dros ben nes i ni sylweddoli fod mwy nac un ar y twr ac yn wir fod rhaffau yn eu clymu rhag disgyn.
                Dipyn o ddirgelwch felly, efallai fod yna waith cynnal a chadw ar y golofn, felly dyma ddychwelyd at y dosbarth. Ond roedd gormod o chwilfrydedd gennyf i deithio yn syth adre felly dyma benderfynu cael dro bach i weld beth oedd yn digwydd ar ol cloi’r festri. Wrth gyrraedd y bwthyn bach lle mae rhywun yn talu mynediad i gael cerdded y 115 stepan i ben y twr dyma gael gwybod nad oedd posib mynd i fyny’r twr ar y diwrnod hwn.
                Dyna siom meddyliais. “Oes gwaith cynnal a chadw felly ?” Yr ateb oedd fod myfyrwyr Coleg Llandrillo yma yn dringo ar y twr – un o’r cyrsiau “magu hyder” - drwy ddringo lawr o uchder – felly roedd y golofn wedi ei chau i’r cyhoedd ond roedd croeso i mi aros a gwylio am ychydig. Unwaith eto dyma glywed lleisiau Cymraeg yn uchel uwch fy mhen, 112 troedfedd i fod yn fanwl gywir, a dyma wylio disgyblion o Bwllheli yn trechu unrhyw ofnau ac yn disgyn yn esmwyth ger eu traed wrth ddal y rhaff gan daro’r ochr nawr ac yn y man gan ddisgyn i lawr troedfeddi ar y tro.
                Diddorol iawn, dim gormod o rwystredigaeth gan fy mod yn Llanfairpwll bob bore Mercher am y deg wythnos nesa felly bydd digon o gyfle i mi gael troedio’r 115 stepan yn yr wythnosau i ddod. Efallai mae’r awgrym caredig yw fod angen cyfeiriad neu rhif ffon os yw’r henebion yma yn mynd i fod dan glo, a fod y broses o gael hyd i a benthyg y goriad yn un gymharol hawdd achos mae yna bobl allan yna hefo diddordeb ac sydd yn sicr o barchu’r henebion.

No comments:

Post a Comment