Wednesday 23 November 2011

Graffiti FWA Herald Gymraeg 25 Tachwedd 2011

Ar un o fy nheithiau draws gwlad, dyma ddod ar car i stop yn sydun, dwi newydd weld rhywbeth sydd wedi dwyn fy sylw. Dwi ddim yn siwr pa het dwi’n wisgo, yr un “canu pop” ta’r un “archaeoleg” ond dyma fi yn neidio allan o’r car. Mae’r camera bach digidol gennyf bob amser felly llun amdani.
                Rwyf wrth orsaf Tren Llyn Tegid, ochr Bala i’r llyn, ac ar bont y rheilffordd mae yna “graffiti Cymraeg” fel soniodd y grwp Anweledig , graffiti “F.W.A” sef y Free Wales Army wrthgwrs. Cwestiwn cyntaf oedd yn mynd drwy fy meddwl (gwisgo’r het archaeoleg) oedd pam mor hen yw’r graffiti ? Yw hwn yn arwydd sydd wedi goroesi ers y 60au hwyr ? Rydym yn y lle iawn mewn ffordd, ychydig o filltiroedd o Dryweryn.
                Ar y llaw arall mae nifer wedi parhau a’r arfer dros y blynyddoedd o beintio sloganau sydd yn cefnogi’r ymgyrch Iaith, felly fe all hwn fod yn genedlaetholwr diweddarach yn ceisio ail danio awydd am annibyniaeth i Gymru. Pwy a wyr, ond yn sicr mae’n drawiadol,ac  ar y bont gwelwn hefyd y cyhoeddiad swyddogol  “Yr Orsaf Bala Station” ond mae hwn hyd yn oed wedi ei baentio ar y bont mwen ffordd ddigon ffwrdd a hi.
                Rwan fe gofiwn am y sylw diweddar i’r slogan “Cofiwch Dryweryn” ar y wal ger ochr yr A487 ger Llanrhystud, slogan sydd bellach yn cael ei ystyried yn un o eiconau Cymru. Os cofiaf yn iawn fe gytunwyd i gadw’r slogan a hynny gan CADW, dwi’n siwr bydd rhywun yn fodlon ysgrifennu at yr Herald i’n diweddaru ar y mater hwn ? Ond yn gwisgo fy het “canu pop” mae’n bosib dadlau fod Cofiwch Dryweryn hefyd yn engraifft Cymreig o’r hyn a wnaethpwyd gan arlunwyr fel Richard Hamilton yn ystod y 60au sef “Celf Pop” (Pop Art yn y Saesneg).
                Felly dyma ni ger Llyn Tegid, Bala a dyma engraifft arall o’r graffiti gwleidyddol yma, yr un hanes, y 60au, boddi Tryweryn, sefydlu Cymdeithas yr Iaith, yr Arwisgo, Dafydd Iwan yn canu “Carlo” ……… mae’n rhaid fod yna ddadl gadwraethol, hanes cymdeithasol/gwleidyddol /celfyddydol dros sicrhau fod graffiti o’r fath yn cael ei gadw. Yr union ru’n ddadl sydd yna dros gadw’r tomeni llechi – da chi peidiwch a dinistrio ein hanes – da chi peidiwch ac anghofio ein hanes.
                Sylwais fod ymgyrch wedi ei sefydlu i gadw’r slogan ger Llanrhystud. Rwan mae angen rhywbeth tebyg ar gyfer holl graffiti gwleidyddol Cymreig o’r 60au/ 70au a hyd yn oed yr 80au cyfnod ymgyrch sefydlu S4C. Bellach mae hyn oll yn archaeoleg, yn rhan o hanes, nid graffiti sydd angen ei lanhau yw hyn ond graffiti sydd angen cael ei drin fel gwrthrych amgueddfaol – ond ei fod yn y gymuned yn hytrach na thu cefn gwydr !
                Byddai’n ddiddorol iawn clywed gan ddarllenwyr yr Herald, gan bobl Penllyn, ond hyd yn oed gyda ymwelwyr i’r rheilffordd bach rhwng Llanuwchllyn a Bala mi fyddwn yn dadlau fod angen bwrdd gwybodaeth ger yr orsaf yn Bala, yn rhoi hanes a chefndir yr FWA iddynt, y cyd-destun gwleidyddol, hyd yn oed apps bach gyda QR Code lle mae rhywun yn taro ei iPhone ac yn cael tudalen ar Cayo Evans, y FWA, MAC a wedyn awgrym eu bod yn mynd fyny wedyn i gael gweld Llyn Tryweryn. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen am hyn – ond llwybr hanesyddol yn dangos y frwydr yn ystod y 60au – mae yr un mor berthnasol, diddorol a phwysig ac unrhyw lwybr y Tywysogion (Llywelyn 1 a 2) neu gestyll Edward 1af.
                Gyda nifer o’r hen orsafeydd rheilffyrdd mae yna deimlad yn aml iawn o’r oes a fu, o gamu yn ol mewn amser, i rhyw olygfa o’r ffilm ddoniol honno gyda Arthur Askey “The Ghost Train”, a felly hefyd gyda’r orasf yma yn y Bala. Yn wir yn ogystal ar slogan FWA mae nifer o hen arwyddion yn dal i fod ar ochrau wal brics y bont. Sylwais ar hysbysebion, wyddo’chi yr hen rai ar damad o fetal tin, yn hysbysebu “Spratts Dog and Puppy Biscuits”,  “Allsop Milk Stout”  a  “Fry’s Chocolate”. Cofnod o gyfnod. Yna o hyd. Diddorol. Diddorol eu bod wedi cael llonydd.
                Gyda llaw teithio yn y car o’ni, nes i ddim mynd am dro ar y tren, dwi ddim hyd yn oed yn siwr os oedd y tren yn rhedeg gan fod tymor yr ymwelwyr drosodd, felly cefais yr orsaf i mi fy hyn, cefais amser yno i dynnu lluniau ac i ryfeddu ac i ddychmygu – ac i feddwl am lunio llythyr i CADW – rhaid cadw’r slogan !
                Rhywbeth arall sydd wedi bod yn fy mhoeni / corddi yn ddiweddar ac unwaith eto yn gwisgo fy het “canu pop” yw’r synaid yma nad oes enw Cymraeg am “Pop Culture”. Wrthgwrs mae’r cyfieithiad “Diwylliant Pop” ond dwi ddim yn siwr os yw hynny yn cyfleu yr un peth. Fy nadl i yw fod slogan yr FWA yn “Pop Culture”, yn union yr un ffordd ac roedd y ffilm o Tony ac Aloma yn croesi Pont Telford mewn car sport heb do, neu Efa y ferch noeth yn Lol, ac yn sicr y posteri gwreiddiol “Popeth yn Gymraeg”.
                Y dyddiau yma mae’r ddwy het yn cael eu drysu, mae elfennau o ganu pop ac archaeoleg yn cyfarfod, a mae nhw yn cyfarfod gyda’r FWA. Mae gennyf recordiad o Cayo Evans yn mynd drwy ei bethau ac yn chwarae’r acordeon – yn adrodd hanes yr FWA ei garchariad a’r Achos Llys, a mae hwn bellach ar CD – felly oleiaf mae’r cofnod yna. Dwi’n cofio ni’n dadlau ar y pryd mae cofnod diwyllainnol oedd hwn i fod – nid CD o gerddoriaeth yn yr ystyr arferol.
                Felly galwad sydd yma i ni ddechrau ymgyrch i gadw ein slogannau hanesyddol, y graffiti Cymraeg, y cofnodion yma o gofnod. Efallai mae ychydig o baent ar hen bont rheilffordd ydio ond mae o llawer mwy pwysig na hynny !


No comments:

Post a Comment