Wednesday 16 November 2011

Herald Gymraeg 16 Tachwedd Segontium

Rwyf newydd dreulio rhai oriau, a rheini yn rhai ofnadwy o ddiddorol a phleserus, yn pori dros lyfryn “Segontium Roman Fort Department of the Environment official Handbook”. 15 ceiniog oedd cost y llyfryn yn ol yn y dydd, ond fe’i gyhoeddwyd gyntaf ym 1963 felly yn amlwg bydda’r arian wedi bod yn hen bres yn wreiddiol a felly mae’n rhaid i mi ymweld a’r safle yn y 70au cynnar felly gan fod y 15 ceiniog yn 15c a nid 15d. Mae’r llyfryn dal gennyf, y llyfrynnau clawr lliw glas oedd gan y DoE ar gyfer safleoedd dan eu gofal, cyn dyddiau CADW, cyn dyddiau’r Cynulliad.
                Ond beth wnaeth y profiad o ddarllen y llyfr tywys yn hyd yn oed mwy pleserus oedd fy mod yn gwneud hynny ar safle  Segontium. Roeddwn yn dilyn yr hyn oedd ar y ddaear gyda’r disgrifiad cyfatebol  o’r llyfr ac er fod hyn yn ei hyn yn bleserus roedd yna reswm penodol dros fynd ati i ddysgu mwy am olion Segontium.
                Ers tro bellach mae’r Amgueddfa yn Segontium wedi bod yn gaeedig, mae honno yn stori arall, ac efallai amhriodol fyddai mynd ar y trywydd hyn yr wythnos hon. Felly gan anghofio’r amgueddfa am y tro, rhywbeth arall oedd wedi bod yn fy mhoeni ers amser oedd fod ymwelwyr i Gaernarfon yn naturiol yn ymweld a Chastell Edward y 1af ond prin iawn wedyn oedd yr ymwelwyr oedd yn mentro ar hyd yr A4085 i fyny am Segontium ei hyn.
                Chydig bach rhy bell i gerdded o’r Maes, dim maes parcio cyfleus o flaen y safle – oes mae digon o esgusion gwan rhag ymweld – ond dyma’r safle Rhufeinig pwysicaf yng Ngogledd Orllewin Cymru a mae’r amgueddfa yn gaeedig, fawr o groeso i ymwelwyr, mae’n unig yna – mae angen gwneud rhywbeth !
                Digwydd bod, rwyf newydd gwblhau cwrs ‘Bathodyn Gwyrdd’, sef cymhwyster i dywys ymwelwyr, yn bennaf fel rhywbeth gallwn ei ddefnyddio  gyda’r archaeoleg, ond yn sgil hyn rwyf wedi dod i adnabod nifer o dywysion eraill, wedi gwneud ffrindiau newydd a wedi ymuno gyda corff o’r enw NWTGA. Enw ddigon od medda chi, yn y Saesneg yr ystyr yw North Wales Tourist Guiding Association er fod y safle we yn northwalestouristguides.com.
                Does dim enw Cymraeg (ar hyn o bryd). Mae NWTGA wedyn yn rhan o WOTGA sef Wales Official Tourist Guides Association sydd yn gorff Cenedlaethol i Gymru a NWTGA wedyn yn cynrychioli’r Gogledd. Drwy ymaelodi rydym yn cael yswiriant ar gyfer tywys a mae bron fel ymuno ac undeb. Dros y blynyddoedd rwyf wedi bod yn aelod o’r Undeb y Cerddorion (M.U) a Fforwm Rhelolwyr Artsitiad (MMF). Rwyf yn undebwr yn sicr, yn wyr i chwarelwr felly fe ddyliwn i fod !
                Ond y fantais fawr o weithio gyda NWTGA yw fod criw ohonnon, pawb gyda cymhwyster o fathodyn gwyrdd neu las, felly pawb wedi eu hyfforddi er mwyn cynnig profiad o safon uchel i’r cwsmeriaid. Gall y cwsmeriaid fod yn ymwelwyr, yn newyddiadurwyr  neu yr un mor hawdd yn bobl leol sydd eisiau “gwybod mwy”  neu “rioed di bod yma o’r blaen”.
                Felly dyna’r man cychwyn, mae angen gwneud rhywbeth hefo Segontium, mae criw ohonnom yn ardal Caernarfon sydd wedi hen arfer mynd ac ymwelwyr i weld Castell Caernarfon felly pam na fedrwn gynnig mynd a ymwelwyr neu grwpiau i weld Segontium ?
                Rhywbryd o gwmpas y flwyddyn 78 Oed Crist mae Agricola yn glanio fel petae (nid ar gwch tybiaf ond o Gaer) yng Ngogledd Cymru i gael trefn ar yr Ordoficiaid, wedi’r cwbl bu Suetonius Paulinus yma yn 60/61 i gael trefn ar y Derwyddon ond hawliodd gwrthryfel Buddug yn ardal Essex heddiw ei sylw felly fe gafodd Gogledd Cymru lonydd am 17 mlynedd nes dychweliad Agricola. Dyma gyfnod diddorol yn ein hanes. Mae yna gwestiwn mawr beth ddigwyddodd i’r Derwyddon ar ol ymosodiad Suetonius ym 60/61. Dim son pellach amdanynt.
                Y joc gennyf pan fyddaf yn darlithio yw eu bod wedi heglu i ganol Sir Fon, i guddiad yn y coed ochrau Llanerchymedd, ond y tebygrwydd yw fod Suetonius wedi llwyddo i’w lladd i gyd. Wedyn mae yna gwestiwn o beth sydd yn digwydd yn ystod yr 17 mlynedd yna o ryddid Celtaidd neu diffyg rheolaeth Rhufeinig. Ac erbyn 78 unwaith eto mae hi ar ben ar yr Ordoficiaid.
                Fe all fod tystiolaeth er engraifft o waith cynnal a chadw yn Segontium oedd oherwydd ymosodiadau gan yr Ordoficiaid – yr arfer Rhufeinig oedd cofnodi digwyddiadau o’r fath fel trael amser ar y gaer yn hytrach na chyfaddef fod ymosodiad wedi digwydd. Ar y llaw arall rydym hefyd yn gwybod o waith cloddio diweddar gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn Tai Cochion ger Brynsiencyn, gyferbyn a Segontium dros y Fenai, fod yma safle fasnachu yn dyddio o’r Ail Ganrif gynnar.
                Felly arwyddocad Tai Cochion yw cadarnhau prin ugain mlynedd ar ol ymosodiad Agricola fod yna sefydlogrwydd economaidd a felly gwleidyddol hefyd yn y rhan yma o’r Byd. Mae’r Rhufeiniad a’r trigolion lleol yn masnachu a’i gilydd yn Tai Cochion !
                Yr hyn sydd yn amlwg yw fod arwyddocad y cloddio diweddar yn Nhai Cochion yn ofnadwy o bwysig, yn dangos llawer mwy am y berthynas rhwng y trethwyr newydd a’r trigolion brodorol. Ychydig o olion fydd i’w gweld yn Nhai Cochion wrthgrws – ychydig o gerrig yn unig o dan y pridd – ond mae’n rhan o’r darlun llawn.
                Mae llawer mwy o olion i’w gweld yn Segontium, yn bennaf oherwydd gwaith cloddio Mortimer Wheeler yn y 20au bron ganrif yn ol bellach. Y ddadl yn fan hyn yn syml yw fod Segontium yn llawer rhy ddiddorol i gael ei “anwybyddu” fel hyn a gobeithiaf erbyn Haf 2012 bydd rhai o dywysion NWTGA yn cynnig teithiau cerdded o amgylch y safle hynod yma !

No comments:

Post a Comment