Wednesday 2 November 2011

Herald Gymraeg 2 Tachwedd 2011. Llanddeiniolen.

Dinas Dinorwig ger Llanddeiniolen, y gaer sydd wedi ei enwi ar ol y llwyth Celtiadd yr Ordoficiaid, oedd y lle roeddwn yn ei anelu amdano. Penderfynais adael y car ger cylchfan Ty Mawr rhwng Llandegai a Bethel (ger y ty bwyta) a wedyn cerdded y milltir a hanner oedd yn weddill er mwyn cael y teimlad o gerdded tuag at y bryngaer Oes Haearn hynod yma oedd yn ymddangos dan fanetell o goed ar y gorwel. Cefais ginio yno cyn cychwyn felly hawdd wedyn oedd cael caniatad i adael y car yno am awr neu ddwy !
                Buan iawn roeddwn yn ymadael a’r ffordd i Lanberis ac yn cael troedio lon wledig ddistaw gan edrych ar enwau ffermydd, edrych dros gloddiau, a cherdded wedyn yn raddol am i fyny. Teimlas ychychydig o chwys ar fy nhalcen. Roedd yn ddiwrnod ddigon braf o Hydref, ac er fod ambell gwmwl bygythiol yn yr awyr roedd rheini rhywsut ddigon pell i mi fentro cerdded gan wybod fod y daith yn mynd i gymeryd yn agos i dair awr i mi rhwng bob dim.
                Erbyn i rhywun gyrraedd troad fferm Pen Dinas mae rhywun mwy neu lai wrth droed y drydedd clawdd, sef y clawdd allanol i’r gaer, a mae rhywun yn dilyn cwrs y clawdd yma wedyn tua’r ffermdy. Mae’r gaer ar dir preifat felly bydd angen gofyn caniatad yn y ffermdy os am ymweld a’r safle.
                Yr hyn sydd yn nodweddiadol o’r gaer yma yw fod yna ddau gyfnod o adeiladu yma.  Y cyfnod cyntaf lle roedd mur o garreg yn amgylchu’r safle a wedyn yr ail gyfnod o adeiladu lle ychwanegwyd y cloddiau a ffosydd anferth sydd i’w gweld hyd heddiw. Hefyd nodwedd arall weddol anghyffredin yw fod y cloddiau a’r ffosydd wedi eu hadeiladu yn y dull “glacis” sef fod yr ochr o waelod y ffos i ben y clawdd yn un ochr llyfn parhaol.
                Gwelir y math yma o adeiladwaith yng Nghastell Maiden, Dorset a’r tebygrwydd yw y byddai’r math yma o ffos a chlawdd yn ofnadwy o anodd i’w ddringo. Y broblem fwyaf hefo ymweld a Dinas Dinorwig yw fod yr eithin mwy neu lai wedi tyfu dros y cloddiau i gyd felly mae’n anodd iawn cerdded o gwmpas heblaw am ar hyd y ffos rhwng y clawdd mewnol a’r ail glawdd.
                Wedyn does dim i’w weld yn fewnol a mae coedwig ar yr ochr arall i’r gaer felly dydi’r profiad ymweld ddim ymhlith y gorau. Amhosib tynnu lluniau ac anodd cael golwg clir o’r cloddiau a’r ffosydd drwy’r holl eithion a mieri. Yma hefyd mae carreg danio, un o’r cerrig yno sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd yn cael eu tanio i ddathlu gwyliau neu benblwydd. Er i mi ddod o hyd i’r garreg hon flynyddoedd yn ol, doedd dim modd croesi’r ffosydd y tro yma oherwydd y mieri.
                Wrth ymadael a’r gaer penderfynais wneud fy nhaith yn gylch llawn yn hytrach na ail ddilyn yr un llwybr yn ol, felly fe es yn fy mlaen ar hyd y ffordd  i gyfeiriad Eglwys St Deiniol, Llanddeiniolen. Wrth gyrraedd yr Eglwys dyma sylwi fod nifer o geir tu allan a dyma fentro daro fy mhen drwy’r drws. Cafwyd croeso yn syth a dyma ddechrau sgwrsio hefo rhai o’r gwirfoddolwyr oedd yn glanhau’r Eglwys ar gyfer  dathliadau Diolchgarwch.
                Daeth gwahoddiad hefyd yn ddigon sydun i mi ddod draw ar y Sul i sgwennu am y Gwasanaeth Diolchgarwch ar gyfer yr Herald. Rhaid dweud roedd y syniad yn apelio ond roedd rhaid i mi ddweud yn o glir na fedrwn addo y byddwn yn mynychu. Mae Dydd Sul yn tueddu i fod yn ddiwrnod mynd a’r hogia allan am dro felly yn sicr y peth doeth fyddai peidio gaddo ond mynegi fy mod yn ddiolchgar am y gwahoddiad.
                Petae mwy o amser gan rhywun, byddai hyn wedi gallu gwneud erthygl ddigon difir, dewis taith gerdded arall fyddai wedi caniatau i mi fynychu’r Gwasanaeth y prynhawn hwnnw. Byddai wedi bod yn ddiddorol gweld beth yw’r dathliadau, pwy sydd yn mynychu, byddai wedi bod yn brofiad o’r newydd i mi yn sicr. Sylwais faint o hwyl roedd y gwirfoddolwyr yn ei gael wrth lanhau, roedd yna gyfeillgarwch cymunedol yn eu plith a mae hynny yn braf o hyd i’w weld – fod yna’r fath peth a chymuned Gymraeg yn parhau yn y pentrefi bach yma.
                Efallai fod un arall o’r criw wedi sylweddoli fy mod yn methu sicrhau fy mhresenoldeb ar y Sul a dyma wahoddiad na fedrwn ei wrthod, a gwahoddiad roeddwn yn fwy na pharod ac yn falch iawn i’w dderbyn.  “Oeddwn i wedi gweld carreg fedd W.J Gruffydd ?” Mae unrhywbeth sydd yn ymwneud a hen gerrig yn rhywbeth na fyddwn byth yn ei wrthod a dyma ddilyn y wraig garedig tuag at garreg fedd y athro, bard a llenor.
                A dyna chi garreg fedd ! Mewn mynwent orlawn o gerrig llechi gleision roedd hon yn sefyll allan. Bron fel rhyw faenhir isel. Fel rhyw garreg Gristnogol gynnar o’r 6ed Ganrif. Hen bostyn giat yn ol y son. Hen bostyn giat ? Rhywsut roedd yn garreg fedd addas i’r dyn hynod yma. Llawer gwell na’r lechan arferol. Dyma ddatganiad o’r hunnan, o hunnaniaeth, o annibyniaeth barn hyd yn oed o’r bedd. Syml ond effeithiol. Dwi isho carreg fel hyn !
                Ar un adeg roedd y gair radical ac anghydffurfiaeth yn ddigon cyson a’i gilydd, ac yntau yn fab i chwarelwr, digon rhesymol fod radicalaieth yn ei waed, yn llifo drwy ei wthienau ers ei ddyddiau cynnar. Ymunodd a Phlaid Cymru ac erbyn 1937 roedd yn gweithredu fel Is-Lywydd i’r Blaid nes iddo ffraeo neu anghytuno a Saunders Lewis. Saunders yn unben ta W.J yn ormod y gymeriad ? Dwi ddim yn gyfarwydd a’r hanes ond rwyf isho gwybod mwy …….
                Canlyniad hyn oedd iddo gael ei ethol i’r Senedd ar ran y Rhyddfrydwyr fel cynrhychiolydd Prifysgol Cymru ar y 29ain Ionawr, 1943 a fe’i ail etholwyd ym 1945 a bu yn y Ty Cyffredin wedyn  nes 1950 pryd diddymwyd seddau Prifysgolion yn y Senedd.
                Rhywsut cefais y teimlad fod trigolion Llanddeiniolen yn edrych ar W.J fel ychydig o “gymeriad” ond mewn goleuni ddigon ffafriol hefyd. Wrth ddychweld adre sylwais fod dau gopi o “Hen Atgofion” yn fy llyfrgell o hen lyfrau, bydd rhaid i mi ddarllen y llyfr a dysgu mwy am y dyn yma. Felly ymddiheuriadau am fethu’r Gwasanaeth Diolchgarwch ond diolch o galon am ddangos y garreg fedd hynod hon i mi, carreg fedd a hanner, hen bostyn giat !

No comments:

Post a Comment