Thursday 17 November 2011

SRG Sylwadau gan blogwyr arall

Pwyntiau da yma. Fe dyfais fyny hefo dau gyd destun a'r ddau yn rhai gwleidyddol. Y cyntaf oedd Punk Rock, hwnna mwy na dim arall lywiodd fy ngwleidyddiaeth i, gan gychwyn hefo geiriau God Save The Queen a wedyn y twf mewn Labeli annibynnol fel Rough Trade a Factory a'r ethos DIY (Do it yourself).
Yr ail wrthgwrs oedd y cyd destun Cymreig, y Frwydr Iaith a hyd yn oed i ni oedd yn gwrthryfela yn erbyn y "pethe Cymraeg" roedd beth ddigwyddodd yn yr 80au hefo'r Sin Danddaearol dal yn rhan o'r frwydr Iaith.
Beth am gael Punk Rock a Post-punk Cymraeg a wedyn beth am fynd a fo tu hwnt i ffiniau'r hen sin Gymraeg a'r hen sin draddodiadol fel oedd o.
Ond yn sicr roedd yna gyd destun gwleidyddol - a swgn 'i os yw'r ffaith fod hynny wedi ei golli yn cael effaith mawr ar bethau ?

No comments:

Post a Comment