Thursday 1 December 2011

Cromlech Plas Newydd Herald Gymraeg 30 Tachwedd 2011

Ar y lawnt o flaen y Clwb Criced, ger y llwybr i lawr am Plas Newydd saif y gromlech anferth, Cromlech Plas Newydd, sydd yn cynnwys dau ddarn ar yr olwg gyntaf. Yn ol Frances Lynch fe all hyn fod yn siambr a rhodfa neu hyd yn oed yn ddwy siambr gladdu ochr wrth ochr. Oherwydd lleoliad y gromlech, ar lawnt Plas Newydd, y cwestiwn amlwg wrthgwrs yw a’i cromlech rhamantaidd a godwyd gan deulu’r Plas yn y ddeunawddfed ganrif yw hon ?
                Dyma gwestiwn da, ond oherwydd ein bod yn ne-orllewin Mon, ar y graig galchfaen sydd wrth y wyneb yma, a lle mae cymaint o gromlechi eraill, nid yw’n amhosib nac  yn afresymol awgrymu felly, fod y gromlech yn dyddio o’r cyfnod Neolithig, o’r 3dd Mileniwm C.C. Tafliad carreg o Blas Newydd mae cromlech enwog Bryn Celli Ddu wrthgwrs a wedyn mae cromlech arall, Bryn yr Hen Bobl hefyd ar dir Plas Newydd, ar ochr Eglwys Llanedwen o’r stad.
                Mae olion yn dyddio o’r cyfnod Tuduraidd yn dal i fodoli yng nghronbil Plas Newydd ar ffurff drws cerrig a mae’n debyg fod safle yr Ystafell Gerdd hefyd yn dyddio o’r un cyfnod a wedi bod yn “neuadd fawr” yn wreiddiol ond mae’r Plas fel rydym yn ei adnabod yn dyddio o’r 1750au. Yn y cyfnod yma mae Nicholas Bayly yn trawsffurfio’r plas yn yr arddull “Gothig”, a hynny wedi ei ysbrydoli gan gestyll Conwy a Biwmares.
                Rhwng 1782-86 mae Iarll Uxbridge, Henry Bayly, yn ychwanegu twr arall, gan ddefnyddio pensaer lleol o Biwmares o’r enw John Cooper ac yn dilyn hyn mae cyfnod arall o ail drefnu ac adeiladu yn digwydd rhwng 1793-99. Y tro yma mae cynllunydd o’r enw James Wyatt yn gyfrifol am y gwaith ond er ei enwogrwydd am ei waith yn atgyweirio rhai o Eglwysi Cadeiriol y wlad, yn ol y son un ddigon di-drefn oedd Wyatt, felly daethpwyd a gwr o’r enw Joseph Potter o ardal Litchfield i gyd weithio gyda e, ac i gadw trefn.
                Dyma’r cyfnod lle trawsffurfiwyd yr hen neuadd i’r Ystafell Gerdd a wedyn ym 1805 mae Potter yn gwneud gwaith pellach ar y Plas ac i raddau fel hyn bu hi wedyn nes y 1930 pryd daeth y pensaer Harry Goodhart-Rendel yma i drawsffurfio’r Plas unwaith eto ac i raddau helaeth cael gwared ar elfennau Gothig a’r darnau oedd yn edrych fel muriau Castell – a dyma sydd i’w weld hyd at heddiw.
                Ond i droi yn ol at Gromlech Plas Newydd, y cwestiwn amlwg os oes unrhyw dystiolaeth hanesyddol fod rhai fel Nicholas Bayly, John Cooper, James Wyatt, Joseph Potter neu Goodhart-Rendel yn gyfrifol am godi’r gromlech ?
                Yn ddiweddar bu’m yn rhan o ymweliad gan dywysion NWTGA i weld Plas Newydd a dyma ddechrau sgwrs hefo gwr o’r enw John Harris sydd yn gwirfoddoli fel tywysydd ym Mhlas Newydd, unwaith eto, holi os oedd unrhyw dystiolaeth hanesyddol am y gromlech ac o fewn y dyddiau dwetha dyma dderbyn ebost gan John hefo ychydig fwy o fanylion.
 Yn sicr mae’r rhan fwyaf ohonnom yn gyfarwydd a llyfr Henry Rowlands, “Mona Antiqua Restaurata” 1723, sef y cofnod cyntaf o safleoedd archaeolegol Ynys Mon, ond hyd y gwyddwn i does dim cyfeiriad ynddo i Blas Newydd. Wedi dweud hyn mae’n ddipyn o waith darllen y llyfr hynod yma, ac yn sicr mae’n fwriad gennyf eistedd i lawr pan bydd cyfle a cheisio dehongli’r cynnwys – bydd angen rhai dyddiau fe dybiwn.
Ym 1799, mae Humphry Repton y cynllunydd gerddi enwog yn awgrymu gosod cofeb ger y gromlech i nodi’r cysylltiad Derwyddol, felly yn sicr mae Repton yn gyfarwydd a damcaniaethau Rowlands fod y capfeini yn “gerrig yr allor”, ond wedyn erbyn 1800 mae William Bingley yn amau os yw damcaniaeth Rowlands yn un cywir. Yr hyn sydd yn ddiddorol iawn am awgrym Repton i osod cofeb ger y gromlech yw ei fod yn awgrymu cofeb marmor fel na fydd unrhyw ddryswch wedyn i archaeolegwyr y dyfodol gan fod y cerrig mor wahanol.
 Asiant i’r Plas yn ystod cyfnod ymweliad Repton oedd John Price ac yn sicr byddai Price wedi gweithio hefo Repton. Erbyn 1803, a wedi priodi dynes gyfoethog, mae Price yn adeiladu Plas Cadnant ger Porthaethwy a’r tebygrwydd yw fod Price wedi defnyddio syniadau ac arddull Humphry Repton wrth gynllunio gerddi Cadnant.
Yr unig hanes arall gefais gan John Harris yn yr ebost oedd cyfeiriad at Syr Henry Bayly yn dechrau symud y pridd o domen Bryn yr Hen Bobl, felly mi fydda hyn tua diwedd y Ddeunawddfed Ganrif. Ar ol i’r gweithwyr ddarganfod esgyrn dynol mae’n debyg i’r gorchymyn ddod gan Bayly iddynt roi gorau i’w gwaith o glirio’r domen. Unwaith eto archaeoleg wedi ei achub, drwy lwc, a dyma’r unig gromlech ar Ynys Mon lle mae’r domen wreiddiol yn dal mewn bodolaeth sydd yn syndod o ystyried yntydi.
Felly, heb os,  mae yna le i fwy o waith ymchwil, ond hyd yma, does dim cofnod amlwg fod rhai o bensaeri neu arddwyr Plas Newydd yn gyfrifol am godi’r gromlech ac yn ol Lynch (1995) mae’n bosib fod y gromlech wir yn dyddio o’r cyfnod Neolithig.




No comments:

Post a Comment