Thursday 8 December 2011

Llyfr Sian James Herald Gymraeg 28 Medi 2011

“Rhys, himself  was - and is – a paradox.  A punk and a schoolteacher. A realist and a Nationalist.  A benign rebel.”
Nid fy mod am gytuno a hanner hunna wrthgwrs ond felly y disgrifiwyd mi gan y newyddiadurwr Mick Middles o’r Guardian yn ei lyfr ‘Manic Street Preachers’ (Omnibus Press  1999). Dyma’r tro cyntaf i fy enw ymddangos mewn llyfr, ac er nad wyf erioed wedi arddel  na chytuno a’r  cysyniad o Genedlaetholdeb na wedi gwneud fawr mwy na dysgu llanw flynyddoedd maith yn ol, rhaid cyfaddef fod “benign rebel” yn swnio’n wych, mor wych i mi ei ddefnyddio fel penawd ar fy safle we.
                Yn ddiweddar mae sawl llyfr wedi cyfeirio atof, cefais i a Sion Sebon un dudalen gan David R Edwards yn ‘Atgofion Hen Wanc’, er i ni weithio gyda Datblygu am rai blynyddoedd, a deallaf i Geraint Jarman benderfynu dileu ei atgofion ohonnaf fel rhywun a heriodd ei genhedlaeth ef yn y Byd Pop Cymraeg cyn i’w lyfr gael ei gyhoeddi.  Duw a wyr beth oedd gan Hefin Wyn i’w ddweud – peidiwch a son. Dadleuol i’r eithaf yn y Byd Pop Cymraeg !
Daeth llyfr arall drwy’r post yn ddiweddar gan yr awdur o Thionville yn Nwyrain Ffrainc, ‘Plattagonie’ gan  Jo Nousse, mae ganddo gerdd o’r enw ‘Den Draach’ wedi ei gyflwyno i mi a hynny yn yr iaith Ffrancaidd - iaith ardal Frankish Lorraine. Wedyn daeth gwahoddiad gan Y Lolfa  i sgwennu rhywbeth bachog  ar gyfer clawr ol llyfr Euron Griffith ‘Dyn Pob Un’ sydd yn rhoi’r Byd Cyfryngol  drwy chwyddwydr ddoniol dros ben.
Ond y llyfr oedd a mwya ddiddordeb i mi oedd hunagofiant Sian James (Cyfres y Cewri 34). Roedd Bethan Gwanas wedi son wrth olygu’r gyfrol fod Sian yn son amdanaf, felly gyda lled nerfysrwydd yr agorais y llyfr ar dudalen 87 a darllen “Syrthies mewn cariad am y tro cynta pan o’n i’n bedair ar ddeg oed” ond roedd rhaid cyrraedd tudalen 88 cyn sylweddoli mae nid amdanaf i roedd Sian yn cyfeirio.
Wwps, achos yn fy llyfr i (Cam o’r Tywyllwch) roeddwn wedi dweud ( a hynny ar dudalen 22 ynde Sian !!) mae Sian “oedd y cariad na fu”, roeddwn llawer rhy ddiniwed beth bynnag tan y 6ed Dosbarth i hyd yn oed gychwyn deall dim byd am ferched, ond dyna chi ‘banics’, sgwni oeddwn wedi camddeall yr holl beth hefo Sian, doedd hi rioed di cymeryd diddordeb ynddof a finnau wedi mynd a sgwennu am hyn mewn llyfr. Ie wir Wwps go iawn !!
A dyma fi (heddiw ac am yr ail waith) gyda chalon drom a siomedig yn dyfalbarhau gyda llyfr Sian. Yr eironi mawr i mi oedd i mi syrthio am un o ffrindiau gorau Sian yn fuan iawn ar ol iddi gael ei “charaiad cyntaf” (tud 23 yn fy llyfr)  a bu mi fod rhy ddiniwed i wneud dim byd am hynny chwaith. Fe gollwyd cyfle yn sicr achos dwi’n siwr y bydda ni gyd wedi cael hwyl er hwyl ddigon diniwed ma’n siwr.
Ond wedyn dyma’r ail sioc. Dwi bellach wedi cyrraed pennod “Tich, Angharad a Rhys Mwyn” (tud 149), ‘Asu Mawr’  dwi rioed di cael fy enwi mewn penawd pennod o’r blaen, a dyna ni o’r diwedd, ateb i’r dirgelwch mawr. Dyma Sian eto “Roedd Rhys yn un o fy nghyfoedion yn yr Ysgol Uwchradd. Yn wir mi ges damaid  o ‘crush’ arno yn Fform Thri”. Wel, meddyliais mae tamaid o crush yn well na ddim byd, ac oleiaf fydd ddim rhaid mi golli cwsg nawr am yr hyn sgwennais yn fy hunangofiant !
Ond mae gwell i ddod gan Sian (tud 152), “aeth Rhys wedyn drwy ei gyfnod ‘blin’ fel petae, yn herian pawb a phopeth, a fedrwn i yn fy myw a chysoni’r person annwyl, afieithus y bum yn ffrindie efo fo dros y blynyddoedd a’r pync ifanc cecrus oedd mor uchel ei gloch ar y teledu a’r radio”. Dyna rhai o’r geiriau mwyaf caredig mae rhywun erioed wedi sgwennu amdanaf, rhaid cael hyn ar y safle we hefyd ar frys meddyliais !
Sut mae esbonio hyn i gyd dudwch ? Wel, byddai modd rhestru rhesymau : sbots / plorod (acne), bwlis ysgol, tyfu fyny yng nghefn gwlad, awdurdod, athrawon,  Punk Rock, Sex Pistols, geiriau God Save The Queen, Popeth yn Gymraeg, darllen yr NME, rhaglen John Peel, gweld y Clash yn fyw yng Nglannau Dyfrdwy, Malcolm McLaren, Vivienne Westwood, Jamie Reid, Billy Idol, Viv Albertine, Patti Smith, Blondie, Llygod Ffyrnig, Geraint Jarman (credwch neu beidio), LP Gwesty Cymru, Trwynau Coch, Recordiau Coch, Ail Symudiad, Clustiau Cwn, Bismyth, Y Sefydliad, Radio Cymru, S4C, Cymdeithas yr Iaith, Plaid Cymru, gigs Cymraeg, diffyg gigs Cymraeg, Sir Drefaldwyn,  Tony Wilson, Factory Records, Rough Trade, Essential Logig yn canu yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion, Llanfair Caereinion, fy nghariad cyntaf, fy ail gariad, fy nhrydedd cariad.
Datblygu, Y Cyrff, Tynal Tywyll, Gorwel Owen, Ofn, Elfyn Presli, Bern, Traddodiad Ofnus, Ian Devine, Heb Gariad, Celf, Oriel Mostyn, Huw Prestatyn, The Face,  Sgrech, Sosban,  Mudiad gwrth Apartheid, Streic y Chwarelwyr, Galwad ar Holl Filwyr Byffalo Cymru, ac ymlaen ac ymlaen. Duw a helpo unrhyw seiciatrydd.
Bu ychydig o feirniadaeth ar y Cyfryngau am i Sian fod yn rhy ddihymongar yn ei llyfr. Ateb syml i hyn – mae gan Sian James fwy o dalent yn ei bys bach na’r rhan fwyaf o grwpiau 4 aelod yn eu cyfanrwydd – does dim angen i Sian ddweud dim, mae ei cherddoriaeth a’i chyfraniad i’r Byd Gwerin Cymraeg yn dweud y cyfan.

No comments:

Post a Comment