Thursday 26 January 2012

Bedd Ceiriog Herald Gymraeg 25 Ionawr 2012.

Carodd eiriau cerddorol  - carodd feirdd
Carodd fyw’n naturiol
Carodd gerdd yn angerddol
Dyma ei lwch - a dim lol.
Mae yna ddisgrifiad gwych o John Ceiriog Hughes (1832-1887) yn llyfr ardderchog Eryl Wyn Rowlands “Y Llew oedd ar y Llwyfan”, sef llyfr am hanes y canwr Llew Llwyfo wrthgwrs, lle mae Rowlands yn cymharu’r ddau gymeriad yma fel rhai “oedd yn hoff o godi eu bys bach”. Disgrifiad sydd yn cyfeirio at eu hoffter o’r ddiod feddwol, y gwydryn bach sydd yn cael ei godi at geg sych gyda’r bys bach am i fyny – hynny yw, yn hytrach na son am yfed panad o de o gwpan-tseina.
                Yn ddiweddar mae yna dynfa wedi bod i dorri ar y siwrne am Gaerdydd ar hyd yr A470 drwy adael y ffordd a mynd i mewn i bentref bach hynafol Llanwnog, Sir Drefaldwyn. Buais yno ddwywaith rhwng yr Haf a’r Dolig. Y tebygrwydd yw fod pentref Llanwnog yn dyddio o gyfnod sefydlu’r Eglwys yno yn y Canol Oesoedd Cynnar. Cyn hynny y ganolfan weinyddol i’r ardal fyddai Caersws, yn dyddio yn ol i gyfnod y Rhufeiniaid a’i dwy gaer Rhufeinig (Caersws 1 a Chaersws II).
                Mae’r cyfeiriad  hanesyddol cyntaf am Eglwys Sant Gwynnog yn dyddiio i ganol y drydedd ganrif ar ddeg ond y tebygrwydd yw fod yr Eglwys yn dyddio yn ol i’r 8fed neu’r 9fed Ganrif, yn sicr mae’r fynwent gron a’r enw Llan yn awgrymu fod yma “gell” neu sefydliad yn dyddio yn ol i Gyfnod y Seintiau. Awgrymir hefyd fod rhai o’r blociau tywodfaen sydd yn rhan o adeilad yr Eglwys yn debygol o fod wedi cael eu cludo yma, a’u hail ddefnyddio wedyn, o’r Gaer Rhufeinig yng Nghaersws.
                Y tro cyntaf i mi fynychu’r Eglwys, carreg fedd Ceiriog oedd y peth pwysicaf ar fy rhestr, ond doedd dim syniad gennyf ym mha ran o’r fynwent gorweddai Ceiriog. Fel arfer mae rhywun a sawl dewis, cerdded yn ol ac ymlaen yn systemataidd gan edrych ar bob carreg yn ei thro. Neu mae modd chwilio yn sydun am y cerrig mwyaf amlwg, y rhai mwyaf crand neu rhai ac arwydd y beirdd arnynt. Ond yn yr achos yma chefais fawr o lwc.
                Drwy gyd ddigwyddiad a thrwy fynd yn ol at borth y fynwent gan feddwl am “ail ddechrau yn systemataidd y tro hwn” dyma sylwi ar fwrdd-gwybodaeth ar ochr y lon. Dyma ddarllen hwn yn sydyn a sylwi fod llun o fedd Ceiriog arno a fod coed i’w gweld tu cefn i’r garreg fedd. Dyma oedd y penllinyn angenrheidiol – dyma edrych am goed o amgylch y fynwent ac o fewn eiliadau dyma fi’n sefyll ger fedd Ceiriog, os nad yn sefyll am ben yr hen greadur.
                A dyma ni yn dod at y llinellau hyfryd uchod. Darllenais unwaith, darllenais eil-waith a darllenais eto. Dyna eiriau hyfryd. Dyna eiriau fyddwn yn hapus iawn i gael ar fy ngharreg fy hyn, er na fedraf honni fod yn un sydd a chrap llawn ar farddoniaeth chwaith, ond yn sicr fe garaf gerddoriaeth pop Cymraeg yn angerddol !
                Ond y linell a wnaeth hyd yn oed mwy o argraff oedd y llinell hon
Dyma ei lwch - a dim lol.
Beth oedd ystyr hyn meddyliais a phwy gyfansoddodd y deyrnged yma ? Mae’r rhan fwyaf o gerrig bedd yn son am “er serchog cof am”, yn gofyn am gysur ysbrydol, o gael mynd i’r Nefoedd mewn ffordd, ond gyda Ceiriog dyma ei lwch a dim lol, chwerthais yn uchel.
                Dyma profiad yr archaeolegydd yn aml, darganfod darnau o gyrff, neu sgerbwd neu lwch-weddillion rhyw greadur o’r Oes Efydd. Dim lol. Corff wedi mawr. Wedi pydru, wedi mynd. Rhywsut yn y gerdd fach hon o deyrnged i Ceiriog roedd yna hiwmor, elfen o wirionedd os mynnwch, braidd yn anghyffredin efallai ?
                Ar fy ail ymweliad a Llanwnog ym mis Rhagfyr roedd hi’n twllu’n gynnar, erbyn i mi gyrraedd bedd yr hen Ceiriog roedd hi’n dywyll iawn. Hawdd iawn fyddai dychmygu Christopher Lee yn dod o amgylch y fynwent drwy’r niwl. Ond er y tywyllwch, roedd yn amlwg i mi y tro yma, fod carreg fedd Ceiriog yn erydu’n ddrwg. Bellach mae’r gair “Dyma” wedi hanner ddiflannu, a mae “Carodd” ar fin diflannu – un Gaeaf caled arall a bydd y geiriau yma yn golledig.
                Oherwydd erydu’r tywydd mae’r geiriau yn codi oddiar wyneb y garreg fel stamp o amlen a wedyn yn raddol yn disgyn. Efallai i mi beidio sylwi cymaint yn ystod fy ymweliad cyntaf ond y tro hwn dyma deimlo bydd y gerdd hyfryd yma yn diflannu o fewn ychydig o flynyddoedd, sgwn’i oes rhywbeth gallwn ei wneud ?              
                Ac wrth adael dyma gofio am y llun hynod hwnnw o Ceiriog, fel dywedai Eryl Wyn Rowlands amdano, “yn ei ysblander sgwarog”, sef y llun enwog o Ceiriog yn eistedd yn dal ei het a wedi ei wisgo mewn trywsus a gwasgod sgwarog. Mae’n lun trawiadol a bythgofiadwy. Un o luniau John Thomas yw hwn, o’r casgliad yn y Llyfrgell Genedlaethol, a Ceiriog yn eistedd allan yn yr ardd.
                Petae rhywun yn gofyn – beth sgwennodd Ceiriog ? Faint ohonnom sydd yn gallu ateb yn syth ? Ond mae ei waith yn gyfarwydd i ni gyd, mae hyd yn oed awgrym mae ef oedd yn gyfrifol am eiriau Cymraeg i ‘Men of Harlech’ a hynny ym 1890 a hynny cyn cyhoeddi’r geiriau Saesneg ym 1893 ?  Ond gyda mwy o sicrwydd rydym yn ei adnabod fel awdur geiriau “Dafydd y Garreg Wen”, am gyfieithu “God Bless The Prince of Wales” a’r cyfieithiad arall enwog “Clychau Aberdyfi” o’r gan “The Bells of Aberdovey” gan Charles Dibden.
                Yn fy anwybodaeth yma, oes yna gymdeithas ar gyfer Ceiriog ? Oes yna gyfeillion i Eglwys Llanwnog ? oes yna unrhywun all helpu i gynnal a chadw carreg fedd yr hen Ceiriog ?




No comments:

Post a Comment