Sunday 1 January 2012

Diwylliant ol-ddiwydiannol Herald Gymraeg 28 Rhagfyr 2011



“Rwy’n mynd yn ol i Flaenau Ffestiniog achos yna mae fy seithfed nef”
Geiriau Tepot Piws wrthgwrs, a’r hyn sydd yn fwy diddorol,mae can Dewi Pws yw hon yn hytrach na chan gan Alun (Sbardun) Huws , sydd o’r ardal. Y record yw’r EP pump can, rhif catalog Sain 11, ac ar y clawr mewnol mae’r dyfyniad doniol a swreal “We were sitting outside our craft shop playing our rustic home made Welsh harps, when this Inglishman came up to us and said, Hey man, buzz up to my pad and grwv in on the uptime soul scene, man, and cut a bug on a grwfi record. So we shot him!
Dwi’n hoff iawn o’r sillafiad “Inglishman” a rhaid dweud fod y linell cloi yn eitha doniol hefyd ond yn sicr yn perthyn i’w amser – fydda neb yn meiddio dweud hunna heddiw.
Mae’n rhaid fod yn beth braf iawn cael eich tref wedi ei anfarwoli mewn can o’r fath. Rwyf innau hefyd yn mynd i Flaenau Ffestiniog ond dim ond am y diwrnod, ac un lle sydd bob amser ar fy rhestr os byddaf yn mynd i Flaenau yw siop lyfrau yr Hen Bost. Rwyf yn gasglwr brwd o hen lyfrau Cymraeg, yn bennaf llyfrau hanes  a does dim siop arall yng Nghymru gyfan all gymharu a’r Hen Bost.
Fel arfer, mewn lle fel hyn, dwi’n cael gafael ar ormod o lyfrau ac yn gorfod didoli ychydig cyn prynu ond dyma adael yn ddyn hapus. O ddiddordeb ac yn dilyn fy ymweliad diweddar  a mynwent Llanddeiniolen (Herald 2 Tachwedd) dyma gael copi  o’r llyfr o gyfres Bro a Bywyd ar W.J Gruffydd.  Dyma gael hyd i gopi o lyfr Gwilym T. Jones “Afonydd Mon” – siwr o fod yn ddefnyddiol  a llyfr gan Gwynn ap Gwilym a Richard H Lewis “Maldwyn a’i Chyffinniau” – bydd rhywbeth siwr o’m diddori yn hwn.
Wedyn dyma nifer o bamffledi a chopiau o ddarlithoedd, “Y Ddwylan” sef llyfryn ar hanes eglwysi Llangian a Llanengan, Llangian yn gyfarwydd iawn i mi oherwydd y garreg fedd i Melus y meddyg o’r 6ed ganrif.  Llyfryn arall oedd darlith Elfed Gruffydd  ‘Ar Hyd Ben ‘Rallt’ (1991) sydd yn ddisgrifiad o afordir Pen Llyn ac Eifionydd gyda disgrifiad ac enw i bob porth ar hyd yr afordir – fydd yn ddefnyddiol iawn wrth gerdded.
Ond y llyfr mwyaf anisgwyl mewn un ystyr, llyfr yn od iawn oedd ddim gennyf yn barod, oedd “The Welsh Extremist” Ned Thomas (1971). Dechreuais ei ddarllen y diwrnod hwnnw dros ginio. Mae’n darllen fel traethawd hir Cymdeithaseg, mae’n gofnod o gyfnod, mae’n ofndawy o ddiddorol, a hyn oll cyn y flwyddyn dyngydfenol honno 1979. Ar y clawr mae un o’r lluniau mwyaf eiconig yn y Byd Gymraeg sef y ferch dlws gwalltfelen  mewn cot hir yn dal yr arwydd “Carchar an garu’i iaith”.
Y ddyddiau yma mae’r syniad o gelf “diwylliant-pop” Cymraeg a Chymreig yn rhywbeth sydd yn hawlio dipyn o fy amser a sylw. Efallai rhywbryd yn y dyfodol bydd modd troi’r diddordeb yma i greu arddangosfa neu seminar – neu rhywbeth ??? Ac ar y trwydd cefyddydol ,dyma sylwi ar furluniau yr artist o Bala, Catrin Williams ar ddwy wal ym Mlaenau, un ger y Co-op newydd ac un ger yr hen Go-op. Un gan ddisgyblion Ysgol y Moelwyn a’r llall gan blant yr ardal o dan 3 oed. Gwych !
                Yr hyn sydd yn amlwg ar furlun Ysgol y Moelwyn yw’r gitars, rhai acwstig, dylanwad Gwybdaith Hen Fran efallai, yn dilyn yn nhraddodiad Tepot Piws, does dim Fender’s yma – dim ond y traddodiadol – a mae hynny yn beth da. Faint sydd yn aros i astudio’r murluniau sgwn i ? Y tro nesa dwi yma hefo cwmni byddaf yn siwr o wneud pwynt o fynd a nhw i weld y murluniau .
                Roedd sawl rheswm arall dros fod ym Mlaenau, un oedd parhau a’r cwestiynau ynglyn a’r Domen Sgidia ar ben Bwlch y Gorddinan. Dyma ail ddarllen cerdd Gwyn Thomas
Ond y mae gan ddynion
A fu unwaith yn fyw, esgidiau
Beth a wnawn ni a’r olion
Digamsyniol hyn o’u bywydau
Eu hysgidiau ?
Gan fod ychydig o amser gennyf rwyf yn penderfynu cael cinio buan yn Cell B, ac yn annisgwyl neu ddim – rwyf yn cael Wy Benedict sydd gyda llaw yn fedigedig (hynny heb y cig wrthgwrs ond gyda’r myffins a’r saws Hollandaise) -  ond pam na ddyliwn i ddisgwyl cael Wy Benedict ar fwydlen yma ???? Dros ginio rwyf yn trafod y gigs reggae sydd yn cael eu cynnal yma gyda Rhys Roberts (Rhys Anweledig) perchenog Cell B.
Rhywsut neu’i gilydd rhwng murluniau Catrin Williams a gweithgareddau CellB mae Blaenau yn fwrlwm o ddiwylliant ol-ddiwydiannol. Oes mae yna weithgaredd yn rhai o’r chwareli hefyd fel y gwelias wrth gerdded ar ol cinio i fyny am Maenofferen (mi gaiff honno fod yn golofn arall).
Yn hwyrach, ar fy ffordd adre,  rwyf yn dychwelyd i Fwlch y Gorddinan, i wneud yn siwr fod y domen yn dal yno, yn saff. Yn ol y son, mae archaeolegydd wedi ei benodi i gadw golwg tra mae’r gwaith ar y llwybr mynydd ar gyfer y llwybr beicio newydd yn cael ei adeiladu. Rwy’n  dawelach fy meddwl.

No comments:

Post a Comment