Wednesday 1 February 2012

Herald Gymraeg 1 Chwefror 2012.



Welsh Rock at the moment is almost exclusively aimed at middle class children rather than working class kids”   cylchgrawn ‘Scorcher’ 1982.

Mae’r dyfyniad uchod yn dod o gylchgrawn  anarchaidd o’r enw ‘Scorcher’ a olygwyd gan Ian Bone yn ol yn nechrau’r wythdegau. Fe aeth Bone yn ei flaen wedyn i gyhoeddi’r cylchgrawn ‘Class War’ a oedd, fel roedd yr enw yn awgrymu,  yn canolbwyntio yn llwyr ar y “rhyfel dosbarth”. Dw’i ddim yn siwr pam mor berthnasol yw son am y “rhyfel dosbarth” heddiw yng nghyd destyn y Byd Pop Cymraeg ond eto un cwestiwn ddaeth i fy meddwl yn syth wrth ail ddarllen yr erthygl – beth mewn gwirionedd  sydd wedi newid ers 1982 ?
Un peth yn sicr a newidiodd yw  fod grwpiau Cymraeg bellach yn grwpiau dwy-ieithog (yn sicr y grwpiau ifanc) fel canlyniad i “Cwl Cymru”, rhywbeth sydd ddim o hyd yn gorwedd yn gyfforddus a pobl o fy nghenedlaeth i, a hyd yn oed o anwybyddu’r ddadl ieithyddol-wleidyddol, ar y cyfan digon di-pwrpas yw canu yn Saesneg. Mae’n gyfrwng wedi ei or-satiwreiddio gyda miloedd o grwpiau (gwell ran amla) wedi gwneud yr un peth yn barod.?
                Dwi ddim yn mynd i ddechrau trafod y Byd Pop Cymraeg ond rwyf am drafod yr angen mawr am newid a newidiadau yn y “Byd Cymraeg” a hyn  wrth i’r byd a’r betws Cymraeg a Chymreig gyhoeddi fod hi’n amser am newid, am weledigaeth newydd, fod angen mentro i’r Byd Digidol, arloesi, gwrando, gwthio ffiniau a hyd yn oed …… croesawu’r di-Gymraeg . Argian dan mae’n swnio fel….. wel, fel petae clon i Mary Portas wedi ei geni yn Llanerchymedd a wedi chael ei gyrru i achub yr Iaith. Dyma’n cyfle, adroddiad amdani, taflu llwyth o bres at rhywun i ddatgan yr hollol amlwg yn hytrach na gwrando ar y werin bobl sydd yn hen gyfarwydd a’r datganiadau chwyldroadol newydd sydd am newid y ffordd da ni’n byw !
                Y cyntaf i ddatgan yr hollol amlwg yw Eurfyl ap Gwilym wrth iddo awgrymu fod nifer o fewn y Blaid angen gwneud rhywbeth ynglyn a’u socs …… “pick up your socks” meddai ap Gwilym wrth rhai yn y Blaid (mae’n gwrthod eu henwi  nhw) ond mae’n datgan eu bod yn gwybod pwy ydynt. Hyn yn dilyn perfformiad sal gan y Blaid yn yr etholiad dwetha er mawr syndod i’r Blaid ond nid i neb arall.
                Ymhlith y 95 argymhellaid mae un awgrym sydd yn gwneud i rhywun pryderu ychydig. Yn yr ymdrech i argyhoeddi  y di-Gymraeg nad plaid i Gymry Cymraeg yn unig yw Plaid Cymru mae ap Erfyl yn awgrymu newid yr enw i “Welsh National Party”. Syniad da. Ddim i’w ddrysu hefo “British National Party” na’r “National Front” wrthgwrs  – mae hynny yn ddigon amlwg a chlir. Mor glir a mwd a rhaid gofyn pam rhoi’r Blaid yn y fath sefyllfa lle bydd y fath gwestiwn yn gallu cael ei ofyn ? Golau coch yn fflachio. Oes yna rhywun arall yn teimlo eu calon yn suddo ? Yda ni wedi dysgu dim dywedwch ?
                Dwi ddim yn siwr beth na lle dwi ar y sbectrwm wleidyddol, rhyw hanner anarchydd, ychydig bach o gomiwnydd, yn sicr rwy’n credu fod Cenedlaetholdeb fel cysyniad yn perthyn i’r Ganrif ddwethaf, yn wir i’r Mileniwn dwethaf, ond rwyf yn Gymro Cymraeg, yn berson deallus, yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, wrth fy modd a Question Time ac yn banelydd o dro i dro ar Pawb a’i Farn – felly pam nad oes gennyf unrhyw gysylltiad o gwbl mewn unrhyw ffordd o gwbl a’r Blaid ? Nid Saesneg a Chymraeg yw’r iaith wahanol yn fan hyn coeliwch fi. Er dweud hyn, y Blaid sydd yn cael fy mhleidlais ran amla – ond y rheswm yw – “achos fod y lleill yn waeth” dybiwn i.
                Oleiaf dydi Cymdeithas yr Iaith ddim wedi dilyn y llwybr Portasaidd o dalu i rhywun ddatgan yr hollol amlwg, dydi’r pres ddim ganddynt a siawns fod gwell defnydd i’w coffrau. Dyma’r Cadeirydd Bethan Williams yn datgan fod angen i’r Gymdeithas fod yn fwy croesawgawr i wahanaiaeth barn, fod angen mabnwysiadu polisiau llawer mwy radical ar gyfer y dyfodol, fod angen i’r drafodaeth fod yn un agored a chynwysfawr a nad oes modd bellach i’r Gymdeithas fodoli fel ‘clic cyfforddus’ os am fod yn berthnasol yn y dyfodol.
                Dweud mawr. Swnio’n debyg iawn i gynnwys y golofn hon dros y blynyddoedd. Fe soniodd Angharad yn ei cholofn yr wythnos dwetha am ddiffyg presenoldeb unrhyw un o aelodau Seneddol / Cynulliad y Blaid yn Rali Caerdegog yn Llangefni a mae rhywun yn teimlo fod y Gymdeithas yn yr achos yma yn y lle iawn. Beth sydd ei angen o dy’r Blaid yw datgan yn glir beth yw’r polisi ynni a nid cuddio tu cefn i’r sgrin “swyddi”. Onid oes gwrthwynebiad i melinau gwynt gor-uchel nawr yn codi yn Sir Fon – bydd rhaid cael ynni o rhywle – oes rhywun am gynnig y “drydedd ffordd” ?
                Yn achos Adroddiad y Fforwm Cyfryngau Newydd “Cofleidio’r Dyfodol – S4C wedi 2011” sydd i’w weld ar lein gyda llaw, mae adroddiad ffurfiol, un sydd yn datgan yr amlwg, ond,a mae hwn yn ond pwysig – y ddadl fawr ynglyn a dyfodol S4C yw fod angen symud tuag at ddarparu cynnwys Cymraeg aml-blatfform yn hytrach na chofleidio’r hen syniad o “sianel deledu”. Byd aml-gyfrwng ddigidol fydd Byd ein cenhedlaeth nesa a mae’n rhaid croesawu adroddiad y Fforwm Cyfryngau Newydd.
                Efallai fod cynnwys yr adroddiad yn hollol hollol amlwg ond mae angen ei fynegi achos dydi’r hollol amlwg ddim o hyd yn hollol amlwg i arweinwyr sefydliadau o’r fath.  Felly, mae yna le i groesawu’r datganiadau, yr adroddiadau a’r awydd am newid. Amser a ddengys os yw’r sefydliadau yma o ddifri am newyd ta di hyn i gyd yn ymarfer mewn cysylltiadau cyhoeddus. Gan obeithio wir na fydd hyn yn sefyllfa o’r un yw’r clowns yn  y Syrcas, yr un yw’r mwnciod yn y sw,  yr un morwyr sydd ar fwrdd y llong, fedrith llewpard ddim newid ei smotiau …………

No comments:

Post a Comment