Thursday 15 March 2012

Herald Gymraeg 14 Mawrth 2012


Bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol  Clwyd Powys yn gweithio yn ardal Walton, Sir Faesyfed, ers y 90au fel rhan o Brosiect Basn Walton yn dilyn darganfod safleoedd archaeoleg drwy awyrluniau. Yr hyn a geir yma yw basn naturiol, yn wir o sefyll yn ardal Walton ac o edrych o gwmpas mae’n ymdeimlo fel petae rhywun wedi galnio mewn amffitheatr anferth naturiol.

                Y tebygrwydd yw, fod dyn dros y canrifoedd wedi sylwi ar y tir ffrwythlon sydd yma a hefyd dyma’r bwlch naturiol o Loegr i Gymru. Cofiwch yn ol yn y cyfnod cyn-Hanesyddol doedd yna ddim cysyniad o Gymru fer rydym yn adnabod y darn yma o dir erbyn heddiw ond o ran y ffordd o’r dwyrain i’r gorllewin dyma ffordd naturiol i ddyn deithio – o’r gwastadedd tuag at y tir uwch a’r mynyddoedd maes o law.

                Y math yma o resymeg sydd felly yn esbonio fod yma olion o’r cyfnod Neolithig, cyfnod yr amaethwyr cyntaf tua 5 mil o flynyddoedd yn ol, olion a meini o’r Oes Efydd a wedyn yn ddiweddarach, olion y Rhufeiniaid. Digon o waith fod yr olion Neolithig yn dal i sefyll pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid – wedi’r cwbl mae mwy o amser rhwng y Neolithig cynnar (3000 CC) a’r Rhufeiniaid na sydd wedi mynd heibio ers i’r Rhufeiniad adael Cymru tua’r 383 OC a heddiw.

                Felly mae’n debyg mae’r lleoliad sydd yn bwysig yn yr achos yma, yn strategol, yn ddaearyddol ac yn ddewis amlwg i’w anheddu yn hytrach na unrhyw gof gwerin  neu olion oedd wedi goroesi o un cyfnod i’r llall. Ta oedd trigolion Walton o’r Neolithig, drwy’r Oes Efydd hyd at gyfnod y Rhufeiniaid wedi ail adrodd storiau am “yr hen bobl” oedd yn byw yn y basn ? Go brin ond nid amhosib.

                Hyd at  heddiw mae’r tir yma yn dir amaethyddol ffrywthlon a felly o ganlyniad i’r aredig, mae unrhyw olion archaeolegol wedi hen ddiflanu o wyneb y ddaear, ond mae yna ddigonedd o olion yn gorwedd o dan y pridd yn aros i gael eu cloddio, eu darganfod a’u dadansoddi. Drwy gyfrwng yr awyrluniau awgrymwyd fod yma dirwedd defodol yn dyddio o’r Neolithig.  Gwelir olion dau loc hirgron anferth ac un rhodfa neu gwrsws.

                O ran maint, mae’r cwrsws ei hyn yn 680 medr o hyd a 60 medr o led. Mae’r mwyaf o’r ddau loc yn 2.35km o hyd ac yn cynnwys 34 hectar. Felly mae’r llociau i’w gweld o’r awyr fel cy;lchoedd tywyll yn y caeau ond siomedig iawn fyddai arwain taith gerdded Edward Llwyd i ymweld a’r safle achos does dim o gwb i’w weld ar y ddaear, felly rhaid cloddio os am ddeall mwy am y llociau.

Cefais gyfle Dydd Mawrth dwetha i ymuno a thim Clwyd Powys yn Walton. Dyma godi yn fore, gadael Caernarfon a chyfarfod y criw ger y gamlas yn y Trallwng toc wedi 8 y bore. Treuliais ddwy flynedd hapus iawn o fy mwywyd yn gweithio i Clwyd Powys 1984/85 cyn i’r hen fusnes Canu Pop ma hawlio fy sylw a dyma gyfle i ail gyfarfod a hen ffrindiau, hen gyd weithwyr – archaeolegwyr fuais hefo nhw yn cloddio yn Four Crosses, Trefaldwyn, Capel  Maelog (Llandrindod) ac wrthgwrs y Gaer Rhufeinig yng Nghaersws.

Braf, roedd fel “bod adre”, pawb yn ddoethach, ond dim wedi newid chwaith – son am gael croeso a theimlo’n gyfforddus. Rhwng Forden, Yr Ysgog a Thref y Clawdd dyma drafod safle Walton a’r hyn oedd yn ein wynebu wrth gloddio. Ffenestr fechan arall, diolch i CADW, i geisio deal mwy am y safle arbennig yma a fel rhywbeth allan o Time Team roedd pump twll neu safle wahanol wedi eu hagor gan y Jac Codi Baw i ni gael cip olwg arnynt.

Joban cyntaf y diwrnod oedd glanhau wyneb bob twll – gyda’n trywal bach – gan gribo’n ofalus i gael y golwg cyntaf ar beth oedd dan y pridd. Dydi cyffrous ddim ynddi bois bach. Roedd hwn yn hawdd yn un o’r dyddiau hynny lle mae rhywun wirioneddol yn diolch i ba bynnag argwydd ddiolchodd Cerys Matthews iddo am gael bod yn Gymro ond roeddwn yn rhoi archaeolegydd o Gymro i mewn yn lle’r Cymro unig yng nghan Catatonia.

Roeddwn ochr yn ochr unwaith eto a’r archaeolegydd Nigel Jones, cyfaill i mi yn nyddiau Four Crosses hyd at Caersws, fel dywedais fawr wedi newid ond fod Nigel bellach yn uchel ei barch yn y maes a wedi cyhoeddi sawl adroddiad a finnau bellach yn gallu rhesymu ac yn dallt archaeoleg cymaint gwell nac yr oeddwn yn ol yn y dyddiau cythryblus yna ddechrau’r 80au lle roedd Punk Rock yn dylanwadu ac yn galw a Thatcher yn mynnu sylw ein gwrthryfel.

Nid gorddweud mae hwn oedd un o dyddiau gorau fy mwywyd, yn sicr yn archaeolegol, achos o fewn yr 8 awr o gloddio reoddwn wedi gweithio ar ddarn o’r lloc Neolithig a hefyd ar ddarn o fynedfa’r Vicus, sef y dref ger y gaer Rhufeinig. Nid aml mae rhywun yn gallu cloddio dau gydnod fel hyn ar yr un diwrnod. Yn sicr dydwi rioed di gwneud hyn o’r blaen !

Cwestiwn mawr prosiect Walton yw beth oedd pwrpas y llociau anferth hirgron yma ? Mae’r llociau yn rhy fawr i ddefnydd amaethyddol, nid y “mart” lleol oedd hyn ar gyfer gwerthu gwartheg, gallwn fod yn weddol sicr o hynny. Mae awgrym fod y fynedfa i’r lloc yn gyfyn, sydd yn awgrymu efallai fod yna reoli ar fynediad i’r lloc a mae’r cwrsws gyfagos yn amlwg yn atgyfnerthu’r ddadl fod hwn yn dirwedd defodol. Fedra ni ddim ond dychmygu …………..

No comments:

Post a Comment