Friday 23 March 2012

Herald Gymraeg 21 Mawrth 2012



Dyma ddychwelyd eto i Sir Drefaldwyn, y tro yma i gynnal gweithdy penwythnos ar Archaeoleg ar ran Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, neu’r WEA fel da ni’n tueddi i ddweud, yn yr Institiwt Llanfyllin. Mae’r penwythnosau yma yn rhai bach da, y syniad yw fod oedolion yn cael blas ar y cyfnodau Archaeolegol, gan gynnwys rhoi sylw i safleoedd lleol ac yn well byth, ein bod yn cael mynd allan ac yn gwneud ychydig o waith maes.

                Felly mae criw yn ymgynyll, ran amla criw sydd a diddordeb yn hytrach na unrhyw arbenigedd yn y maes, a’r peth cyntaf i’w wneud bob tro ydi meddiannu’r gegin a chynnig panad i bawb. Rhaid i’r amsar panad gynnwys bisgedi wrth reswm ond o ganlyniad, naw gwaith allan o ddeg, rydym oll yn hen ffrindiau erbyn gorffen ein panad. Mae hi bellach yn 9-20 y bore !

                Diddorol yw nodi fod y dosbarth bach brwdfrydig yma ym Maldwyn yn hanner- hanner, sef hanner yn Gymry Cymraeg naturiol, rhugl a’r hanner arall yn ddysgwyr medrus. Dyma sut i godi calon rhywun ar fore braf o Wanwyn. Prin chwe milltir o’r ffin a mae tystiolaeth pendant fod pobl Gogledd Ddwyrain Maldwyn yn gweld gwerth dysgu’r Iaith -  fel dywedais, codi calon rhywun, ac efallai, ond efallai, ein bod yn euog weithiau o ddi-ystyru ymdrechion dysgwyr.

                Rwyf yn gweld mwy a mwy o ddysgwyr dyddiau yma drwy fy ngwaith darlithio, mae sawl dosbarth gennyf sydd a chanran sylweddol o ddysgwyr yn mynychu, ac o ganlyniad mae rhywun yn sicr yn siarad yn fwy pwyllog, yn cadarnhau fod pawb yn dilyn y termau “newydd” archaeolegol fel celc am “hoard” ond mae’n ffordd ddigon diddorol o ymarfer y Gymraeg dybiwn i.

                Rhaid canmol Institiwt Llanfyllin, mae’n glud a chyfforddus, dyma fydd ein camp am y penwythnos a mae’r gofalwyr yn gofalu amdanon, yn galw heibio i weld fod popeth yn iawn a hefyd yn dod a gwaewffon Oes Efydd i mewn i ddangos i’r dosbarth – dipyn o gynnwrf yn Llanfyllin felly. Ar ol dipyn o ddarlithio a dangos lluniau mae’n amser am “waith maes” a phleser o’r radd flaenaf oedd cael ymweld a Sycharth ar y pnawn Sadwrn.

                Dyma safle sydd yn enwog fel un o gartrefi Owain Glyndwr (un o gartrefi wir ! yr Uchelwr uffar !! Sgwni beth yw’r safbwynt Marcsaidd ar Glyndwr ? sori tynu coes ychydig ynde). Does dim dwy waith fod Sycharth wedi ei osod yn un o’r safleoedd harddaf yng Nghymru, mewn dyffryn cuddedig ger Ddyffryn Tanat, rhwng Llangedwyn a phentref Llansilin. Roedd cartref Glyndwr yn un godidog, fel y nodwyd gan Iolo Goch yn ei gerdd “Llys Owain Glyndwr” yn ei lyfr ‘Iolo Goch : Poems’.

                Hyd at heddiw mae rhywun yn cael blas o’r awyrgylch yma, gyda’r pyllau pysgod a’r ail ddefnydd o bosib o’r hen domen Mwnt a Beili Normanaidd fel y gwnaeth yng Nglyndyfrdwy, dyma le lle roedd croeso i Uchelwyr eraill o ardal y Gororau, dyma lys Ewropeaidd ei naws, yn edrych allan, yn addysgiedig, yn gyfoethog, yn rhan o’r gymdeithas Uchelwyr.  Mae nifer wedi awgrymu fod cerdd Iolo Goch hefyd yn ddrych ar y math o gymdeithas roedd Glyndwr yn perthyn iddi.

                Ddiwedd y prynhawn a’r myfyrwyr wedi ei throi hi am adre am y nos, mae dal digon o oleuni i mi gyrraedd Llanrhaeadr ym Mochnant. Rwyf eisiau cael lluniau o’r faen-hir sydd yn cynnwys carreg filltir gan nodi y pellter i Amwythig a Llundain a rwyf hefyd am dynu llun y cofebau ar wal y fynwent i William Morgan, un mae’n rhaid dweud braidd yn wyrdd dyddiau yma oherwydd mwsogl.

                Wedyn rhaid dilyn y lon fechan droellog am rhai milltiroedd at y Pistyll Rhaeadr. Dyna sioc, mae yna geir ymhobman, y maes parcio yn llawn, pobl o gwmpas – sydd yn dda i’er econiomi leol wrthreswm – ymwelwyr cynnar – Croeso i Gymru. Penderfynais osgoi’r dorf a dilyn y llwybr i ben y pistyll. Mae angen pen da am uchder.

                Llai na chanllath o ben y pistyll sylwais ar bentwr o gerrig, dwi’n gwybod be di hwn meddyliais, felly dyma ddilyn y llwybr mynydd rwan i gyfeiriad y Berwyn go iawn. Ie wir, dyma olion crug claddu neu garnedd gladdu o’r Oes Efydd. Mae un tebyg iawn ger Bwlch y Ddeufaen sydd yn dwyn yr enw Barclodiad y Gawres ond ddim i’w ddrysu hefo’r siambr gladdu ger Aberffraw yn amlwg. O fewn ugain llath i’r garnedd yma dyma sylwi ar adfeilion hen hafodty. Tirwedd archaeolegol unwaith eto, olion dyn ymhobman.

                Y diwrnod canlynol rydym yn ymweld a Thomen Castell ym mhentref bach taclus tu hwnt, Llanfechain. Doedd neb o’r dosbarth wedi ymweld a’r castell Mwnt a Beili yma o’r blaen a mae’n braf cael tywys pobl i rhywle newydd. Mae’r ffosydd a’r domen i’w gweld yn glir ar ochr y ffordd o Lanfyllin i lanfechain ond does dim modd curo rhoi troed ar y tir. Rhaid sefyll ar safle i gael y profiad llawn.

Eto dyma safle trawiadol iawn. Cwestiwn da os yw’n safle Normanaidd neu un Cymreig ? Un peth sydd yn sicr mae’n gorwedd yn Nyffryn Cain ger y Gororau ac yn hanesyddol  dyma ardal lle bu dipyn o ymrafael dros reolaeth yr ardal. Fe all fod yn gastell Cymreig yn defnyddio’r arddull Normaniadd. A’i yma oedd castell Tywysog Powys, Owain Fychan ap Madog a fu’n brwydro yn yr ardal yma o Fochnant o  gwmpas 1166 ?

Felly y “Penwythnos Mwnt a Beili” fel cafodd ei fathu. Dau safle hynod, a dau safle y byddwn yn argymell yn fawr iawn i ddarllenwyr yr Herald ymweld a nhw.

No comments:

Post a Comment