Thursday 1 March 2012

Herald Gymraeg 29 Chwefror 2012.

Yn y rhifyn cyfredol (Mawrth-Ebrill 2012) o’r cylchgrawn ‘British Archaeology’ mae cryn sylw, a gofod sylweddol, gan gynnwys y dudalen flaen, cyfweliad ag e, llythyrau a gwerthfawrogiad,yn cael ei roi i’r ffaith fod Mick Aston yn gadael y rhaglen Time Team.  Yr hyn sydd yn amlwg o ddarllen y cyfweliad cignoeth a gonest hefo Mick yw ei fod yn mynd o ran “egwyddor”, wrth i gynhyrchwyr Time Team ildio i bwysau ma’n siwr i gael cyflwynwyr ifanc newydd (mwy deiniadol ?) ar y rhaglen.

                Mae un darn yng nghyfweliad Aston sydd yn dweud y cyfan, wrth iddo honni i Tony Robinson, cyflwynydd rheolaidd y gyfres, ei ddarbwyllo i ddewis ei eiriau yn ofalus wrth siarad gyda Sianel 4. Dyma’r linell wnaeth y fwyaf o argraff arnof, fod rhai, a ddigon teg, yn poeni bellach am gadw eu swyddi – rydym yn hen gyfarwydd ar ymadroddiad Saesneg hynny o “beidio ysgwyd y gwch” – a dyna oedd awgrym Robinson yn yr achos yma.

                Dwi’n dweud “ddigon teg” achos mae rhywun yn deall yn iawn pam mor galed yw hi allan yna dyddiau yma, mae costau byw ar i fyny, mae angen trio cadw swyddi neu cadw mewn gwaith a mae pawb yn y Byd go iawn (h.y heblaw y bancwyr, Aelodau Seneddol  a’r Cyflafwyr mawr) yn trio eu gorau i roi bwyd ar y bwrdd fel petae.

                Ond canlyniad hyn i gyd yw fod fy mharch tuag at Aston wedi cynyddu 200% ac yn drist iawn, fy mharch at Robinson bellach wedi gostwng o ffigwr tebyg. Deallaf nad oes disgwyl i Robinson a’r cyflwynywr eraill i gyd gerdded allan, ac eto mewn ffordd dyma oedd ei angen, “mewn undeb mae nerth”. Felly bydd Time Team yn parhau, yn parhau i fod yn hynod  boblogaidd wrth reswm ac o fewn ychydig raglenni bydd y mwyafrif wedi anghofio am Aston.

Rhyw fyd ddigon creulon yw’r Byd Teledu, gofynnwch i Gerallt Pennant a chriw Wedi 7 yng Nghaernarfon, ie dyna’r math o fyd yw e, mae rhaglenni yn mynd ac yn dod, mae comisiynau yn cael eu rhoi ac eu gwrthod, ond dydi hynny ddim yn golygu nad oes elfen o “wyneb-galedrwydd” yn perthyn i’r Byd yma – a hynny mor aml gyda “Arian Cyhoeddus” yn hytrach nac arian masnachol yng ngwir ystyr y gair - yn sicr yma yng Nghymru.

Felly edmygaf safiad Aston, efallai ei fod rhy hen i newid, rhy hen i blygu hefo’r gwynt llai teg newydd, efallai ei fod ddigon hen i beidio bod ofn Sianel 4, ac er nad yw ei safiad yn un mawr o ran hawliau dynol neu rhyw ymgyrch wleidyddol benodol – mae yna rhywbeth braf iawn mewn gwybod fod rhai yn dal yn fodlon dilyn eu calonnau yn hytach na’r cyfrif banc.

Digon o waith bydd Aston yn cael gofod ar Sianel 62 onibai ei fod yn rhoi sioc i ni gyd ac ymddangos yn ei newydd wedd fel “Dysgwr y Flwyddyn” a go brin y gwelwn i Gerallt Pennant chwaith ar Sianel 62 er tybiaf na fydd rhywun o safon a phrofiad Pennant ddim yn hir nes bydd yn ymddangos unwaith eto ar Calon y Genedl.

Roedd cryn gyffro i’r “Sianel Newydd” yndoedd, sylw mawr ar y Cyfryngau a’r gwybodysion wrthi yn trydar “yn fyw” fel daeth y sianel yma yn fyw arlein. Yn ogystal a’r datblygiadau gyda Radio’r Cymry fydd yn cael ei lansio cyn bo hir – eto ar lein – mae’n weddol amlwg fod cenhedlaeth newydd o ddarpar gynhyrchwyr rhaglenni allan yna. Credaf mae’r ysgogiad pennaf i’r datblygiadau newydd cyffrous yma yw’r diffyg mewn gwirionedd o ddewis o raglenni a chynwys yn y Gymraeg.

Bellach does dim modd bodloni’r Genedl gyda un gorsaf deledu neu un orsaf radio a’r hyn sydd yn hollol amlwg i bawb (heblaw’r penaethiaid efallai ?) yw fod Cymry ifanc yn sicr yn rhugl arlein, ac isio mwy, mwy o ddewis, mwy o sylwedd, mwy o arbrofi, mwy o fentro. Croeso i’r dyfodol.

Yr hyn sydd yn ddiddorold mewn ffordd o ystyried cyd destun y datblygiadau ar lein yma yw fod C2/Radio Cymru wedi cynhyrchu un o’u rhaglenni gorau ers blynyddoedd yn “Caneuon Protest” sydd yn olrain hanes y gan brotest yn y Byd Pop Cymraeg. Gyda cyflwynydd ifanc, deallus a hynod wrandadwy yn Griff Lynch, mae C2 wirioneddol wedi taro’r hoelen ar ei phen – dyma’n union ddylia fod wedi bod ar Sianel 62 ar ffurff ffilm ddogfen  yn hytrach na darlith (sermon) sych Steffan Cravos Tynged yr Iaith 2.

Nid fi oedd yr unig un i ddiflasu, yn sicr o ddilyn Trydar, tiwnias i mewn i Sianel 62 gyda mawr gyffro ond siom oedd cael rhywun yn pregethu, nid annisgwyl, ond diflas braidd. Yr hyn sydd yn gyffrous am Sianel 62 yw fod y Gymdeithas wedi rhoi mwy o ddewis ar y fwydlen, fel bydd Radio’r Cymry yn ei wneud a mae pobl ifanc Cymru yn haeddu cael eu bwydlen gynhwysfawr yn y Gymraeg. Dewis fydd o wedyn, mwy o ddewis, a mae hynny yn beth da.

Efallai hefyd fod hyn yn rhoi gorau i’r un siop, yr un modd (monopoli) o gael pethau allan, sydd wedi tagu creadigrwydd yn y Byd Cymraeg dros y blynyddoedd. Rhaid dweud mae’r holl beth yn teimlo yn gyffrous a’r gobaith yw y bydd mwy o sianeli  teledu / radio yn ymddangos ar lein ac y cawn o’r diwedd Bopeth yn Gymraeg !




No comments:

Post a Comment