Sunday 15 April 2012

Cyfweliad Y Blew Llmych 1986 Rhan 1

Huw Prestatyn yn sgwrsio hefo Dafydd Evnas basydd y Blew yn Llangadog, Hydref 1986 ar gyfer y ffansin LLMYCH. (Hefyd yn bresennol Rhys Mwyn).

C. Beth wyt ti'n feddwl am gwpl o 'loonies' yn teithio o un pen i Gymru i'r llall er mwyn sgwrsio am fand ddaru orffen ugain mlynedd yn ol ?

D.E : Mae'n synnu fi braidd rhaid i mi gyfaddef ! Mae na rhyw fath o adfywiad o ddiddordeb ym mhethau'r 60au ar hyn o bryd yndefe, ond mae'n synnu fi braidd eich bod chi'n weld e mor bwysig iddod yr holl ffordd lawr.

C. Rydan ni'n gwybod rhywbeth am hanes y Blew .... sef y grwp cyntaf i ganu yn Gymraeg, y record Maes B wrth gwrs ... beth yn union oedd hanes sefydlu'r Blew ?

D.E : Mae'n stori hir mewn un ystyr. Bues i'n chware mewn grwpiau Saesneg ers tua 1962. Fy grwp cyntaf oedd "Firebirds" ym 1962, roedden ni'n chwarae llawer o stwff Eddie Cochran yn ogystal a Buddy Holly, Little Richard a chaneuon mwy cyfoes fel stwff y Shadows, ventures, Cougars ac yn y blaen. Dechreuais chwarae yn Llundain hefo grwp o'r enw "Gonads" ym 1963, ac fe aethy y lleill ymlaen i chwarae hefo "Idle Hands" - grwp gweddol lwyddiannus.

Pan es i goleg yn Aberystwyth ym 1964 roeddwn am ddechrau grwp Cymraeg. Ym mharti Dolig '64 bues i'n canu ar fy mhen fy hyni'r Gymdeithas Gymraeg. Dim ond fi a gitar fas yn canu pethau Jerry Lee Lewis.
Wedyn fe ffurfiwyd grwp Cymraeg yn Aberystwyth tua '65 ond ddaeth na ddim llawer ohono fe - bachgen o Bontypridd yn chwarae'r piano a rhywun arall o Bontypridd yn canu, dwi ddim yn cofio enw'r grwp. Roeddwn i gyda'r grwp Saesneg o'r enw "The Italics" ar y pryd.

Wedyn mi ddaeth Maldwyn Pate i'r coleg tua '65. Roedd Maldwyn a llawer iawn o ddiddordeb mewn cerddoriaeth 'pop'. Felly yn Eisteddfod 1966 yn Aberafan fe wnaethom ffurfio grwp pop Cymraeg eithaf trwm am y tro cyntaf bydden ni'n meddwl. Roeddwn yn chwarae bas, Maldwyn yn canu, Hefin Elis ar y gitar, Geraint Griffiths ar rithm a rhyw fachgen o Aberafan ar y dryms. Enw y grwp oedd 'Y Pedwar Cainc'. Maldwyn i fod yn deg drefnodd y cwbl, fe oedd yn gyfrifol am Hefin Elis a Geraint Griffiths.

Wedyn ar ol hynny yn nechrau '67 fe benderfynon ni i drio dechrau grwp Cymraeg yn y coleg, sef  Y Blew.

No comments:

Post a Comment