Thursday 26 April 2012

Herald Gymraeg 25 Ebrill 2012



Yn bell cyn i ni gael “Datganoli go iawn” yn dilyn refferendwm 1997, a hyd yn oed cyn siom enfawr ’79 mae lle i ddadlau fod datganoli yn fewnol  yn gysyniad roedd Cymru wedi ei hen fabwysiadu, doedd dim ond rhaid edrych ar y ffaith fod y Llyfrgell Genedlaethol wedi ei leoli yn Aberystwyth, roedd Prifysgol Cymru wedi ei leoli ym Mangor, Aber, Abertawe, Caerdydd……  a roedd yr Amgueddfa Genedlaethol, wel, nid yn unig yng Ngaherdydd ond yn Sain Ffagan, Llanberis, Caerleon………

                Hyd yn oed fel hogyn /dyn ifanc roeddwn yn gweld rhywbeth hynod flaengar yn hyn a’r diwrnod o’r blaen, wrth sefyll o flaen adeilad hyfryd yr Amgueddfa Genedlaethol ym Mharc Cathays, dyma deimlo’n falch o’n sefydliadau Cymreig datganoledig. Penseiri’r adeilad oedd Arnold Dunbar Smith a Cecil Brewer ac er i’r gwaith adeiladu ddechrau ym 1912 fe ymharodd y Rhyfel Mawr ar y gwaith a roedd hi’n 1927 ar yr Amgueddaf yn agor i’r cyhoedd. Ond o’r tu allan mae’n adeilad godidog.

                Tu fewn i’r Amgueddfa, yr yr Oriel “Gwreiddiau – Canfod y Gymru Gynnar” dyma chi gasgliad anhygoel o rai o wrthrychau archaeolegol mwyaf eiconig Cymru. Ar y ffordd i mewn i’r oriel dyma chi sgerbwd wr ifanc Pen y Fai wedi ei staenio’n goch gyda ocr,y sgerbwd yma oedd wedi ei gam ddehongli fel Menyw Pen y Fai. Sgerbwd sydd yma yn dyddio yn ol oddeutu 29,000 o flynyddoedd, yr engraifft gynharaf sydd ganddym o gladdu seremoniol ym Mhrydain a hefyd y tro cyntaf i sgerbwd gael ei gloddio yn systematig yn archaeolegol – gan William Buckland ym 1822-23.

                A dweud y gwir mae’r oriel fel siop ffefrins, danteithion yn gorlifo. Dyma chi frigwn Capel Garmon a’i ben ceffyl-ychain, yr addurn haearn oedd yn un o bar, yn cynnwys 85 darn o haearn ac amcangyfrifir i’r gwaith gymeryd oleiaf 3 mlynedd o oriau dynol i’w gwblhau. Wedi ei ddarganfod wedi ei galddu yn fwriadol yn y mawn ar fferm Carreg Goedog ym 1852 - yn sicr doedd y math yma o addurn ddim yn perthyn i chi a mi – dyma addurn penaeth y llwyth – yn datgan fod yma ddyn a dylanwad a chyfoeth.

                Wrth ymyl mae casgliad anhygoel Llyn Cerrig Bach, y gwrthrychau milwrol yn bennaf a offrymwyd i’r Llyn Sanctaidd ger RAF Valley bellach. Yn ol rhai dyma arwydd fod y Rhufeiniad yn dod a’r Derwyddon yn brysur yn taflu cleddyfau a gwaewffyn i’r Llyn gan weddio am fuddugoliaeth yn erbyn Suetonius Paulinus. Efallai wir, ond os yw’r Llyn mewn defnydd mor fuan a 200 Cyn Crist dydi’r Rhufeiniad ddim yn esbonio’r arferion yma yn llwyr.

                Ac yn ddiweddarach mewn hanes dyma’r unig ddelwedd o Llywelyn Fawr, y corbel cerfiedig o Gastell Degannwy, unwaith eto yn dynodi statws, grym a dylanwad – sgwni os mae wyneb Llywelyn yw hwn – a fod Llywelyn ddigon pwysig i gael carreg corbel hefo’i wyneb arno i ddal trawsbyst y to yng Nghastell Degannwy ? Mewn ffordd od mae’n atgoffa mi o gerflun Ann Grifiths yn y Capel Coffa yn Nolannog – cerflun heb emosiwn, bron yn afreal ond ceflun trawiadol a chryf.

                A hyn heb son am Gelc Aur Llanwrthwl, Coron Cerrigydrudion, a’r fowlen anhygoel hynny o Beudy Mawr ger Crib Goch – a’r handlan fechan honno o haearn a gwydr coch sydd yn debyg iawn i wyneb cath – bwriadol neu anfwriadol – dyna’r cwestiwn ? Hyfryd wrthrychau, hyfryd storiau, y roll mewn un ystafell - eiconau y byd gwrthrychau archeolegol Cymreig, yn werth eu gweld, yn rhyfeddol ac yn ysbrydoledig.

                Yn ddadleuol (efallai ?) mae son am symud yr adran Archaeoleg i fyny i Sain Ffagan. Ydi hyn yn beth da neu ydi hyn yn beth drwg – dyma chi gwestiwn arall. Yn sicr fydd hi ddim mor hawdd i ymwelwyr am y dydd i Gaerdydd fynychu Sain Ffagan ond, mae Sain Ffagan ei hyn yn un o’r amgueddfeydd gorau sydd ar gael. Felly bydd y Celf yn parhau yn y Ddinas ond yr Archaeoleg i fyny yn Sain Ffagan. Dwi heb ffurfio barn.

                Yn Sain Ffagan mae mwy byth o eiconau. Fy hoff adeilad (yn naturiol fel un o Faldwyn) yw Abernodwydd. Roedd teulu Abernodwydd yn yr ysgol hefo mi ac er fod y bwthyn yma yn Sain Ffagan ers y 50au roedd yr hogia dal yn cael eu galw yn “Abernodwydd”, ac yn wir dyna oedd yr enw ar y ty newydd hefyd yn Llangadfan.

                A dyma chi newid byd, yn ol yn y 50au fe dalwyd am ail godi’r ty gan Gyngor Sir Drefaldwyn , go brin fydda na arain yn y coffrau y dyddiau yma heb son am y ffaith fod Maldwyn wei ei lyncu gan Powys fel Sir – er dwi byth yn cyfeirio at Maldwyn fel unrhywbeth ond Sir Drefaldwyn. Ty  o fframwaith pren yw Abernodwydd wedi ei godi ar sylfan o gerrig gyda’r panelau wedyn wedi eu llenwi gyda gwyail cyll wedi eu plethu a mwd ar ei ben a wedyn plastr i orffen.

                Gyda’r plastr wedi ei baentio yn wyn a’r pren yn ddu dyma sy’n rhoi y lliw du a gwyn nodweddiadol i’r hen dai yma sydd mor gyfarwydd yn Sir Drefaldwyn. Ond wedyn mae adeilad coch Kennixton hefyd yn adeilad eiconaidd – y coch mae’n debyg i gadw’r ysbrydion drwg draw rhag y ty ………….. Ond y pwynt yn fan hyn yw fod ganddom gyfoeth o fewn yr Amgueddfa Genedlaethol – cyfoeth o ran Hanes Cymru, ein bywyd dydd i dydd a’n datblygiad fel Cenedl a diolchaf fod ein Amgueddfa Genedlaethol ar wyth safle gwahanol – dyna chi engraifft da o ddatganoli !

No comments:

Post a Comment