Wednesday 4 April 2012

Herald Gymraeg 4 Ebrill 2012. Canu Protest @ C2



Mi fyddaf yn poeni am bethe, neu yn fwy penodol am “y Pethe”, sef diwylliant cyfoes Cymraeg, yr hyn fu gymaint yn rhan o fy mywyd o ddiwedd y 70au tan yn ddiweddar iawn, cyn i mi droi yn ol at y maes Archaeoleg. Bellach rwyf yn teimlo fel rhywun sydd wedi, i bob pwrpas, “ymddeol” o’r Byd Pop, dwi’n hanner cant eleni, be dwi’n wybod am ganu pop ? Dwi bell rhy hen, a mae yna genhedlaeth newydd ifanc allan yna wedi cymeryd lle y genhedlaeth “danddaearol” ac i raddau helaeth cenhedlaeth "Cwl Cymru" er fod bob yn ail grwp newydd yn dal i swnio fel Super Furry’s / Gorky’s.

                Un o’r rhaglenni gorau fu ar Radio Cymru, ac yn wir ar unrhyw gyfrwng Cymraeg ers peth amser, oedd y gyfres hynod ddiddorol a threiddgar, “Canu Protest” dan oruwchwyliaeth y cynhyrchydd Dyl Mei (cyn aelod o Pep le Pew a Genod Drwg) a’r cyflwynydd ifanc a deallus Griff Lynch (aelod o’r grwp gwych newydd Yr Ods). Hanes caneuon protest, o Dafydd Iwan hyd at heddiw a’r grwpiau dwy-ieithog oedd y gyfres ar ffurf pytiau o ganeuon a chyfweliadau hefo’r prif gymeriadau. Roedd hwn yn wrando HANFODOL, mae hanfodol dipyn gwell na diddorol cofiwch, mae hanfodol yn golygu fod rhaid clywed pob rhaglen yn y gyfres a diolch byth am BBC iPlayer.

                Ymhlith y cyfranwyr mwyaf diddorol ir gyfres roedd Tecwyn Ifan ac Alun Sbardun Huws, y ddau yn enwau cyfarwydd ac yn gyfrifol am rhai o ganeuon pop gorau’r Iaith Gymraeg, ond y dyn oedd efallai yn dangos y mwyaf o weledigaeth dros y gyfres i gyd oedd Cleif Harpwood. Rwan dyma chi gymeriad diddorol. Dros y ddwy neu dair mlynedd dwethaf rwyf wedi dod yn gyfeillgar a Harpwood, byddai’n wir i ddweud fy mod yn hoff iawn ohonno, mae bob amser yn cynnig sgyrsiau diddorol, mae ganddo farn pendant ar bethau a mae ei wleidyddiaeth yn llawer mwy cywir na’r rhan fwyaf o falwyr awyr  y Byd Cymraeg.

                Roedd gwrando ar hanes twf canu protest Cymraeg, o ddiniweidrwydd Woody Guthriaidd Dafydd Iwan i ffurfio’r grwp roc cyntaf Cymraeg (yn sicr y grwp roc cyntaf i gael dylanwad torfol) Edward H yn gwenud gwrando hanfodol fel dywedais. Ond, yr hyn oedd yn gwthio’r rhaglen yn ei flaen yn fwy byth oedd damcanaiethau rhai fel Harpwood ac i raddau cymeriadau o’r sector wleidyddol fel Emyr Llywelyn un o sylfaenwyr Adfer.

                Beth gafwyd yma oedd cipolwg ar y bobl ifanc yma, y genhedlaeth gyntaf i droi’r Gymraeg yn rhywbeth cyfoes, yn rhoi y Byd yn ei Le. Dyma sut mae gwneud hanes yn fyw bois bach, a dyma chi raglen oedd yn ddeg gwaith fwy gwych achos fod y cyfranwyr yn gallu mynegi barn a safbwyntiau gwleidyddol yn huwadl ac yn ffraeth. Roedd clywed beth oedd meddylfryd yr arloeswyr yma yn ddiddorol tu hwnt achos i fy nghenhedlaeth i, ar ddechrau’r 80au roedd Mudiad Adfer yn gyfystyr a myfyrwyr Bangor (bwlis) oedd yn tueddi i ymosod yn gorfforol ar unrhywun oedd o du allan i’r Fro Gymraeg (a hanes y bwlis -rhain oll yn barchusion y Genedl  erbyn heddiw).

                Beth bynnag oedd gweledigaeth rhai fel Tecwyn Ifan, Harpwood a Emyr Llew fe feddianwyd y mudiad gan bennau bach ar dan isho bod yn fwy o Gymro na rhywun gafodd ei fagu yn yr ardal anghywir. Dyma sut datblygodd y cyhuddiadau fod Adfer yn gallu bod yn “ffasgaidd”. Cyhuddiadau ddefnyddiais fy hyn ar ol i un Adferwr o Neuadd JMJ awgrymu “y dyliwn fynd yn ol i Gaerdydd” mewn geiriau ychydig mwy glas na hynny yn nhoiledau tafarn y Glob ym Mangor (doedd yr Adferwr bach di-bwys yna yn amlwg ddim yn gyfarywdd ai’i fap o Gymru na Sir Drefaldwyn).

                Or hyn a glywir yn y gyfres, nid dyma oedd gweledigaeth na nod rhai fel Harpwood, Tecs ac Emyr Llew ond byddai’n rhaglen arall i ddechrau trafod diffyg cyfeiriad Adfer wedyn yn ystod yr 80au. Rhaid dweud fod y gyfres yma wedi hawlio fy sylw, tanio fy nychymyg ac wedi dysgu dipyn o bethau o’r newydd i mi, felly dyma ddiolch i gomisiynwyr Radio Cymru am ddarlledu rhaglen o’r fath.

                Ond wedyn dyma chi gwestiwn, a’i rhain yw’r un penaethiaid sydd wedi gweld yn dda i ddod a Rhaglen Lisa Gwilym i ben yn yr Hydref ? Ar Byd Pop Cymraeg ar ei liniau yn ddi-dal ac yn ddi-barch bydd colli rhaglen Lisa yn glec arall i’r Diwydiant Pop Cymraeg sydd yn ddyddiol yn troi yn fwy o hobi nac o fusnes i gerddorion a chyfansoddwyr Cymraeg. Oleiaf gyda Lisa Gwilym mae cerddoriaeth Cymraeg cyfoes yn cael ei roi mewn cyd-destun ac yn cael ei drin o ddifri. A’n helpo os yw’r dyfodol yn nwylo rhai fel Dafydd James a’i ddewis o bob dim o Erasure i Scott Walker a’i westeion canol y ffordd fel Stifyn Parri a Sian Cothi – iawn yn y dydd efallai ond nid ar C2 does bosib ?

                Bellach mae ymgyrch Achub Lisa wedi ei gychwyn ar y cyfryngau digidol cymdeithasol – a byddwn yn mynd cam ymhellach – pam ddim rhoi Lisa ymlaen yn y prynhawn a dod a Radio Cymru i’r 21fed Ganrif ???? Fe fuodd Pobl y Pethe ddigon parod i gwyno am raglen ddifrifol wael fel Heno – y cwestiwn mawr nawr yw a fydd Pobl y Pethe yn codi llais i gadw rhaglen mor dda ac un Lisa Gwilym ?  Yr wythnos nesa byddaf yn adolygu gig Cleif Harpwood yn y Buck, Caersws ond am y tro rhaid gofyn - Pwy Sy’n Becso Dam ? Achub Lisa !

               

No comments:

Post a Comment