Monday 16 April 2012

Mynydd Rhiw (Barn Ebrill 2012) fersiwn llawn o'r erthygl.


Mewn gwirionedd dydi Mynydd Rhiw, Pen Llyn, fawr o fynydd o gymharu a’i gefndryd yn Eryri, yn cyrraedd cwta 304 medr uwch y mor, ond mae’n fynydd sydd yn frith o olion archaeolegol o sawl cyfnod.  Dyma fynydd yr “hen bobl”, mae’n gorwedd mewn ardal sydd yn parhau i deimlo fel  ardal lle mae amser rhywsut yn arafach, ardal a thirwedd hynafol.

Y nodwedd archaeolegol fwyaf adnabyddus ar Fynydd Rhiw yw’r Ffatri Fwyeill Neolithig.  Yn ol ym 1956 daeth y “cytiau crynion” ar ochr ogleddol  y mynydd i sylw pobl am y tro cyntaf wrth i A.H.A Hogg o’r Comisiwn Brenhinol adnabod olion o’r awyr yn ystod ei archwyliad o Sir Gaernarfon. Digon cyffredin yng Ngogledd Orllewin Cymru yw’r cytiau crynion neu “Cytiau’r Gwyddeolod”, sydd ar y cyfan, yn dyddio o gyfnodau’r Oes Haearn a’r Cyfnod Rhufeinig – cartrefi’r Celtiaid neu’r brodorion lleol yn hytrach na unrhyw “Wyddelod”.

Dangosodd waith maes ychydig yn ddiweddarach ym ’56 gan y Comisiwn Brenhinol  fod olion gweithio cerrig yn y “cytiau”. Yn wir, ymdebygai’r sbwriel yma i’r math o ol-gynnyrch neu weddillion  a geir o weithio callestr i greu offer ac arfau. Nid cytiau crynion oedd Hogg wedi ei weld o’r awyr ond olion gwaith cerrig yn dyddio yn ol i gyfnod y ffermwyr cyntaf, y cyfnod Neolithig, rhwng 4000C.C a thua 1500C.C

Y bennod nesa yn stori’r Ffatri Fwyeill  oedd i’r archaeolegydd  Chris Houlder gloddio ar y safle ym Mis Medi 1958 ac eto ym mis Ebrill 1959. Yr hyn a ddarganfuwyd gan Houlder oedd mae olion chwareli oedd y tyllau crynion, hyd at pump twll yn rhedeg un ar ol y llall i fyny ochr y mynydd a fod y tyllau chwarel wedi eu cau ar eu hol gyda sbwriel y twll nesa wrth iddynt ddilyn y graig ar hyd ochr y mynydd.

Rhywsut neu’i gilydd fel lwyddodd y ffermwyr cynnar i adnabod y sial Ordoficaidd lleol sydd wedi ei effeithio gan wres cerrig ymwthiol folcanig, dyma’r garreg sydd yn hollti fel callestr i greu’r arfau. Ond yr hyn sydd yn fwy syfrdanol yw fod y wthien o sial o’r fath yn gorwedd  o dan tua 4 troedfedd o waddod ar ol rhewlifiant, fod yr haenen o sial prin 2 droedfedd a 6 modfedd o ddyfnder a fod y chwarelwyr Neolithig wedi dilyn yr haenen yma dan ddaear  ar ongl o thua 25 gradd – drwy gloddio agored.

Yn ol Steve Burrow (2007) mae’n bur debyg fod cerrig wedi eu darganfod ar y wyneb, a wedyn fod y “crefftwyr” cerrig wedi sylweddoli fod haenen i’w dilyn dan ddaear ond mae’n bwysig i ni werthfawrogi fod hyn 5,000 o flynyddoedd yn ol – dyma engraifft o rai o’r chwarelwyr cyntaf yng Ngogledd Cymru.


Yn dilyn sgwrs gyda’r archaeolegydd-arbrofol Dave Chapman o Ancient Arts penderfynwyd gofyn caniatad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i Chapman a’r finnau gael gwneud gwaith maes ar Fynydd Rhiw ym Mis Chwefror 2011. Y bwriad oedd dod o hyd i samplau o’r cerrig (i ffwrdd o’r safleoedd archaeolegol) gyda’r bwriad, am y tro cyntaf ers y Neolithig, i ail-greu offer fel byddai dyn Neolithig wedi ei greu – hynny yw,  gan ddefnyddio’r un garreg.

Treuliwyd diwrnod cyfan ar ochr y mynydd, Chapman a’r minnau yn ceisio i ddod o hyd i ddarnau o sial gallwn wedyn arbrofi arnynt yn ol yn stiwdio Ancient Arts. Yn sicr roedd prinder o gerrig addas yn gorwedd ar y mynydd. Un casgliad o’r gwaith maes yma yw fod dyn Neolithig wedi adnabod a defnyddio’r cerrig gora. Ychydig iawn o’r sial oedd i’w ddarganfod ar y wyneb ac os oedd darnau amlwg, roedd rheini mewn cyflwr mor ddrwg y byddai’r garreg wedi chwalu’n syth wrth ei daro. Yn sicr roedd y crefftwyr Neolithig yn gallu “darllen y garreg”.

Rhai oriau yn ddiweddarach roedd digon o gerrig ganddym i oleiaf ymgeisio i ail greu bwyall ac efallai ychydig o offer arall fel crafwyr croen, cyllill ac offer trin coed. Y bwriad oedd ail greu offer yn defnyddio’r un garreg a wedyn fod yr offer yma ar gael ar gyfer defnydd addysgol – yn benodol i blant a myfyrwyr ysgol gael eu gweld, eu gafael a’u trafod.

Canlyniad arall diddorol i’r gwaith maes yn Chwefror 2011 oedd darganfod crafwr ar ochr y mynydd. Crafwr gymharol fawr, anarferol ac amrwd, ond yn sicr darn o garreg oedd yn dangos ol gwaith dyn arno. Yn ystod ein sgwrs am y darganfyddiad,  a chofnodi’r  garreg cyn ei ail chladdu ar y safle, dyma drafod sut ymateb fyddai gan yr “archaeolegwyr traddodiadol” i garreg o’r fath. A fyddai’r sefydliad archaeolegol yn cydnabod fod carreg o’r fath yn arf neu offer wedi ei ddefnyddio gan ddyn ? Arbenigedd Chapman yw adnabod ol gweithio ar gerrig.

Yn ddiweddarach ym MIs Chwefor, treuliwyd diwrnod yn stiwdio Ancient Arts yn Rowen yn ail greu offer gyda’r samplau roeddem wedi lwyddo i gael o’r mynydd. Yn ystod y dydd, llwyddwyd i ail greu bwyall drom, y math o fwyall fyddai dyn Neolithig wedi ei ddefnyddio i dorri coed, a gyda’r caenennau  a’r gweddillion o’r broses, roedd modd creu dwsinau o grafwyr a chyllill bach.

Dyfyniad Chapman yw ei fod yn gallu creu cyllell o garreg yn gynt na mae’n gallu disgrifio’r broses o wneud un. Mae yna wir yn hynny. Creuwyd y fwyall o fewn dwy awr. Creuwyd y crafwyr o fewn munudau.


Dyma efallai, er mor amlwg, yw un o’r canlyniadau o’r gwaith arbrofol. Yn sicr roedd Mynydd Rhiw yn “Ffatri Fwyeill”yn ystod y cyfnod Neolithig, mae tua ugain ohonnynt wedi eu hadnabod, a mae map o’u dosbarthiad led led Cymru hefyd yn bodoli. Ond y tebygrwydd ar Fynydd Rhiw yw fod y ffermwyr Neolithig hefyd felly, wedi gallu diwallu’r angen am offer o ddefnydd  yn y gwaith dydd i ddydd  amaethyddol, paratoi bwyd,  goginio a bywyd dydd i ddydd.

Does dim cwestiwn fod yr offer yma,  hyd yn oed os yn sgil effaith i’r ffatri fwyeill, yn ddefndyddiol ac yn bwysig i bobl  Mynydd Rhiw a Phen Llyn  yn y cyfnod Neolithig. Cwestiwn amlwg felly yw beth yw arwyddocad y fasnach fwyeill ?  A oedd blaenoriaeth i’r bwyeill neu oedd yr offer ar gyfer defnydd lleol a’r bwyeill yr un mor bwysig ? Y gwahaniaeth mawr yw fod rhai o’r bwyeill wedi eu hallforio ar gyfer masnach.

Mae yna hefyd dystiolaeth o’r gwaith cloddio diweddar ym Meillionydd fod carreg Mynydd Rhiw yn cael defnydd yn ystod yr Oes Haearn. Darganfuwyd dau  gnewyllyn o garreg Mynydd Rhiw ym Meillionydd a fod rhain wedyn wedi eu hail ddefnyddio yn yr Oes Haearn fel morthwyl cerrig. Engraifft o ail ddefnyddio teclyn ?  Mae ambell i gaenen arall o garreg Mynydd Rhiw hefyd wedi eu darganfod ar safle Meillionydd yn ystod cloddio 2010-2011.

Yn amlwg dydi darganfyddiadau Meillionydd ddim yn awgrymu fod dyn yn parhau i gloddio am y garreg yn y mileniwm cyn Crist na chwaith yn defnyddio offer cerrig fel cyllill ond mae’n gwestiwn diddorol i ail edrych ar ddefnydd o’r garreg dros wahanol gyfnodau. Mae angen dod a’r holl wybodaeth yma at ei gilydd er mwyn i ni ddechrau gweld y darlun llawn !

Rhan arall o’r prosiect oedd ymweliad a Amgueddfa Gwynedd  i gael golwg ar gasgliad Houlder o’r 50au. Treuliwyd diwrnod yn cael golwg bras iawn ar gwrthrychau Houlder. Hyd yn oed o fewn ychydig oriau roedd yn amlwg fod patrymau amlwg ymhlith y gwrthrychau, oll yn dangos ol dyn arnynt, oll yn offer defnyddiol i’r amaethwyr cynnar.

Y bwriad yn hyn o beth yw gallu dychwelyd gyda Chapman i Amgueddfa Gwynedd yn y dyfodol agos  i gael ail-olwg llawn ar gasgliad Houlder gan weld os yw dehongliadau Chapman yn cynnig ffordd newydd o werthfawrogi arwyddocad a defnydd carreg Mynydd Rhiw yn y cyfnod Neolithig.

Y ddadl yma yw fod y pwyslais ar y “Ffatri Fwyeill” efallai yn rhoi cam-argraff o’r darlun llawn neu yn sicr yn cyflwyno rhan yn unig o’r darlun. Heb os, mae’r fasnach fwyeill ac arwyddocad hynny o ran eu gwerth a phwysigrwydd o fewn cymdeithas a fod llwybrau a modd masnachu yn bodoli yn holl holl bwysig ond rhaid peidio anghofio’r posibilrwydd neu’r tebygrwydd   fod  rhan fwyaf o’r offer a greuwyd ar Fynydd Rhiw yn y Neolithig wedi bod ar gyfer defnydd yr amaethwyr lleol a nid ar gyfer masnach.

Y gobaith yw dechrau’r broses o ail edrych ar hanes Mynydd Rhiw yn ei gyfanrwydd.  Rhaid dod a’r holl wyboadaeth at ei gilydd mewn un lle. Mae gwaith Steve Burrow o’r Amgueddfa Genedlaethol ym 2007 2008 yn barod wedi dangos fod safleoedd eraill ar ochr ddwyreiniol y Mynydd  lle roedd dyn Neolithig hefyd yn cloddio am gerrig.







Houlder, C H,   1961 (The Excavation of a Neolithic Stone Implement Factory on Mynydd Rhiw, Caernarvonshire” Proceedings of the Prehistoric Society.

Burrow, S   Archaeology in Wales 2007.

Williams, Wil    Mwyngloddio ym Mhen Llyn

Rhiw.com

No comments:

Post a Comment