Wednesday 23 May 2012

Herald Gymraeg 16 Mai Rhiwddolion


Erbyn i’r golofn hon ymddangos byddaf wedi dychwelyd unwaith eto i bentref Rhiwddolion rhwng Betws y Coed a Dolwyddelan. Pwrpas yr ymweliad dros y penwythnos  fydd (i mi yn sgwennu pnawn Iau) ac oedd (i chi yn darllen ar y Dydd Mercher) mynd a criw Cymuned a Chynefin am dro. Criw o Blaenau Ffestiniog yw Cynefin a Chymuned, criw sydd yn gweithio yn galed i ddatblygu prosiectau twristaidd llawer mwy Cymreig o ran y profad, mae’n syniad gwych a rwyf yn mawr obeithio bydd nifer o’r criw yn datblygu’r syniadau yma ymhellach.

                Ond rwan dyma chi gwestiwn diddorol. Sut yn union mae rhywun i fod i ddisgrifio Rhiwddolion ? Roedd hanes Nant Gwrtheyrn er engraifft yn llawer mwy syml, roedd y gweithwyr ithfaen wedi gadael y pentref – roedd hwn yn bentref gwag o adfeilion – ond nid dyma’r sefyllfa yn union yn Rhiwddolion. Mae Ty Mawr, Rhiwddolion, sydd yn dyddio o’r 1850au, er engraifft, yn parhau i fod yn gartref, chafodd y ty yma rioed ei adael yn wag.

                Mae Bryn Derw wedi ei adfer yn gymharol ddiweddar, a mae’n debyg y bydda rhywun yn galw hwn yn ail gartref neu yn dy gwylia preifat i deulu o bell. Ar y llaw arall mae Ty Coch, Ty Uchaf a’r hen Gapel / Ysgoldy (Ty Capel) wedi eu hadfer gan y Landmark Trust sydd yn eu cynnig fel tai gwyliau tra wahanol efallai – mewn lle gweddol anghysbell. Yn ol safle we y Landmark Trust yr unig swn yma yw swn yr afon a brefu’r defaid. Does dim modd gyrru at Ty Capel er engraifft – rhaid cerdded rhyw chwarter milltir o’r ffordd i’r drws.

                Felly i droi yn ol at y cwestiwn cyntaf, yn sicr o ystyried Ty Mawr, dydi Rhiwddolion ddim yn bentref gafodd ei adael yn wag yn llwyr ond eto gyda Bryn Derw a’r tai dan ofal y Landmark Trust fe all rhywun  ddadlau fod hwn wedi bod yn bentref gwag, yn sicr am gyfnod, ac erbyn heddiw mae gennym bentref “hanner gwag” yn un rhan adfeilion ac ymhlith yr adfeilion yma y tai bach twt, y tai gwyliau. Mae’n sefyllfa anarferol a dweud y lleiaf.

                Nid fod rhywun yn dadlau am eiliad na ddylia na fod fywyd yn yr hen bentref ond mae’n od cerdded heibio hen gartref Gutyn Arfon ac adfeilion y rhes teras a wedyn wynebu Bryn Derw – y ty bach twt.  A dyma chi gwestiwn arall, beth yn union yw ein barn am y tai Landmark Trust, cwmni sydd bron yn sicr wedi gallu talu gwell pris na fyddai pobl leol am y tir a’r adefeilion a wedyn gallu fforddio i’w hatgyweirio.

                Nid cymuned fyw sydd yn Rhiwddolion bellach, na phentref gwylia chwaith ond cyfuniad od o bob math o bethau gyda elfennau o Nant Gwrtheyrn cyn yr ail adeiladu a hyd yn oed elfen o Sain Ffagan heb y miloedd o ymwelwyr. Erbyn heddiw mae modd teithio yno gyda car drwy’r goedwig o gyfeiriad Maes Newyddion a mae’r hen ffordd, sef Sarn Helen a ddefnyddiwyd tan y 60au bellach fawr mwy na llwybr troed.

 Pentref oedd yn gysylltiedig a Chwarel Bwlch Gwyn oedd Rhiwddolion, chwarel a gynhyrchai lechfeini neu slabiau a rheini wedyn yn cael eu cludo i lawr i Betws y Coed. Bellach mae’r unig adfeilion o dan y goedwig, yn anodd i’w gweld ac yn anoddach byth i’w cyrraedd. Mae adfeilion ffermdy Bwlch Gwyn a ddefnyddiwyd gan y chwarel yno yn ol y son ond wrth drafod yn ddiweddar gyda perchnogion Ty Mawr mae’n safle peryglus iawn i’w ymweld ag e a’r goedwigaeth yn drwchus.

Llyfr yr wyf wedi cael blas mawr arno yn ddiweddar, fel llaw-lyfr neu lyfr-tywys yw “A Gazeteer of the Welsh Slate Industry”  (Gwasg Carreg Gwalch 1991) gan Alun John Richards,. Dyma chi lyfr sydd yn rhoi ychydig o hanes, cofnod o’r adfeilion sydd i’w gweld heddiw a chyfeirnod map (sydd yn hanfodol wrthgwrs) i bob chwarel lechi mwy neu lai yng Nghymru.  Wrth gerdded i fyny am Rhiwddolion yn ddiweddar gyda llyfr Alun yn fy sach cerdded sylweddolais pam mor werthfawr oedd y llyfr wrth iddo gyfeirio at y llwybr llechi sydd yn arwain o’r rhes teras draw tuag at yr hen gapel.

Onibai am lyfr Richards, digon o waith byddwn wedi chwilota am yr hen lwybr yma. Bellach mae’r rhan fwyaf o’r llwybr wedi ei guddio gan y glaswellt, ac yn amlwg felly, does dim defnydd dydd i ddydd o’r hen lwybr. Go brin fod y trigolion ar eu gwyliau hyd yn oed yn dod ar draws yr hen lwybr, go brin fyddai cerddwyr Sarn Helen yn sylweddoli arno chwaith ac eto dyma un o’r trysorau sydd yma i’w ddarganfod – y slabiau llechan sydd yn creu’r llwybr ar draws y cae. Yn ol yn y dydd mae’n rhaid fod hyn wedi cadw traed plant y pentref yn sych wrth iddynt ymlwybro draw am eu gwers ysgol gyda Gutyn Arfon.


Yn aml y pethau llai amlwg, y pethau cuddedig, yw’r pethau mwyaf diddorol – y pethau sydd yn dangos oel traed dyn ac oel trigolion yr oes a fu. Unwaith eto dyma le werth ei ymweld ag e, gallwch gerdded i fyny o gyfeiriad Betws neu Dolwyddelan, gallwch fynd o un lle i’r llall neu troi yn ol a dychwelyd yr un ffordd. Mae’n ddipyn o waith cerdded i fyny allt o Betws ond o gyrraedd Rhiwddolion credaf byddai pawb yn cytuno fod hyn werth yr ymdrech.


No comments:

Post a Comment