Wednesday 23 May 2012

Herald Gymraeg 23 Mai 2012 Amgueddfa Forwrol Nefyn


Pythefnos yn ol roedd Canolfan Nefyn yn orlawn, roeddwn yn amcangyfrif fod oleiaf 200 yn bresennol yn y gynulleidfa, roedd rhai hyd yn oed yn son fod mwy yma ar y noson hon nac oedd wedi troi fyny i agoriad y Ganolfan yn ddiweddar a hynny ym mhresenoldeb Rhys Ifans a’i gariad Anna Friel, er nad oedd Anna yno mewn rol  swyddogol wrth reswm. “Dan ei sang” yw’r disgrifiad sydd yn dod i’r meddwl.

                A’r achlysur ? Noson i lansio neu sefydlu Cyfeillion Amgueddfa Forwrol a Chanolfan Treftadaeth Llyn. Roedd y trefnwyr yn gobeithio am rhwng 60 a 100 o bobl ond wrth i’r noson fynd yn ei flaen roedd mwy a mwy yn cyrraedd ac angen wedyn am fwy a mwy o gadeiriau. Nid dyma’r tro cyntaf i mi weld rhywbeth fel hyn yn Mhen Llyn, mae yma gymuned sydd yn fyw ac sydd yn fodlon mentro allan ! Dydi pobl Llyn ddim yn gaeth i’r hyn gyferiais ato ar y noson fel “melltith Simon Cowell a’r sioeau teledu holl ddylanwadol”. Da iawn nhw, dyma’r ymneilltuwyr newydd – y rhai sydd am droi y sioeau talent (talent cwn bellach)  i ffwrdd a mynd allan i gyfarfod pobl ac i ddangos diddordeb yn eu bro, eu hanes a’u treftadaeth.

                A nid am y tro cyntaf rwyf yn cydnabod y fraint o gael bod yn eu plith. Roeddwn wedi cael gwahoddiad gan yr Amgueddfa i fod yn ‘Lywydd y Noson’ a fe gyfeirwyd at y niferoedd cyn i mi agor fy ngheg ond roeddwn wedi paratoi joc o flaen llaw - ei bod yn fraint i mi gael bod yr “ail Rhys” ar eu rhestr o bobl gwadd a’r ail joc wael iawn gennyf oedd fy mod wedi methu cael gafael ar Anna Friel i ddod hefo mi……..

                A nid am y tro olaf, dyma fynegi sylw bach ar faint o ddiddordeb sydd yna allan yn ein cymunedau, ein neuaddau pentref, y festri capel ac ein Cymdeithasau Hanes a LLen. Efallai fod S4C wedi rhoi rhyw hanner tro bedol yn cael Gerallt Pennat yn ei ol ond hanner tro yw hi, dydi Wedi 7, fel rhaglen dda, ddim wedi ei hachub, dim ond rhoi plastar ar Heno mae nhw wedi gyfaddawdu a dio’m ots faint mae Iolo a Sian Cothi yn crwydro’r wlad mae rhywun yn teimlo fod yna gyfoeth o hanes allan yna sydd ddim yn cyrraedd y sgrin na radio.

                Mae hyn oll yn fy atgoffa o’r dyddiau cynnar yn y Byd Pop, neuaddau yn llenwi hefo cynulleidfa ond dim rhaglenni (call) ar y Cyfryngau. Dydi’r uchel swyddogion yng Nghaerdydd ddim ar lawr gwlad, faint bynnag mae nhw’n honni eu bod yn gwrando, a’r hyn sydd yn fwy fwy amlwg yw’r awydd am nosweithiau byw, cofiwch,efallai fod modd gwylio rhaglenni ar CLIC neu BBC iPlayer felly mae’n haws mynd allan ? Ond y pwynt o ddifri yw’r angen am fwy o sylwedd ar y Cyfryngau gan gydnabod fod technoleg hefyd yn caniatau pob i ail-wylio neu i wylio pan yn gyfleus – fe ddylia hyn fod yn dda i bawb !

                Ychawnegaf y gair “tabloid” felly at y gair “seleb” fel y geiriau hynny sydd yn wrthyn i unrhywun sydd ac unrhyw enaid ar ol, unrhywun sydd dal am wrthryfela yn erbyn y cysyniad afiach fod rhaid i bobeth fod yn “dumb down” beth bynnag fathiad afiach fydda hunna yn y Gymraeg.

                A dyma chi engraifft i brofi pwynt, mae ffilm am Gapteiniaid y Mor yn cael ei dangos, ffilm gan y BBC wedi ei chyflwyno gan y diweddar Aled Eames, yr hanesydd a’r darlithydd ac awdur llyfrau fel ‘Porthmadog Ships’, ‘Gwraig y Capten’ a ‘Llongau a llongwyr Gwynedd’. Fedrai ddim credu na fyddai y math yma o ffilm o ddiddordeb i holl wylwyr S4C, mae yma hanes, cynnwrf a chyffro, cymeriadau ffraeth, doniol – pobl fu’n byw ar y mor. Mae un cwestwin diddorol yn cael ei ofyn gan un o’r hen gapteniaid – “faint o bobl ifanc fydd yn mynd i’r mor yn y dyfodol ?”. Roedd dros 200 wedi mwynhau’r rhaglen ffeithiol yma yn fawr iawn, a safon y BBC arni roedd hynny yn amlwg.

                Yr ateb syml  i hynny yw dim llawer ma’n siwr. O ymweld a Nefyn heddiw, prin fydda rhywun yn ymwybodol o’r ffaith fod cychod ar un adeg wedi cael eu hadeiladu yma. Bellach traeth ar gyfer ymwelwyr sydd yma, mae’r hen olion wedi diflannu i raddau helaeth a dyma chi felly y ddadl dros arwyddocad a phwysigrwydd ail gynna’r tan ar yr hen aelwyd drwy atgyweirio’r hen Eglws Santes Fair ym Mhen isa’r dre. Mae yna  Amgueddfa wedi bodoli yma ers y 70au ond mae gwaith yn mynd yn ei flaen bellach i ail-agor yr Amgueddfa ar ei newydd wedd.

                Roedd sawl pwynt arall yn cael ei godi ar y noson, effaith ymwelwyr ar Ben LLyn, yn sicr cwestiynau ynglyn a’r effaith ar yr Iaith ond hefyd mae’n rhaid dadlau fod ail agor yr Amgueddfa yn mynd i fod yn hwb i’r economi lleol, yn ffordd o ddenu ymwelwyr o fath arall i Lyn yn hytrach na’r rhai sydd am ymdrochi yn unig. Rwy’n sicr fod hanes a threftadaeth “gwyrdd a Chymreig” , fel sydd yn cael ei awgrymu gan griw Cynefin a Chymuned ym Mlaenau Ffestiniog, ym mynd i arwain at greu swyddi a chadw pobl ifanc Cymraeg yn yr ardaloedd yma.

                Mae’r niferoedd yn Nefyn yn dangos fod mwy i fywyd na gwylio’r  sioeau talent – efallai fod yn bryd i S4C ac eraill ymateb i’r her a chael gwared a’r ffwlbri “Dumb down”, mae yna gyfoedd o hanes a storiau hyd a lled Cymru a…………. – credwch neu beidio mae yna bobl ddeallus allan yna !


No comments:

Post a Comment