Thursday 7 June 2012

Herald Gymraeg 30 Mai 2012


Rwyf wedi cyfeirio at y cysyniad o “Seico-ddaearyddiaeth” sawl gwaith yn y golofn hon, sef y syniad hynny o ddilyn eich trwyn, fel arfer yn y dirwedd drefol, ond rwyf hefyd wedi son sawl gwaith fod yr ymarfer hyn hefyd yn hollol addas ar gyfer y Gymru wledig. A felly y bu hi ychydig ddyddiau yn ol, roeddwn yng Nghaerdydd ar gyfer Cyfarfod Blynyddol y Sefydliad Cerddoriaeth Gymrieg, daeth y cyafrfod i ben tua 5pm a roedd yr hogia wedi rhoi archeb penodol yn “Toys Are Us” felly cyn dechrau am adre roedd rhaid teithio i gyfeiriad Penarth o Fae Caerdydd i’r archfarchnad degannau.

                Llwyddiant, fe gefais yr union Skylanders roedd y ddau wedi archebu. Wrth eistedd yn y maes parcio dyma dechrau meddwl am fy ffordd adre. Roeddwn am osgoi cymaint ac y gallwn o’r A470. Roeddwn am ddodd allan o’r car ar yr awr pob awr i weld rhywbeth hynafol. Ffwrdd a ni. Yr hyn sydd yn bwysig am “seico-ddaearyddiaeth” yw nad oes cynllunio o flaen llaw.

                Drwy gyd-ddigwyddiad roeddwn wedi bod yn sefyllian o gwmpas y Llyfrgell Newydd yn yr Hayes yng nghanol Caerdydd ychydig ddyddiau ynghynt gyda criw o dywysion. O flaen y llyfrgell roedd cerflun anferthol, celf modern yn sicr, a oedd yn ogystal a bod yn waith celf, hefyd yn dangos lefel y mor yn y Bae drwy rhyw wyrth dechnolegol o fewn y gwaith celf ei hyn. Ond yr hyn oedd hyd yn oed fwy diddorol i mi oedd fod geiriau / barddoniaeth yr awdur Peter Finch wedi eu gosod ar y palmant o amgylch y gwaith celf yma. Roedd y geiriau allan o drefn – fel rhyw groesair afreal – dyma’r situationist / seico-ddaearyddwr wrth ei waith.

                Felly roedd Finch wedi fy ysbrydoli, a roedd Castell Coch yn galw, felly ffwrdd a mi heibio Sain Ffagan, at yr M4 a wedyn troi i’r Dwyrain am Tongwynlais a dilyn y ffordd gul i fyny am Castell Coch. Roedd y Castell wedi hen gau felly dyma barhau i fyny lon fach gul goedwigog hyfryd, mor agos i’r A470 ond eto  mor heddychlon a distaw. Rwyf yn teithio dros Bwlch y Cwm a’r bryniau gyda’r enw gwych “Brynau” yn uchel uwchben Ffynnon Taf.

                Erbyn hyn rwy’n gwybod yn iawn mae Caerffili fydd y pwynt cyntaf allan o’r car. Rwyf wrth fy modd hefo Caerffili. Dyma un o’r trefi lle bu i’r Sex Pistols berfformio yn ystod eu taith “Anarchy” yn ol ym 1976. Dyma’r dref lle roedd Cristnogion tu allan i’r cyngerdd yn canu carolau mewn gwrthwynebiad i ymweliad y pync- rocars anwaraidd. Dyma lle dywedodd Steve Jones y gitarydd “rydym tu mewn yn gynnes, mae nhw tu allan yn oer”.

Ond roedd mwy yn canu carolau tu allan nac oedd yno yn gwrando ar y Pistols tu mewn. Un o fy uchelgeisiau yw cael yr actor a’r cerddor Gareth Potter i fy nhwys o amgylch Caerffili ac i ddangos y man cysygredig yma lle cannodd y Pistols yn ol yn Rhagfyr ’76. Dwi ddim yn holi’r trigolion am ymweliad y Pistols – fe gaiff hynny aros nes dwi’n cael cerdded y strydoedd hefo Potter.

                Fel dywedais, dim ond yng Nghaerffili ……………, dyma adael y car gyferbyn a’r castell a throedio heibio’r cannoedd o gwac-cwacs a chwyaid gwyllt sydd ar y lawnt, baw ym mhobmab, felly er mor hyfryd yw’r golygfeydd o’r castell mae hefyd angen troedio yn ofalus. Fy lleoliad cyntaf ar y daith seico-ddaearyddol yw cerflun Tommy Cooper a aned yma ar y 19fed o Fawrth 1921. Di rhywun ddim yn meddwl am Cooper fel Cymro nacdi ? Dadorchuddwyd y gofeb gan Gymro llawer mwy amlwg, yr actor Anthony Hopkins, sydd gyda llaw yn un o noddwyr Cymdeithas Tommy Cooper. Ceflunwyd y gofeb gan James R Done.

                Ond does dim modd osgoi’r castell yng Ngherffili. Roeddwn yng Nghastell Caernarfon yn ddiweddar gyda cwpl o Texas oedd yn rhyfeddu at faint y castell ond mae Caerffili gyda’i dwr gwyredig, sydd yn gorwedd ar ongl o 10 gradd, (fersiwn Caerffili o Pisa) hyd yn oed yn fwy na Chaernarfon, dyma’r ail gastell mwya o ran maint ym Mhrydain – hynny ar ol castell Windsor.

                Rwyf yn cael swper yn Nhafarn y Cwrt, tafarn hynafol, yr hynaf yn y dre a mae gardd yno yn edrych dros y castell, gwych, a mae gennyf awr oleiaf cyn i’r haul fachlud. “Where are you from Butt ? you have a strong accent”, ond mae’r trigolion yn hynod gyfeillgar a chroesawgar, diddordeb yw hyn nid cwestiwn ymosodol. Mae’n dafarn hen, y tai bach mewn cyflwr all fod yn well, dim ffwdan yma, ond rwy’n falch i fwynhau’r olygfa hon a chael bechdawn gaws wedi toddi, bowlan o sglods i ychwanegu blas a hanner o Pepsi (diet) gan nad ydynt yn gwneud pot o de. Un rheol – dwi ddim yn cymeryd myg o de mewn unrhyw gaffi  rhag ofn iddynt rhoi rhy chydig o lefrith, gormod o siwgr …… mae panad yn rhy bwysig !

                Unwaith eto, er mae castell Normanaidd yw hwn, castell Gilbert de Clare neu Gilbert Goch oherwydd ei wallt fflam goch, mae’n gastell sydd ynghlwm a Hanes Cymru. Roedd teyrnasiad Harri’r Trydydd yn amhoblogaidd, roedd Simon de Montford wedi arwain gwrthryfel y barwniaid a Gilbert er yn ddyn ifanc wedi ochri gyda de Montford yn wreiddiol cyn ochri gyda Edward 1af yn ddiweddarach. Roedd Llywelyn ap Gruffydd wrthgwrs wedi ei gydnabod fel Tywysog Cymru ers 1267 ac am ymestyn ei ddylanwad i’r De.

                Dyma un o’r rhesymau i Gilbert de Clare adeiladu’r castell ym mis Ebrill 1268. Roedd Llywelyn yn sicr yn ceisio ehangu ei ddylanwad yn y De Ddwyrain, roedd wedi ochri gyda de Montford, wedi cipio Aberhonddu yn y 1260au a threiddio ar hyd Dyffryn Wysg. Yr hyn sydd yn hynod am Caerffili yw mae nid castell y Brenin oedd hwn ond castell yn perthyn i un o deuluoedd mwyaf dylanwadol y Normaniaid , y de Clares a fod bygythiad Llywelyn ap Gruffydd mor bwysig yn y penderfyniad i godi’r castell ar frys.

No comments:

Post a Comment