Thursday 7 June 2012

Herald Gymraeg 6 Mehefin 2012


Erbyn i’r golofn hon gael ei chyhoeddi bydd ffars y Jiwbili drosodd a bydd nifer ohonnom wrthgwrs wedi llwyddo i osgoi’r ffars oherwydd ei bod yn wythnos yr Urdd. Feddyliais i rioed bydda’r Urdd mor ddefnyddiol i werinaethwyr a Chenedlaetholwyr, am reswm hollol wahanol i’r arfer, ond ar y llaw arall, ohewrwydd prysurdeb a bwrlwm yr Urdd fydd na fawr o neb wedi bod yn dangos unrhyw wrthwybebiad i’r Jiwbili chwaith ….. ond efallai mae peth da yw hyn…. onid gwell di-faterwch tuag at y Teulu Brenhinol …… does dim angen iddynt hawlio gormod o’n sylw nagoes ?

                Nid felly ym 1977 wrthgwrs wrth i’r Sex Pistols boeri arall y geiriau anfarwol “God Save The Queen, the fascist regime, it made you a moron”. Rhywsut, roedd ymateb 1977 yn taro’n well hefo mi. Weithiau mae angen dangos gwrthwynebiad ond dydi hi ddim yn oes mor wleidyddol nacdi – a dydi’r Byd Pop yn sicr ddim yn faes mynegiant o wrthryfel yn erbyn y Sefydliad bellach gwaetha’r modd. Felly dw’i, fel pawb arall yn hapus i fynychu Glynllifon, heb wrthwynebu’r Jiwbili, ond a bod yn hollol onest, heb dreulio fawr o amser yn meddwl  am yr hen Elizabeth chwaith.

                Ac os yw’r darllenwyr yn cael gafael ar eu Herald Gymraeg mewn pryd cewch ymuno a mi ar Daith Gerdded o amgylch Glynllifon ar y pnawn Mercher a hefyd pnawn Gwener yr Urdd. Byddaf yn dechrau am 2 o’r gloch o Stondin Cyngor Gwynedd ger y Brif Fynedfa – manylion o’r stondin.

                Rwyf wedi treulio sawl prynhawn yn ddiweddar yn crwydro llwybrau’r Parc er mwyn paratoi am y teithiau cerdded, ac er fy mod yn gyfarwydd iawn a’r safle mae’n syndod faint mae rhywun yn ei ddysgu o’r newydd o ddechrau astudio safle yn fwy manwl. Go brin byddwn wedi gallu datgan fod y Parc yn barc Rhestredig Gradd 1 ac yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig gan CADW a CCW. Er fod digonedd o lwybrau yma, go brin byddwn wedi gwybod fod yma 8 milltir o lwybrau gwledig i ni eu troedio mewn Parc o 700 acer.

                Fel sydd yn wir gyda’r holl hen blasdai a Stadau mae yma hanes hir, o uchelwyr, o ddylanwad, o bwer, o briodas rhwng y teuluoedd mawr (boneddigion) o ychwanegu at y Stad, o greu cyfoeth ac yn sicr yn yr achos yma, gyda Arglwydd Niwbwrch,  o fod yn berchen a’r Chwareli yn Nyffryn Nantlle. Fel gyda’r Faenol a Phenrhyn, mae yna o hyd anesmwythtod i rhywun o dras Chwarelwyr ynglyn a’r llefyd yma, hyd yn oed o ddweud  enw’r Stadau.


Cofiaf,  fy nhad yn adrodd hanes Chwarelwyr Cilgwyn yn dymchwel y wal gerrig roedd Stad Glynllifon yn geisio ei chodi ar dir comin Mynydd Cilgwyn – i “ddwyn” y tir. Y wal yn cael ei chodi yn ddyddiol gan weithwyr y Stad a’r chwarelwyr wedyn yn ei dymchwel gyda’r nos are u ffordd adra o’r chwaral. Mae’r stori yma yn llyfr fy ewythr, y diweddar Dewi Tomos, “Chwareli Dyffryn Nantlle”.

                Dyma chi stori sydd yn ysbrydoli rhywun, nid ar yr un raddfa a Streic Fawr Chwarel Penrhyn ond yn sicr yn weithred gan y Dosbarth Gweithiol yn erbyn y Meistri – yn sicr doedd Chwarelwrs Cilgwyn ddim yn ddi-ymadfeth yn wleidyddol ac o rhan eu hawlia.

                Wrth i mi droedio’r llwybrau pella yng Nglynllifon, a go brin bydd modd cyrraedd y rhan yma o’r Stad yn ystod ein taith gerdded, dyma dreulio peth amser ger safle  Gwerin y Graith. Yma ceir hen furddyn, lle tan a chydig walia, adfail, adfail bwriadol, wedi ei greu, gwaith celf. Ar ochr y murddyn yma mae murlun o Streic Fawr Penrhyn 1900-1903. Ar wal arall murlun “Bradwr”, ochr arall i’r wal ac ochr arall i’r stori. Does dim posib sefyll yma heb gael eich heffeithio. Dyma un o’r storiau mawr.

                Ger llaw mae wal crawia llechi, rhywbeth cyfarwydd iawn yn y rhan yma o’r Byd, a cherflun ar un o’r crawia. Darllenais yn ofalus

“Ymhen blynyddoedd

Wedi llwyr glirio’r cwymp

Daethpwyd o hyd

I glocsen Robert”

                Hyfryd, ond rwyf angen eglurhaud gan rhywun, beth yw’r hanes yma?  Gyferbyn a’r wal crawia, mae’r llyn bach a’r fraich yn codi o’r dwr. Dyma chi le hyfryd i ddod a plant ysgol i gael gwers hanes. Dyma le hyfryd i synfyfyrio ar ddiwrnod poeth o Haf, yng nghysgod y coed a gyda Eryri y nein cyfarch ar y gorwel.   Ar y ffordd yn ol am y Plas rwyf yn mynd heibio Capel y Cwn, yr hyn a elwir yn loches neu “hermitage” yn y Saesneg, y pethau ffol roedd y boneddigions yn godi yn eu cerddi !

                Ac yn nes at y Plas, dyma engraifft arall o gelf modern, tu cefn i wydr plastig mewn ffenestr yn y wal mae cerfluniau bach doniol o gymeriadau Rala Rwdins a hefyd cerflun o’r ddynes a ddisgrifiwyd fel “mam Rala Rwdins” yr awdures a’n cyd golofnydd Anghrad Tomos wrthgwrs, mae hyd yn oed Tafod y Ddraig  wedi ei gynnwys ar ei siwper fel bydda rhywun yn ei ddisgwyl. Rwyf wrth fy modd hefo hyn, Streic Fawr Penrhyn ac awdures Gymraeg gyfredol – o fewn y Stad yma, eironig, eiconig – gwneud rhywun feddwl !

                A mae hyn i gyd heb ddechrau son am Cilmyn Troed Ddu, Esyllt, teuluoedd Pen Llyn, Thomas Wynn yr Arglwydd Cyntraf a’i ail wraig, trist, diddorol, gwallgo Maria Stella – merch i Frenin Ffrainc neu ddim ? yr hon fu farw yn dlawd ym Mharis. Trasiedi, drama, eto dyma chi stori dda, neu drama ar gyfer S4C. Felly gobeithio y gwelaf chi pnawn Mercher neu Wener yr Urdd.





No comments:

Post a Comment