Friday 20 July 2012

Herald Gymraeg 18 Gorffennaf 2012 Llyn Cerrig Bach


Penwythnos Gorffennaf 13/14 roedd sawl peth “hanesyddol” yn digwydd yng Nghymru a dwi ddim yn mynd i fod yn trafod yr hollol amlwg. Do fe welwyd grwpiau Pop Cymraeg ar oriau brig S4C, fe allawn sgwennu traethawd hir ar gyfer doethuriaeth ar hynny, ac ar y Nos Sadwrn roeddwn wedi trefnu ymddangosiad cyntaf erioed Opera newydd gan yr actor Keith Allen, hynny yng Ngwyl Ymylol Llangollen (y nhw oedd y trefnwyr a fi oedd yr asiant - mae gennyf dal fymryn o het Canu Pop ar ol ar fy mhen), roedd hynny hefyd yn hanesyddol yn ei ffordd, ond heb os, y digwyddiad pwysicaf i mi ar y penwythnos yma oedd gweld celfi Llyn Cerrig Bach yn dychwelyd i Ynys Mon, i arddangosfa hynod gyffrous yn Oriel Ynys Mon.

                Fel y gwyddoch fe ddarganfuwyd gwrthrychau LLyn Cerrig Bach yn ystod 1942-43 wrth i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ymestyn y lanfa yn RAF Valley ar gyfer yr awyrenau mawr o Awyrlu yr Unol Daliethau. Mae yna stori wych yma wrthgwrs, am William Roberts yn defnyddio’r hen “gang chain” i dynnu loriau allan o mwd y llyn hefo’i dractor a wedyn yr archaeolegydd Cyril Fox yn dod fyny o Gaerdydd i weld y gwrthrychau.

                Bellach, a fe lansiwyd y llyfr ar y Nos Wener, mae’r holl stori wedi ei gofnodi mewn llyfr hynod liwgar, hawdd i’w ddarllen ac eto hynod, hynod gyffrous yn dwyn y teitl “Llyn Cerrig Bach Trysor o’r Oes Haearn” ac wedi ei gyhoeddi drwy Llyfrau Magma / Oriel Ynys Mon gan Gyngor Mon. Dyma chi y “trysor” go iawn, sef y wybodaeth, y modd i ddehongli y cyfnod yma yn ein Hanes. Wrth reswm mae’r gwrthrychau yn rhai hynod bwysig, gwerthfawr mewn sawl ystyr, yn waith celf La Tene, does dim dadl am hynny ond y peryg wrth roi y pwyslais ar y gair trysor yw fod y sylw yn mynd ar y gwerth ariannol yn hytrach na’r stori.

                Mi fyddaf yn dweud yn aml tra wrth fy ngwaith archaeolegol a rhywun yn gofyn “Yda chi wedi dod o hyd i rhywbeth diddorol ?” Fy ymateb bob tro yw mae’r wybodaeth yw’r peth mwyaf diddorol, ehangu ein dealltwriaeth dyna’r peth mwyaf pwysig am y broses archaeolegol. Fedrith y gwrthrych ond ein helpu i ddweud y stori. Ar ben ei hyn dydi’r gwrthrych ddim mor bwysig rhywsut. Dyna pam fod gwrthrych allan o gyd-destun yn llai gwerthfawr.

                Ond cyn i mi gael fy nghamdeall yma, mae’n rhaid, a hynny hefo RHAID mawr eich argymell chi oll i fynychu Oriel Ynys Mon rhwng nawr a Mis Tachwedd i weld yr arddangosfa wych yma. Nid gor-ddweud yw fod y dangosiad yma yn rhagori ar yr hyn oedd gan yr Amgueddfa Genedlaethol – mae Magma ac Oriel Ynys Mon wedi creu rhyw naws tanddwr yma, mae’n las iawn yn sicr, ond hefyd mae’r gwrthrychau wedi eu goleuo yn gelfyd, mae popeth yn cael ei le, ei ddehongli ac yn hawdd i’w astudio.

                Mater arall, a drafodwyd ar y Nos Wener yw fod y gwrthrychau yn cael dychwelyd i Fon. Yn ol rhai yma yw eu gwir gartref ond wrth i Dr John Davies annerch y dorf roedd rhwyun yn sicr hefyd fod angen arnom, fel Cenedl, sefydliad fel yr Amgueddfa Genedlaethol. Yn eu cartref newydd yn Sain Ffagan (gobeithio) bydd cartref parhaol gwrthrychau Llyn Cerrig Bach ond mae’n hollol iawn hefyd yn y Gymru ddatganoledig fod y gwrthrychau oleiaf yn cael ambell i wyliau yn Sir Fon.

Diddorol iawn oedd anerchiad Dr John Davies, bu bron iddo ddilyn traddodiad Laurence Clarckson a’r Ranters ers llawer ddydd, a dechrau dweud hi go iawn am bob math o bethau. Yn Saesneg efallai byddai rhywun yn cyfeirio ato fel “cyflegr-rhydd”, gwych medda fi, mae angen mwy ohonnynt ac ar ol profi Keith Allen yn dweud hi am bopeth o’r Gemau Olympaidd i Max Bygraves yn Llangollen, o edrych yn ol roedd Dr Davies yn sicr yn swnio yn weddol resymol. Ond braf iawn oedd clywed rhywun yn siarad gyda angerdd oedd yn fodlon gwyro o’r sgript. Mae angen dweud hi fel y mae hi – dyna’r her mwyaf yng Nghymru. Mae’n amhosib bron mynegi barn bellach am Ddiwylliant Cymraeg mor unffurfiol yw natur hwnnw ac ysaf yn ddydiol am yr hen anghydffurfiaeth Cymreig yna o allu herio a chwestiynnu. Dydi saff ddim yn iach.

Roedd hon yn noson wedi ei threfnu yn wych. Roedd Dave Chapman a’i wraig Sue o Ancient Arts yno, wedi ail greu rhai o’r gwrthrychau a Chapman yn syth yn dechrau herio’r dehongliadau traddodiadol, nid fel rhywun gwrth-sefydliadol, neu ecsentrig fel Davies, ond fel Archaeolegydd Arbrofol. Treuliais awr hyfryd yn eu cwmni yn trafod pwrpas rhai o’r gwrthrychau. Heb os Chapman yw un o arloeswyr pwysicaf y Byd Archaeoleg yng Nghymru. Dyn fel dywedodd rhwyun unwaith am Bob Marley, sydd a’i lygaid yn fwy agored na’r mwyafrif.

Ond roedd uchafbwynt teilwng i’r noson. Fe wobrwywd a chydnabyddwyd Eflyn Owen Jones, Eflyn wrthgwrs yn ferch i William Roberts, a wedi ei gwreiddio yn ddyfnach na neb yn hanes Llyn Cerrig Bach. Gwaith di-flino Eflyn yn ymweld ac ysgolion, yn dweud yr hanes, yn darlithio i Gymdeithasau, yn cenhadu ac yn wir yn galw am i’r gwrthrychau cael eu dangos yn ol ym Mon, heb os gwaith di-flino Eflyn a sicrhaodd fod yr arddangosfa yma yn digwydd a priodol iawn oedd ei chydnabod yn gyhoeddus.

Wrth i mi eistedd yn Oriel Kyffin, yng nghanol y lluniau amhrisiadwy, rhan o’r “meddylfryd” os nad yr “enaid” Cymreig (neu ddim os ydych yn artist heriol ifanc) fedrwn i ond teimlo fod gennym drysorau yn sicr ond y wybodaeth a’r dealltwriaeth hanesyddol yw’r trysor mwyaf sydd gennym fel Cenedl, pobl fel Eflyn yw’r trysor arall sydd eto yn hollol amhrisiadwy a sydd mor angenrheidiol os ond i godi llais a mynnu sylw a rhywsut, er mor werthfawr yw’r gwrthrychau, rhan o’r jigsaw ydynt yn y diwedd, yn ddibwys heb stori a phobl.

No comments:

Post a Comment