Friday 20 July 2012

Herald Gymraeg 27 Mehefin 2012


Dwi’n gwybod fod Cymru ar adegau ,yn gallu bod yn le bach, pawb yn nabod pawb, dim modd cadw unrhywbeth yn gyfrinach, dim llonydd pan mae rhywun eisiau llonydd, pawb arall yn gwybod mwy amdanoch na da chi’n wybod am eich hyn. Dwi’n tynnu coes ac yn gor-ddweud ychydig ond, yn ddiweddar cefais sawl un yn fy holi am sut roedd y symud ty wedi mynd ?

                Am beth roedd rhain yn son dudwch ? dwi ddim wedi symud ty a does gennyf ddim bwriad symud ty. Yn ol un papur newydd roeddwn bellach yn byw yn Waunfawr. Rwan does dim o’i le a byw yn Waunfawr, yn wir dyma le dymunol iawn i fyw ynddo, pentref y Beganifs a’r Big Leaves, pentref wrth droed Moel Eilio, ardal lechi a mwyngoddio haearn yn nyffryn Gwyrfai. Mi fyddwn ddigon hapus mae’n siwr yn Waunfawr.

                Ond dwi dal yn Twthill, Caernarfon, mae’r plant yn yr ysgol leol – dwi ddim yn bwriadau symud yn fuan. Rhyfedd felly oedd gorfod dweud wrth bawb “peidiwch a choelio popeth da chi’n ddarllen yn y papurau”. Mae’n hen ddywediad gennyf am wneud cyfweliadau hefo’r Wasg “os dwi’n dweud un, dau, tri mae nhw’n printio pedwar, pump, chwech”, rhai yn waeth na’u gilydd wrth gwrs.

                 Ar y llaw arall mae ochr dda i hyn hefyd, fod y Byd Cymraeg mor fach, ar adegau mae’n teimlo fel un teulu bach hapus, hynny yw os nad ydym yn ffraeo. Cael gwahaniaeth barn efallai sydd anodda, achos da chi siwr Dduw o weld rhwyun os ydych wedi eu beirniadu mewn print, neu ddadlau am rhyw achos ar y Cyfryngau ond dyna fo ………

Mor bwysig wrthgwrs yw gallu mynegi safbwynt yn y Gymru sydd ohonni, rhaid wrth ddeialog iach ac agored boed hynny am wleidyddiaeth neu yr Iaith, rhaid cael annibynniaeth barn, credaf yn gryf iawn fod rhaid i’r Gymraeg yn sicr fod yn faes lle rydym yn rhydd i fynegi ein barn – dydi rhyddid ddim yn ryddid os di’ch cefn yn erbyn y wal fel dywedodd y grwp Crass ers lawer dydd ac un o’r peryglon mawr wrth drafod dyfodol y Gymraeg yw fod rhai yn mynnu hawlfraint ar y drafodaeth – does dim hawlfraint ar Gymreigtod !

Rwan ta, i droi yn ol at bwynt yr erthygl, yn ddiweddar, rwyf yn wythnosol ddod ar draws rhai cymeriadau, llwybrau yn croesi, dilyn trywydd tebyg, rydym yn amlwg yn rhannu diddordebau, yn debyg mewn rhai ffyrdd, yn wahanol iawn mewn ffyrdd eraill ond mae yna bethau yn dod a rhai ohonnom at eu gilydd.

Efallai mae ni yw’r ffoaduriaid o’r Byd Pop, fe ddiflannodd yr incwm o’r Byd Pop Cymraeg, dydi’r maes yna ddim yn cynnig bywoliaeth bellach felly dyma ni, y ffoaduriaid, yn arall gyfeirio. Fe all rhywun ddadlau fod y ffoaduriaid Pop wrthgwrs yn bobl amryddawn, aml-ddisgyblaeth, alluog yn gallu troi eu llaw at bob math o waith. Ond does dim dewis chwaith …….. neu mae’n bryd am newid ?

Cynllun Deinamo, cynllun i hyrwyddo’r syniad o ddechrau busnes eich hyn, sydd wedi dod a nifer ohonnom at ein gilydd. Rydym yn ymwled ac ysgolion a cholegau yn son am ein profiad yn y Byd Busnes yn y gobaith ein bod wedyn yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o Cymry ifanc i fentro. Ac yma ar gylch-daith Deinamo byddaf mor aml yn cyfarfod a’r hyrwyddwr, rheolwr, digrifwr, actor, trefnydd a’r hynod ymryddawn Mici Plwn. Byddaf hefyd yn aml yn cwrdd a’r rapiwr, y trefnydd, y colofnydd a’r dyn cysylltiadau cyhoeddus, Deian ap Rhisiart (MC Saizmundo yw ei enw rapio,  enw barddol ar gyfer yr G21ain).

Mae Deian a finnau hefyd yn y maes tywys, yn arwain teithiau cerdded a theithiau ymwelwyr ond yn yr wythnos yma, Mici Plwm yw’r gwr dan sylw achos rwyf yn gweld Mici bob pnawn Llun yn y Ganolfan yn Nefyn gan fod Mici yn cydlynnu cynllun Heneiddio’n Dda Nefyn a finnau wedyn yn mynd a’r criw am dro bob pnawn Llun. Fel dywedais rydym yn gymeriadau amryddawn aml-alluog - un diwrnod mewn ysgol, y diwrnod nesa yn crwydro strydoedd Nefyn yn edrych ar hen adeiladau.

Rwyf  yn edrych ymlaen at wahanol ddosbarthiadau sydd gennyf bob wythnos. Bu’r croeso a’r gefnogaeth gefais gan Ddosbarth WEA Bryncroes yn rhywbeth a wnaeth i mi deimlo yn freintiedig iawn cael bob yng nghwmni pobl Pen Llyn ac yn ddiweddar rwyf wedi derbyn cefnogaeth tebyg gan ddosbarthiadau nos yn Llanfaelog, Brynsiencyn, Llanfair Pwll, Blaenau Ffestiniog a’r  Las Ynys Fawr, croeso cynnes, cyfeillgarwch ac wrthreswm rwyf innau yn dysgu cymaint ganddynt.

Felly pnawniau Llun, Nefyn amdani. Os dwi’n cyrraedd ddigon buan caf ginio yng Nghaffi’r Penwaig. Fel dosbarth rydym eisoes wedi ymweld a’r hen Eglwys, Santes Fair a safle’r Amgueddfa Forwrol a’r wythnos dwetha cawsom drip ar y bws mini i Eglwys hynafol Pistyll gan dreulio awr hamddenol yn eistedd yn yr Eglwys yn trafod nodweddion hynafol y safle, y bedyddfaen Geltaidd a’r murlun o ocr coch yn dangos Sant Christopher  cyn gorffen ein ymweliad wrth garreg fedd yr actor Rupert Davies (Maigret wrthgwrs).

Yr wythnos hon rydym am gerdded o amgylch Nefyn gan oedi ger yr holl gapeli, Soar, capel yr Annibynwyr a godwyd ym 1880 ar gyfer y mewnlifiad o chwarelwyr o Benmaenmawr a Swydd Caerlyr;  adeilad newydd Capel Isa lle bu unwaith y Capel Calfinaidd; Seion, capel y Bedyddwyr a adeiladwyd yn lle’r hen gapel ar y Fron a wedyn Moreia, Capel y Wesleaid 1881. Y nod yn wythnosol yw gwneud ychydig o gerdded a chadw’n heini ond ein bod hefyd yn dysgu rhywbeth ac yn ymweld a rhyw safle.

Yr hyn sydd yn braf am Nefyn wrthgwrs yw fod Mici Plwm hefo ni felly rydym yn cael y drydedd cyfraniad – sef diddanwch pur, digrifwch, tynnu coes a phawb felly a gwen fawr are u gwyneb.

No comments:

Post a Comment