Thursday 16 August 2012

Herald Gymraeg 15 Awst 2012 The Face ayyb



Fyddwn i byth yn gwneud, fyddwn i byth yn meiddio, a’r peth olaf mae fy nghyd golofnwyr yma ar yr Herald ei angen ydi sylwadau gan Rhys Mwyn ar gynnwys eu colofnau ond mor dda oedd colofnau Angharad a Gwanas Herald Gymraeg Awst 1af, amhosib fydda peidio gwneud rhyw sylw bach. Rwyf wedi son droeon am bwrpas colofnau fel hyn, i ddiddanu, i brocio, i herio, i gwestiynu’r drefn, i wneud pobl feddwl, i addysgu, i wneud pobl chwerthin, i bobl gytuno neu anghytuno – ond y peth pwysica mae’n siwr yw fod y colofnau yn gwenud darllen difir.

                Atgoffwyd mi o erthyglau ‘The Face’ yn yr 80au. Colofwnyr a’m ysbrydolodd i sgwennu, fel Julie Burchill, Jon Savage a Paul Morley, er go brin tybiwn i fod rhain yn ddylanwadau ar y ddwy uchod, ond colofnau oedd yn gallu trafod diwylliant cyfoes a chynnwys y rhestr uchod o fod yn ddiddanwch pur, yn ddadleuol i’r eithaf ac yn gorfodi rhywun nid yn unig i barhau i ddarllen ond i ffurfio barn. Roedd rhifyn Awst 1af o’r Herald Gymraeg yn un o’r rhain !

                Bwrdwn colofn Gwanas oedd pam mor brysur yw bywyd rhywsut, ac ar y Sul dilynol yn atodiad Celfyddydol yr Observer, roedd erthygl gan  Elizabeth Day yn cyfweld ac artistiaid o wahanol gelfyddydau yn gofyn y cwestiwn “A yw hi’n bosib gwneud bywoliaeth o’r Celfyddydau ?” Cwestiwn diddorol, ac yn wir cwestiwn perthnasol, yn sicr yn y cyd-destun Cymraeg.

                Mae’n debyg fod Gwanas fel nifer ohonnom yn brysur neu’n brysurach oherwydd fel pobl a wnaeth y penderfyniad i weithio o fewn y maes Diwylliant Cymraeg a Chymreig, mae’n rhaid i ni gymeryd y gwaith fel mae o yn dod, gan obeithio ei fod yn dod. Y gwir amdani mae’r bali biliau yn siwr o ddod a mae’r bali biliau yn bethau sy’n cynyddu. Os da ni ddim yn gweithio, fedra ni ddim talu’r bali biliau, mor syml a hynny.

                Dwi di bod yn meddwl ers amser sgwennu rhywbeth am hyn, son am y bobl yma, boed yn hanesydd / nofelydd fel Dewi Prysor neu yn gerddorion fel Melilyr ac Osian Gwynedd (Sibrydion) neu beirdd fel Twm Morus, y diweddar Iwan Llwyd neu’r holl actorion Cymreig yna sydd ddim ar ‘Rownd a Rownd’ neu ‘Pobl y Cwm’. Son am bobl sydd wedi ymroi i Ddiwylliant Cymraeg yn llawn amser, fel gyrfa os di’r fath air yn addas a ddim yn swnio fel gwallgofrwydd pur o ystyried y traddodiad amaturaidd Cymreig o Steddfod mewn neuadd sinc, grwpiau Coleg, y gymdeithas ddrama leol a’r Papurau Bro – oll yn bethau da wrthgwrs, ond yr un yn help i dalu’r bali biliau.

                Rwyf hefyd wedi son droeon yn ddiweddar, heb eich syrffedu gormod gobeithio, fod cyflwr Diwylliant Cymraeg Cyfoes, arloesol ac heriol boed yn Pop neu’n Gelf yn rhywbeth sydd yn fy mhoeni yn arw, ond fedra’i ddim sgwennu amdano heb ddechrau taranu, rhegi a gorfod ail sgwennu colofn fel hon fil o weithiau cyn iddo fod yn dderbyniol gan Adran Cyfreithiol y Daily Post. Yr unig beth hoffwn ei ychwanegu i drafodaeth Gwanas yw mae’n weddol amlwg i mi nad yw pobl sydd yn ymroi yn llawn amser ac yn broffesiynol yn y Maes Diwylliant Cymraeg yn cael eu talu yn iawn am eu (ein) gwaith, neu fydda ddim rhaid rhedeg o gwmpas cymaint yn gweithio er mwyn talu’r bali biliau.

                Yn ol yr Observer, roedd y mwyafrif o bobl creadigol ac artistiaid yn gorfod gwneud gwaith arall yn ychwanegol, neu yn rhan amser, er mwyn ennill bywoliaeth, neu hyd yn oed er mwyn talu’r bali biliau, a wedyn i gael yr amser a’r modd i fod yn greadigol. Felly di’o ddim yn broblem Gymreig yn unig, ond y broblem Gymreig yw ei’n bod yn gwneud hyn er mwyn “Achub yr Iaith”, nid er mwyn gwneud pres yn unig.

                A beth felly am awgrym Angharad fod angen llawlyfr i ddeall pwy di pwy yn y maes Achub yr Iaith, dyma sawl Mudiad Iaith newydd, fedra’i ddim hyd yn oed eu henwi, ond roedd rhaid dweud fod gan Angharad bwynt neu ddau. Y cwestwin mwyaf amlwg yw a oes angen yr holl fudiadau ? Efallai fod hyn yn dangos aeddfedrwydd yn y Mudiad Cenedlaethol a’r Ymgyrchwyr Iaith. Fel y Methodistiaid, y Bedyddwyr a’r Annibynwyr gynt, oll yn anghydffurfwyr, oll yn Gristnogion, oll yn Gapelwyr ond yn methu rhannu’r un capel ……..

                Neu efallai fod hyn yn brawf pellach o’r diffyg cyfathrebu neu’r amharodrwydd i gyfathrebu o fewn y Mudiadau Iaith, pawb yn gwybod yn well, rhai Mudiadau wedi gweld dyddiau gwell felly mae angen un, neu ddau neu dri newydd. Wyddo chi beth, fedrwn i ddim dechrau meddwl am y peth heb son am boeni. Does yr un Mudiad Iaith rioed di gallu cyfathrebu a mi, mwy na unrhyw Blaid Wleidyddol, fel anarchydd, os dyna ydwyf, (fydda ddim yn cael ei dderbyn gan yr Anarchwyr chwaith), dwi’n ffendio hi’n haws i fod yn ysbryd rhydd – dwi ddim yn un am ymuno, a ta beth, does dim croeso na mynediad i’r Clwb.

                Fy nghyfraniad tila i’r drafodaeth oedd trydar “Faint o Fudiadau Iaith sydd ei angen i newid bylb gola ?” Weithiau mae hiwmor yn well arf, neu fel awgrymodd y Situationists Internationale ym 1968 – Bydd gwenud hwyl am ben y Byd yn arwain at ei ddymchwel. Yr hyn a wnaeth mwyaf o synnwyr i mi yr wythnos dwetha oedd clywed dau fyfyriwr ifanc yn son am y “Bybl Cymraeg” ar Taro’r Post, BBC Radio Cymru  – “yr ifanc a wyr a’r hen a dybia” ynde, – felly welw’chi yn y Byd Cymraeg.

No comments:

Post a Comment