Saturday 25 August 2012

Herald Gymraeg 22 Awst 2012 Bodelwyddan


 
Fel arfer mae rhywun yn cyfeirio at “hen eglwysi”, sef yr eglwysi hynafol fel y rhai mwyaf diddorol neu yn sicr fel y rhai sydd fwyaf tebygol o fod yn ddiddorol. Yn wir mae yna lyfr, ‘The Old Churches of Snowdonia’ gan Harold Hughes a Herbert North, sydd yn cyfeirio at eglwysi hynafol amlwg fel Llanrhychwyn neu Llangelynin ond yr wythnos yma rwyf am son am eglwys gymharol ddiweddar, ond un sydd a sawl stori wirioneddol ddiddorol.

                Ond cyn cychwyn ar ein taith byddwn yn argymell unrhywun a diddordeb mewn hen eglwysi i gael gafael ar y llyfr “The Old Churches of Snowdonia”. Y ffordd orau o gael gafael ar gopi fyddai cysylltu a’r gwerthwyr llyfrau drwy’r cylchgrawn Y Casglwr, mae rheini bob amser yn fodlon chwilota am gopi, onibai wrthgwrs fod gwell gennych fynd o amgylch siopau hen lyfrau - sydd yn bleser yn ei hyn.

                Bydd unrhywun sydd yn teithio ar hyd yr A55  heibio Bodelwyddan yn gyfarwydd mae’n siwr a’r “Eglwys Famor”, does dim modd i’w hosgoi, mae’r twr i’w weld o bellter, sydd ddim yn syndod o ystyried ei uchder o 202 troedfedd a mae’r eglwys bob amser yn disgelirio ac yn ymddangos yn wyn. Er yr enw “Eglwys Famor” mae’r tu allan wedi ei adeiladu o galchfaen, gan gynnwys calchfaen Mon, felly dydi’r lliw gwyn allanol yma ddim byd i’w wneud a’r enw a roddir i’r eglwys.

                Cyfeirio at y mamor mewnol mae’r enw, y colofnau hyfryd ar hyd yr eglwys, a’r ffaith fod yma 14 math gwahanol o famor i’w weld o fewn yr eglwys. Mae colofnau o Famor Mon ger y fynedfa orllewinol a gwelir hefyd Famor Coch Belg a wedyn y bedyddfaen drawiadol mewn Mamor Carrara. Efallai mae dyma’r bedyddfaen mwyaf trawiadol sydd gennym yn Ogledd Cymru, yn wahanol iawn i’r rhan fwyaf o egwlysi lle mae’r bedyddfaen yn amlach na pheidio ymhlith yr olion cynnharaf sydd wedi goroesi ac yn dyddio o’r Canol Oesoedd.

                 Ceir cerflun o ddwy ferch, chwaeorydd i Syr Hugh Williams, Bodelwyddan oedd yn gyfrifol am noddi’r bedyddfaen sydd arni, Charlotte Lucy a Arabella Antonia a cerfiwyd y bedyddfaen gan Peter Hollins.  Adeiladwyd yr Eglwys dan orchymyn Margaret Willoughby de Broke o deulu Bodelwyddan er cof am ei gwr Barwn Willoughby de Broke ac yn ol son cafwyd sel bendith Volwer Shore, Esgob Llanelwy. Er hynny mae’n gwestiwn diddorol iawn sut cafwyd yr enw  St Margaret’s ar yr Eglwys. Ffaith arall ddidorol am yr Eglwys yw iddi gael ei chwblhau o fewn pedair mlynedd ac roedd yn barod erbyn 1860. Yn ol y son roedd Margaret yn awyddus i Bodelwyddan gael ei eglwys ei hyn. Mae portread ohonni ger y prif fynedfa.

                O ddiddordeb hefyd mae ffenstri gwydr hyfryd  y Gwyddel, Michael O’Connor, mae’r ffenestr gron gyda’r angylion ar ochr Orllewinol yr eglwys yn sefyll allan fel un rhyfeddol. Wedyn mae’r to, sydd yn cael ei ddisgrifio fel un “hammer-beam” yn dechnegol ac o ran pensaerniaeth. Yr hyn a olygir yw nad oes unrhyw hoelion na sgriws yn rhan o’r adeiladwaith, mae’r holl beth wedi ei ddal gyda pegiau pren. Fe all rhywun dreulio awr neu fwy yn archwylio tu fewn i’r Egwys, mae’r pwlpyd o ddiddordeb, y gangell a mwy byth o ffenestri lliwgar.

                Fel sydd yn digwydd mor aml ar ymweliadau fel hyn, mae rhywun yn taro sgwrs, ac yn aml iawn mae yna fath arbennig o bobl yndoes sydd yn treulio gormod o oriau yn ymweld a safleoedd o’r fath, sgwni a yw hyn yn fath o obsesiwn ? Ta waeth, fe ddaeth y gwr i’m cwrdd ger y bydyddfaen, ac yn naturiol dyma’r ddau ohonnom yn cydnabod hynodrwydd y Mamor Cararra a’r ddwy ferch yn dal y fowlen. Roedd y gwr yn gweithio fel dyn diogelwch yn hen Neuadd Kinmel ac yn amlwg yn ymddiddori yn y beddau Canadaidd yn y fynwent. Roedd llyfr ‘The Kinmel Park Camp Riots 1919’ gan Julian Putkowski yn ei feddiant felly allan a ni i’r fynwent i astudio dipyn mwy ar yr 83 carreg fedd Canadaidd.
 

                Mae pob math o storiau yn perthyn i’r terfysg, bellach mae rhan o hyn bron a bod yn fytholeg, a mae ceisio dod o hyd i’r gwirionedd wedyn yn gallu bod yn anodd. Oes mae son fod yr hanes wedi ei “gadw’n ddistaw” am bron i gan mlynedd, ond beth bynnag yw’r gwir, mae yma rhywbeth sydd yn rhoi ias i rhywun, tristwch hefyd, fedra ni ond dychmygu ………

                Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf bu i filwyr o Canada gael eu gyrru i Camp Kinmel dros dro cyn trefnu eu cludo yn ol i Ganada. Dyna’r syniad, ond roedd prinder llongau, a mae’n debyg fod llongau arall wedi eu blaenoriaethu i filwyr o America. Yn syml, doedd y dynion ifanc yma ddim yn mynd adre ar frys. Mae son hefyd iddynt gael eu gwahanu o’u catrawdau arferol yn y camp a fod y dynion wedi eu rhoi mewn grwpiau yn seiliedig ar lle roeddynt yn byw yn ol yn Canada. Felly doedd y dynion ddim hefo eu ffrindiau arferol, eu cyd-filwyr o’r Rhyfel na chwaith gyda’r swyddogion arferol.

Yn sicr roedd yr amgylchyyiadau yn y camp yn bell o fod yn gyfforddus, siedau pren ar y gorau, un blanced ar y gorau felly doedd gaeaf 1918/19 ddim yn mynd i fod yn un pleserus iddynt ac i ychwanegu at y cletwch roedd yna brinder bwyd. Go brin fod y dynion ifanc yma yn cael gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd a’r son yw fod rhai wedyn wedi gwrthryfela, wedi dwyn bwyd ac yn y blaen.

Wedyn mae’r stori yn un niwlog, fod rhai wedi eu saethu yn ystod y terfysg, fod eraill wedi eu dwyn o flaen llys milwrol a wedyn wedi eu saethu. Yn ol un hanesydd lleol, dim ond un milwr a laddwyd yn ystod y terfysg. Y tebygrwydd yw fod y mwyafrif wedi marw o’r ffliw mawr  1918-19, ac yn eu plith un nyrs. Beth bynnag yw’r gwirionedd fedrith rhywun ddim ond teimlo fod y dynion ifanc yma wedi brwydro dros Prydain ond fod neb wedi sicrhau eu bod yn cael mynd adre – yn sicr mewn da o bryd. Fe gludwyd y gweddil adre ddipyn cynt ar ol y “terfysg”. Stori drist sydd hyd yn oed yn codi cywilydd ar sut bu i arweiwnwyr Prydain Fawr ymddwyn ar ddiwedd y Rhyfel Mawr.
 
 

No comments:

Post a Comment