Wednesday 8 August 2012

Herald Gymraeg Awst 1af Meillionydd


Mae’r bryngaerau anfferth, amlwg, adnabyddus ar gopaon mynyddoedd asgwrn cefn Pen Llyn, Carn Fadryn, Garn Boduan a Tre’r Ceiri yn perthyn mwy na thebyg i’r Oes Haearn Hwyr ac yn ymestyn i mewn i gyfnod y Rhufeiniaid o ran defnydd. Fe all fod defnydd o’r safleoedd yma yn gynharach, ond y safle enwocaf ym Mhen Llyn o ran defnydd yn yr Oes Haearn Cynnar, a defnydd cynharach yn ymestyn yn ol i’r Oes Efydd Diweddar yw Castell Odo, yn gorwedd yn daclus ar Mynydd Ystym ger Aberdaron.

                I’r rheini a astudiodd Archaeoleg mewn Prifysgol, mae Castell Odo yn un o’r safleodd pwysicaf o ran deall natur bryngaerau yng Nghymru, ac o dan oruwchwyliaeth Leslie Alcock fe gloddwyd y gaer yn y 60au gan ddarganfod fod yr amddiffynfeydd yn rhai aml-gyfnod. Fe all fod yma dai crynion heb eu hamddiffyn hyd yn oed yn y cyfnod cynnar, a wedyn palisad o bren yn cael ei ychwanegu o amgylch y safle ac yn ddiweddarach y palisad yn cael ei newid am wal neu glawdd o gerrig a phridd. Mae’n llawer mwy cymhleth na hynny ond mae yna hen ddywediad – “gormod o fanylder”.

                Felly er mwyn cadw pethau’n syml ac yn ddealladwy, canlyniad gwaith cloddio Alcock oedd gallu gwthio dyddiad bryngaer fel Castell Odo yn ol i'r Oes Efydd, efallai mor gynnar ar 9fed Ganrif Cyn Crist. Hefyd yn bwysig iawn daethpwyd o hyd i lestri pridd, gyda olion bwyd wedi goroesi, wedi eu claddu yn fuan ar ol gloddest neu rhyw ddigwyddiad o bwys. Y tebygrwydd yw  iddynt gael eu claddu mewn tomen, a hynny yn erbyn y cylchfur gorllewinnol yn syth ar ol y pryd bwyd.

                Arferiad diddorol efallai, arwyddocaol i bobl pryd hynny yn sicr (lle bydd yr Haul ym machlud efallai ?), a dim fel y byddaf bob amser yn tynnu coes ym Mhen Llyn fod hyn yn hen arferiad o bobl ddim yn golchi eu llestri. Wel, mae’n rhaid cael hwyl yndoes wrth ddarlitho mewn festri capel ar noson wyntoga gwlyb ym Mis Tachwedd. Ond dyma rhan o’r cefndir a’r cyd-destun archaeolegol dros y gwaith cloddio gan Brifysgol Bangor dros y dair mlynedd dwetha ym Meillionydd ar ochr orllewinnol Mynydd Rhiw.

                Yr hyn a geir ym Mhen Llyn yw’r safleoedd gymharol unigryw yma a elwir yn safleoledd cylchfur dwbl, dyna yw Castell Odo a dyna yn wir yw Caeron a Conion, hefyd ar Fynydd Rhiw. Yn dilyn arolwg geo-ffisegol gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd penderfynwyd cael golwg manylach ar safle Meillionydd. Er fod y tir wedi ei aredig roedd canlyniadau’r arolwg yn galonogol, ac yn ol ym 2010 daeth myfyrwyr o Gaerdydd, Bangor a Vienna yma i Ben Llyn i gloddio dan oruwchwyliaeth Dr Kate Waddington a’r Athro Raymund Karl.

                Pwrpas y gwaith cloddio oedd i weld a oedd cymhariaeth rhwng darganfyddiadau Alcock yng Nghastell Odo a’r hyn fydd yn cael ei ddararchuddio ym Meillionydd, cwestiynau, cwestiynau, cwestiynau. A fydd tomeni gwastraff (bron fel tomen lludw i ni) yn erbyn y cylchfur dwbl ?, a fydd yna ddyddiad cynnar i’r safle, efallai yn mynd yn ol i’r Oes Efydd ? Gyda cyn llied o waith cloddio wedi digwydd yn y rhan yma o’r Byd, bydd y cloddio siwr o daflu mwy o oleuni ar y cyfnod yma – y cyfnod cyn y bryngaerau mawrion fel Boduan a Fadryn.

                Un o’r cwestiynau byddaf yn ei gael yn aml yw “pam nad oes cloddio archaeolegol wedi digwydd yn fan a fan ?”, ac heblaw am yr amlwg, fod y broses yn un gostus, mae rhywun hefyd yn esbonio y daw rhywun byth i ben petae rhywun yn dechrau tyllu ym mhob man a all fod o ddiddordeb. Felly mae’n rhaid dewis safleoedd, unai rhai sydd o dan fygythiad amlwg, neu fel yn achos Meillionydd lle mae gobaith o gael canlyniadau, lle mae cyfle i wella ein dealltwriaeth, lle mae modd ychwanegu at Hanes Cymru – ond, rhaid meddwl a chynllunio yn strategol.

                Felly dyma ni, ein trydedd mlynedd ym Meillionydd. O gopa’r bryn mae Enlli i’w weld yn glir, ond mae’r gwaith cloddio i lawr ychydig ar ochr ddeueuol y bryn, yn canolbwyntio ar rhai o’r tai crynion ger a rhwng y ddau glawdd a hefyd yn ceisio dadansoddi natur y fynedfa i’r safle. Mae’n waith sydd yn galw am graffu’n fanwl, am lygad barcud, am ofal archeolegol ac yn wir – mae’n safle sydd yn gwneud i rhywun feddwl.

                Mae sawl agwedd ddiddorol i Meillionydd. Yn gyntaf,  a mae hyn o ddiddordeb personol i mi gan fy mod yn ymddiddori yn hanes y gweithfeydd neu’r Ffatri Fwyeill Neolithig ar Fynydd Rhiw, daethpwyd o hyd i garreg Mynydd Rhiw tra’n cloddio. Yn eu plith mae darn a ddefnyddiwyd fel cnewyllun i wneud offer, hynny yw, darn o garreg fydda’r amaethwyr cynnar yn ei gario, bron fel cyllell “Swiss Army” er mwyn paratoi cyllell neu grafwr ar frys.

                 Y cwestiwn mawr yma felly yw, a oes defnydd o gelfi cerrig yn yr Oes Haearn, parhad fel petae o’r arfer Neolithig ? Yn sicr mae digon o ffermwyr heddiw wedi son hefo mi eu bod yn defnyddio cerrig miniog ar adegau i dorri cortyn neu beth bynnag. (Mae erthygl yn Barn 591 Ebrill 2012 yn trafod Mynydd Rhiw gennyf).

                Hefyd eleni, dadorchuddiwyd sylfeini cwt crwn yn erbyn y culchfur allanol, yn wir, roedd rhan o’r cwt wedi ei dorri i mewn i’r clawdd, efallai i leihau y gwaith gan byddai cysgod neu rhan o wal yno yn barod ? Syndod mewn ffordd cymaint o’r sylfeini oedd wedi goroesi o ystyried fod y tir wedi ei droi dros y blynyddoedd – ond roedd yn hyfryd o beth i’w weld a chael dychmygu sut dai oedd gan ein cyndeidiau cynnar ym Mynydd Rhiw.

                Byddaf yn dweud bob tro, mae’n fraint cael cloddio ar y fath safleoedd a mae diolch mawr i deulu Meillionydd am ganiatau i’r gwaith barhau yma ac i Brifysgol Bangor am sicrhau fod y gwaith yn bosib.  Y gobaith yw y bydd Kate a minnau yn darlithio yn Neuadd Bryncroes cyn ddiwedd y flwyddyn am ganlyniadau 2012.



No comments:

Post a Comment