Wednesday 26 September 2012

Santes Julitta Herald Gymraeg 26 Medi 2012



Capel Curig, mae’r enw yn ei hyn yn awgrymu safle eglwys ac yn wir yr eglwys wreiddiol ym mhentref Capel Curig oedd yr eglwys a elwir heddiw yn Eglwys y Santes Julitta. Tybiaf fod yr eglwys fechan hon, yn wir y lleiaf o eglwysi Eryri, yn gyfarwydd iawn i bawb sydd yn teithio heibio Llynnau Mymbyr ar hyd yr A4086. Ond y cwestiwn yw faint sydd wedi cael cyfle i neidio allan o’r car a chael ymwled ar eglwys ?

                Yr ateb mae’n siwr, fel yn fy achos i, ein bod ar garlam, rhy brysur, angen bod yn fan a fan erbyn pryd bynnag, mi alwaf heibio eto, tro nesa ac ymlaen a ni. Ond unwaith eto diolch i gynllun ‘Drysau Agored’ dyma fynd yn unswydd i Capel Curig. Rwan, cyn cychwyn, roeddwn hefyd yn gwybod fod hyn am arwain at banad a chacan yn y caffi rhagorol sydd newydd agor, Caffi Siabod, a dyma chi un arall o’r caffis bach yma yng Ngogledd Cymru sy’n groesawgar, gyda staff Cymraeg lleol ac awyrgylch braf yng nghysgod Moel Siabod.

                Roedd hi’n dywydd garw ddiwrnod ein ymweliad, mor dddrwg fod yr hogia yn penderfynu aros yn y car, ond oleiaf caf ychydig o lonydd felly i fwynhau’r Eglwys hynafol meddyliais. Felly wrth adael y car yn y maes parcio sydd prin ddigon mawr i ddau gar ar y tro dyma redeg yn syth am borth yr Eglwys. Dwi’n ymwybodol fy mod yn son yn aml yn y colofnau yma fod angen dychwelyd i’r fan a fan, ond ar y Sul glawog yma doeddwn i, “Mistar Brwdfrydig” allan ym mhob tywydd, poeni dim am yr oerfel, nac oeddwn wir, doeddwn i ddim am ddechrau darllen y cerrig beddau ac ymlwybro drwy’r glaswellt gwlyb.

                Felly, bydd rhaid dychwelyd i gael gweld carreg fedd Evan Jones, telynor yn nhafarn y Capel Curig Inn am ddauddeg wyth o flynyddoedd a fu farw ym 1832, neu bedd y Fonheddiges Arabella Ward, o Gastell Ward yng Ngogledd Iwerddon a chladdwyd mor bell o gartref. Carreg fedd arall hoffwn ei gweld yw’r un i Leonard Spencer Salt, un o bartneriaid bragdy’r teulu yn Burton on Trent. Collodd Salt ei fywyd mewn damwain dringo ar Lliwedd ym Mis Mawrtg 1910.

                Ni fydd modd gadael y fynwent heb dalu teyrnged chwaith i Evan Roberts, chwaraelwr a anrhydewddwyd gan Brifysgol Bangor am ei waith ym Myd Natur. Mae cofeb arall iddo ar wal yr hen ysgol, sef y ganolfan gymunedol yng Nghapel Curig. Felly yn sicr byddaf yn dychwelyd yma gan obeithio am dywydd fymryn gwell.

                Un o’r manteision mawr gyda cynllun ‘Drysau Agored’ yw fod rhywun yn yr adeilad i’ch croesawu ac yn syth rwyf yn gofyn am eu cymorth, beth sydd yma o ddiddordeb, beth yn union ddyliwn ei weld ? Mae arddangosfa ganddynt yn yr Eglwys yn seiliedig ar hanes “Dwr” yn yr ardal gan ganolbwyntio yn amlwg ar drychineb Eigiau a Dolgarrog ym 1925 pan laddwyd 16 o bobl ym mhentref Dolgarrog. Diddorol hefyd oedd hanes pwerdy Cwm Dyli ac anodd dychmygu fod hyn wedi rhoi pwer i chareli llechi Eryri.

Rhaid canmol yr “arddangosfa”, roedd y byrddau gwybodaeth yn ddealladwy ac yn hynod broffesiynol o ran arddull a chysodi a diddorol hefyd oedd deall fod Cyfeillion Santes Julitta yn paratoi arddangosfa o’r fath yn flynyddol, ac yn ystod 2011 wedi paratoi un ar hanes ‘Yr Ail Ryfel Byd yn Eryri’. Gan gyhoeddi llyfryn i gyd fynd a’r arddangosfa, dyma chi waith gwerthfawr o ran cofnodi a gwaith ymchwil. Yn wir mae olion Ail Ryfel Byd Eryri yn prysur ddod yn obsesiwn newydd i mi ac yn sicr yn destyn “Darlith” mewn rhai misoedd.

Er ei bod yn Eglwys sydd wedi ei datgysegru bellach, mae ambell i wasanaeth yma drwy drwydded, ond go iawn, ymdebygai’r Eglwys fwy i ganolfan gymdeithasol fechan neu rhyw fath o amgueddfa. Er fod y seddau a’r pwlpud wedi goroesi, ac yn wir mae’r elor yn cael ei ddal yn uchel uwch ben y drws, ond ar y cyfan doeddwn ddim yn cael y teimlad o fod mewn eglwys hynafol, dwi ddim yn mynegi barn yma o gwbl, ond dyma oedd fy argraff. Mae’r fynwent yn teimlo’n llawer mwy hynafol, ac mae’r fynwent ar agor bob amser wrthgwrs.


Sylwais fod yr Eglwys ym meddiant copi o lyfr Hughes a North ‘The Old Churches of Snowdonia’ a doedd dim angen perswad arnaf i wario ar yr holl lyfrynnau a gyhoeddwyd gan y Cyfeillion. Bydd yn ddarllen diddorol i mi gan obeithio fod y rhodd fechan yn gymorth i gadw a chynnal yr Eglwys.

O ran nodweddion pensaerniol, mae yma engraifft da iawn o’r cynllun “sgwar dyblyg” sydd yn perthyn i hen eglwysi Eryri, sef fod yr ystafell yn union ddwywaith mwy o ran hyd nac o ran lled ac yn yr engraifft yma does dim cangell wedi ei ychwanegu yn ddiweddarach i ymestyn yr Eglwys er fod capel bach wedi ei ychwanegu ar yr ochr ddeheuol rhywbryd yn ystod yr 16eg Ganrif.

Mae yma hefyd engraifft o’r “bwa seiclopaidd”, sef y capan anferth o lechan uwchben y drws gogleddol gwreiddiol. Gwelir y math yma o fwa mewn tai sydd yn dyddio i’r 16eg a’r 17eg Ganrif. Er mor fach yw’r eglwys, does dim dwy waith y gallai rhywun dreulio awr neu ddwy yn gyfforddus yma rhwng yr eglwys a’r fynwent.

Erbyn hyn mae’r hogia wedi aflonyddu a mae’n amser am banad yn Caffi Siabod. Petae rhaid argymell cacan gallwn wirioneddol ganmol y gacan ffrwchnedd, ddim cystal ac un fy mam, a ddim ddigon “gwlyb” o bosib, ond ar bnawn Sul oer a gwlyb roedd wedi diflannu yn sydun iawn !

 

No comments:

Post a Comment