Wednesday 3 October 2012

Amgueddfa Gwynedd Herald Gymraeg 3 Hydref 2012



Rwyf am geisio gwneud rhywbeth ychydig bach yn wahanol yr wythnos hon, ac wrth ddechrau ysgrifennu rwy’n ymwybodol fod hyn yn mynd i fod yn ddipyn o gamp. Peidiwch a gofyn o ble daeth y syniad, efallai o un o’r rhaglenni teledu gwirion yna sydd yn rhoi digwyddiadau neu cymeriadau mewn trefn “Deg Uchaf”, ond y bwriad yw gwneud hyn hefo rhai o’r gwrthrychau sydd i’w gweld yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor.

                Felly mae’n mynd i fod yn dasg amhosibl, mae gormod o ddewis mewn gwirionedd, a pe byddwn yn bod yn onest, mae’n debyg mae’r neges gennyf yw “ewch draw i’r Angueddfa !”. Yn sicr i’r bobl yna sydd yn siopa ym Mangor ar bnawn Sadwrn mae modd galw heibio, hyd yn oed am awr, a fel arfer mae arddangosfa gelf newydd yn yr Oriel sydd bob amser yn ddiddorol ac yn fy achos i, bob amser yn creu ymateb. Rwyf yn greadur sydd wrth ei fodd yn “beirniadu” celf, yn rhoi y Byd Celf yn ei le a chael ychydig o ddiwylliant gweledol i ysgogi trafodaeth.

                Priodol felly fyddai dechrau yn y Byd Celf a llun olew hyfryd Frank Bryngwyn RA o Gastell Caernarfon, un o gyfres o luniau (mae un tebyg yn Oriel Glynn Vivian, Abertawe) ac er nad oes dyddiad arnynt y tebygrwydd yw iddynt gael eu creu ddechrau’r 1920au. Disgrifir y llun fel un “Rhamantaidd” gyda’r gwch ar lan y Fenai (ger y Foryd os rwyf yn ei ddehongli yn gywir), yn un o nodweddion Brangwyn. Dyma un o’r lluniau cyntaf i’w brynu mewn ocsiwn ar gyfer pobl Gwynedd.
 

                Gan neidio wedyn i gyfnod y Neolithig, fyny grisiau yn yr adran Archaeoleg, dyma un o fwyeill main anorffenedig Mynydd Rhiw. Un o’r pethau diddorol am Fynydd Rhiw ym Mhen Llyn yw fod dyn yn ol yn y cyfnod amaethyddol cyntaf, rhwng chwe mil a phediar mil o flynyddoedd yn ol wedi cloddio dan ddaear am y garreg sial, sydd wedi ei effeithio gan lif a gwres folcanaidd ymwthiol, er mwyn dod o hyd i’r garreg yn y lle cyntaf. Dyma’r chwarelwyr cyntaf felly, a dyma ni un o’u bwyeill, yn fregus, wedi ei hanneru  ond wedi goroesi hefyd diolch byth.
 

                Fe af a chwi wedyn i gyfnod y Chwarelwyr, ac i ardal Dyffryn Ogwen i gael rhyfeddu ar y cerfluniau llechi ar y llefydd tan sydd yn dyddio o 1823-43 gyda’u cylchoedd cyd-ganolog a nifer wedyn gyda lluniau o wynebau ac anifeiliaid wedi eu cerfio gyda llaw. Anodd credu fod y Chwarelwyr wrthi drwy’r dydd ar wyneb y graig a wedyn yn eu hamser sbar yn parhau i weithio “ar wyneb y graig” er y tro yma dan do a nid cannoedd o droedfeddi uwch y ddaear. Engraifft gwych o grefftwyr a balchder yn y ty. Digon i wneud rhywun deimlo’n ddihymongar iawn.


                Gan aros yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, mae engraifft o’r Welsh Not i’w weld yma. Dyma un o’r symbolau mwyaf  emosiynol a dadleuol ynde i ni fel Cymry, fod y Welsh Not wedi ei osod o amgylch gwddw plentyn a fod y disgybl a oedd ddigon anffodus i gael y Welsh Not ar ddiwedd y dydd wedyn yn cael ei guro. Mae engreifftiau i’w gweld yn Sain Ffagan hefyd. Fe ddylia pob plentyn yng Nghymru fod yn astudio’r Welsh Not yn yr ysgol.


                “Llun” arall sydd yn hawlio sylw rhuwun yw’r arwydd tafarn ‘The Four Alls’ gyda’r Frenhines,milwr a’r offeiriad. Disgrifir y llun olew yn llyfr Peter Lord ‘Delweddu’r Genedl’ fel un prin gan fod yr arwyddion yma fel arfer tu allan i dy tafarn yn yr awyr agored. Paentwyd hwn gan D.J Williams ym Mhorthaethwy, un o’r arlunwyr gwlad, oddeutu 1750.
 

                Anodd fyddai osgoi hanes y Rhufeiniaid yng Ngwynedd, yn sicr o ystyried  pwysigrwydd y gaer yn Segontium, Caernarfon, felly rhaid cynnwys cleddyf Segontium yn ein rhestr. Dwi’n dechrau teimlo bellach fod unrhyw ymdrech i osod y gwrthrychau yma mewn trefn, yn sicr o ran unrhyw flaenoriaeth neu bwysigrwydd yn nonsens llwyr. Perthyn rhyw rinwedd ac arwyddocad i bob un o’r gwrthrychau a rhaid cyfaddef mae ychydig o hwyl yw eu rhestru fel hyn, felly dwi’n anelu am ddeg gwrthrych ond anwybyddwch unrhyw drefn !
 

                Gwrthrych arall o gyfnod y Rhufeiniaid sydd o ddiddordeb mawr i mi yw’r “gacan copr”, darn o gopr sydd yn ymdebygu i pizza ond nid pizza wedi ei ffosileiddio yw hwn ond un o’r darnau o gopr, o bosib o Fynydd Parys, a oedd yn cael ei fasnachu. Mae cacan arall i’w gweld yn y Sail Loft yn Amlwch a trist yw nodi fod hanes am sawl cacan arall o amgylch Sir Fon sydd wedi hen ddiflannu.


                Un o’r cypyrddau arddangos mwy anarferol ym Mangor yw’r un o bastynau plismyn. Braidd fel y Welsh Not, perthyn i’w cyfnod, a fydda neb isho eu profi ond yn dal yn ddiddorol i ni yn ein cadeiriau esmwyth a’n cartrefi saff yn yr G21ain. Yn ol yr Amgueddfa y pastynau wedi eu gorchuddio a chadach oedd y rhai oedd yn achosi y mwyaf o ddifrod neu boen. Brawychus.


                Maddeuwch i mi am ddychwelyd i’r cyfnod Rhufeinig neu’r cyfnod Ol-Rhufeinig i fod yn fanwl gywir ond mae’r arch blwm o Ruddgaer a berthynai  i wr o’r enw Camuloris yn un o uchafbwyntiau’r Amgueddfa oherwydd fod ysgrif ar blwm yn gymharol anghyffredin ac yn aml dyma’r unig fynhonnell o wybodaeth ar ol ymadawiad y Rhufeiniaid o Gymru oddeutu 383 O.C. O ran arddull yr ysgrif awgrymir fod dyddiad yn ystod y 5ed Ganrif yn debygol ar gyfer yr arch. Peth arall am yr arch yw ei bod rhy fyr i ddyn orwedd ynddi ar ei hyd er mae dyma oedd yn arferol yn y cyfnod yma.
 

                A dyma ni yn cyrraedd Rhif Deg, ac efallai yma fod rhaid i mi ddatgelu mae dyma fy hoff wrthrych yn Amguedfa ac Oriel Bangor, efallai oherwydd yr elfen gomedi bron, fel rhywbeth allan o ffilm Ealing Comedy, ond hefyd o ran rhwy edmygedd a’r datganiad o annibynniaeth. Rhaid felly dyrchafu Coron Enlli i frig y siart, y goron ddoniol yma a wisgwyd gan John 1, John 11 a Love Pritchard rhwng 1820 a 1925. Un gair – Gwych !

No comments:

Post a Comment