Wednesday 31 October 2012

Eglwys Clynnog Herald Gymraeg 24 Hydref 2012






Bydd gwrandawyr cyson Taro’r Post ar BBC Radio Cymru wedi clywed y drafodaeth ddiddorol (16.10.12) am Bont Briwet rhwng Llandecwyn a Phenrhyndeudraeth a’r penderfyniad bellach i ddymchwel y bont hynafol Rhestredig Grad II ym 2013. Er fod y penderfyniad i ddymchwel y bont wedi ei hen gytuno, felly doedd dim am newid o drafod y peth, yr hyn a amlygwyd yn ystod y rhaglen efallai yw beth yw gwerth adeiladau hynafol a henebion. Bu cryn drafod ar beth yn union sydd “werth ei gadw”, a beth yw eu gwerth o ran treftadaeth, Hanes Cymru ac ymwybyddiaeth o Le.

                Un safle yn sicr, sydd ddim o dan fygythiad o ran ei ddymchwel, ond sydd yn wynebu yr her arferol o gostau cynnal a chadw yw Eglwys Clynnog. Rwyf wedi ymweld ar Eglwys hon sawl gwaith yn ddiweddar, yn bennaf er mwyn “dysgu” hanes yr Eglwys. Mae cymaint o nodweddion diddorol yma fel fy mod wedi gallu ymweld ddwywaith, dair yn y mis dwetha wrth basio, bob tro yn treulio awr yn astudio rhywbeth gwahanol, y misericordiau neu’r sgrin rhwng y gangell a chorff yr Eglwys  neu’r wahanol gerrig sydd a chysylltiad honedig a Beuno Sant.

                Cofiaf fy nhad yn son ei fod wedi astudio Eglwys Clynnog tra’n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Nantlle yn astudio darlunio technegol a hyd heddiw dyma’r peth cyntaf fydd yn mynd drwy’n meddwl wrth gerdded heibio y ffenestr ddwyreiniol wrth droedio’r llwybr tuag at ddrws yr Eglwys. Dyma engraifft gwych o bensaerniaeth “perpendiciwlar”, un o’r nodweddion amlwg Gothig.

                Dychwelais wythnos yn ol gyda criw Heneiddio’n Dda, Nefyn. Rydym yn cyfarfod bob pnawn Llun yn y Ganolfan Nefyn dan ofal Mici Plwm a’r bwriad yw astudio dipyn o Hanes Lleol a chael ychydig o ymarfer corff (awyr iach) yn y broses. Pa well lle na Eglwys Clynnog ac o ystyried ein tywydd oriog ar y naw, roedd Clynnog yn cynnig lloches os bydd y tywydd yn ddrwg a hefyd tywydd yn caniatau mae carreg fedd Eben Fardd yn y fynwent a hefyd y cloc haul hynafod 10-12fed Ganrif.

                Bu’m ar y ffon ddipyn o flaen llaw i sicrhau y bydd goriad Capel Beuno ar gael hefyd, achos mae cael mynediad i’r capel yma yn un o uchafbwyntiau ymweliad a’r Eglwys. Diolch i’r drefn (Natur) roedd hi’n bnawn sych hyfryd o Hydref Dydd Llun dwetha ac wrth aros ger yr Eglwys am y bws mini i gyrraedd o Nefyn bell dyma gyfarfod Richard, cyn warden yr Eglwys, roedd goriad y capel ganddo. Y fantais fel dwi di son sawl gwaitho’r blaen o gael tywysydd lleol yw ein bod siwr o gael mwy o hanesion, felly wrth gyfarch Richard dyma gadarnhau ei fod yn hapus i’n harwain o amgylch yr Eglwys.

                Eglurais fod rhaid i mi sicrhau fod y grwp yn sylwi ar Fedd Eben Fardd a’r Cloc Haul hynafol achos heb yn wybod iddynt, dyma fydd eu gwaith dosbarth yr wythnos ganlynol, bydd sesiwn ar y We yn gwneud gwaith ymchwil yn cael ei drefnu iddynt. Eben Fardd wrthgwrs oedd yr Ysgolfeistr yma yng Nghlynnog a mae ei Gartref, Ty Cybi gyferbyn a’r Eglwys. Capel Beuno oedd ei ystafell ddosbarth.

                Mae’r cloc haul yn heneb o bwys Cenedlaethol, yn dyddio o’r 10-12fed Ganrif ac o’r arddull Gwyddelig, sef y garreg a’r cloc yn sefyll yn rhydd lle roedd y clociau Sacsonaidd wedi eu cynnwys yn y wal. Er fod y cloc ei hyn wedi ei rannu i 3 awr mewn pedair braich, yr amserlen Sacsonaidd, mae cwestiwn amlwg yn codi yma os oedd hwn yn perthyn i gyfnod Gruffydd ap Cynan a hwnnw o dras Wyddelig / Llychlynaidd a wedi treulio rhan helaeth o’i ieuenctyd yn alltud yn Iwerddon ?

                Wrth i mi orffen gyda fy “archaeoleg” ger y cloc haul dyma Richard yn ychwanegu stori na wyddwn amdani. Lle roedd bys y cloc mae twll bellach ac yn ol y son mae traddodiad fod rhai sydd wedi beichiogi ond heb eto briodi yn gallu “priodi” drwy gyffwrdd bysedd drwy’r twll, a fod hyn wedyn yn gwneud yn iawn am eu pechodau nes fod rhywun yn dod o hyd i weinidog sydd yn barod i’w priodi (cyn y babi gyrraedd wrthgwrs !). Stori wych, eto diolch am y tywysydd lleol ynde !

                Stori arall nad oeddwn yn gyfarwydd a hi oedd cysylltiad Maria Stella a’r Eglwys. Maria druan oedd ail wraig Thomas Wynn Argwlyddd Niwbwrch cyntaf. Mae stori Maria Stella yn ei hyn yn haeddu ffilm ar S4C a’i honiad lliwgar ei bod yn ferch i Frenin Ffrainc. Wrth reswm mae’r stori yn gorffen yn Mharis ym 1843 gyda marwolaeth Maria yn dlawd (a fawr o neb yn ei choelio), ond rhan arall o’r stori oedd yn newydd i mi oedd diddordeb Maria mewn “archaeoleg”.

                Efallai nad oedd ei diddordeb yn dechnegol yn “archaeoleg” fel rydym yn adnabod y maes heddiw ond bu i Maria berswadio ei gwr i gloddio ar safle “Cell Beuno” i chwilota am esgyrn a bedd Beuno Sant. Beth bynnag yw cysylltiad Beuno a Chlynnog, y tebygrwydd yw mae Cell syml o fangor fydda yma yn wreiddiol a fod unrhyw adeilad o garreg yn llawer diweddarach. Felly mae’r siawns o ddod o hyd i fedd Beuno Sant yn fechan iawn os nad yn hollol hollol anhebygol.

                Cofiwch, mae Eglwys Pistyll hefyd yn honni mae yno bu i Beuno gael ei gladdu, fel Brenin Arthur a Glyndwr, mae pawb am hawlio darn o’r hanes. Ond i ddychwelyd at Maria a theulu Glynllifon, mae fy niddordeb yn y wriag ecsentrig yma wedi cynyddu’n aruthrol ar ol darganfod y ffaith yma. Tu fewn i brif gorff yr eglwys, yn y gangell gwelir y misericordiau, sef y seddau hynafol iawn, yn dyddio o’r Unfed Ganrif ar Bymtheg. Ar ochr y rhes o seddau mae arwydd Teulu Glynllifon, yr Eryr gyda dau ben wedi ei gerfio ar y pren.

                Efallai o ddarllen hwn mae rhwyun yn dechrau gweld sut mae’r amser yn hedfan yn Eglwys Clynnog. Prin mae rhywun wedi dechrau gyda’r storiau a mae’r amser ar ben. Rhaid dangos Cyff Beuno a’r hen tongs i ddal cwn a wedyn mae Mici yn ei ol gyda’r bws mini. Amser dychwelyd i Nefyn a dwi’n ffarwelio a’r criw. Byddaf yn ol eto yn Eglwys Clynnog am awr arall y tro nesaf caf gyfle. Mae llawer mwy o hanes yno i’w astudio ………….

No comments:

Post a Comment