Wednesday 24 October 2012

Merched y Wawr Talsarnau Herald Gymraeg 17 Hydref 2012


 
Cefais noson fendigedig yn ddiweddar yng nghwmni dwy gangen o Merched y Wawr, cangen Talsarnau a changen Penrhyndeudraeth. Roedd cryn drafodaeth wedi bod o flaen llaw ynglyn a chynnwys fy sgwrs, fel arfer byddaf yn dewis rhywbeth sydd yn ymwneud ac Archaeoleg ond doedd hyn ddim i weld yn apelio ac wrthgwrs doedd trafod ‘Teithio Ewrop gyda’r Anhrefn rhwng 1988 a 1994’ ddim yn ail ddewis medrwn ei gynnig.

                Ar ol hir drafodaethau dros y ffon dyma gytuno ar ‘Sgwennu Colofnau’ (awgrym Cangen Talsarnau) a wyddoch chi beth, dyna syniad bach da, rhywbeth mor syml a hynny, a rhywbeth rwyf yn dreulio nifer o oriau yn wythnosol yn ei wneud. Felly y cam cyntaf oedd ceisio rhoi trefn ar hyn i gyd, bydd angen sgwrsio am oddeutu awr, bydd angen i’r sgwrs fod yn ddiddorol ac yn hwyliog a bydd angen digon o luniau.

                Efallai fod cefndir a chyd-destun yn lle da i gychwyn, felly rwyf yn mynd a nhw yn ol i Lanfair Caereinion ac yn ceisio esbonio sut bu i mi ddechrau sgwennu ac yn fwy pwysig efallai, mynegi barn. Yn ei hunangofiant mae Sian James yn crisialu hyn cystal a neb  aeth Rhys wedyn drwy ei gyfnod blin….. yn herian pawb a phopeth, a fedrwn i yn fy myw a chysoni’r person annwyl, afiethus y bu’m yn ffrindie efo fo dros y blynyddoedd ar pync ifanc cecrus oedd mor uchel ei gloch ar y teledu a’r radio !”

Un o’r pethau hanfodol yn fy hanes i wrthgwrs oedd dylanwad Punk Rock a’r Sex Pistols ond fod hynny wedyn wedi troi yn awydd, yn angerdd ac yn genhadaeth i greu y pethau yma yn y Gymraeg, nid fel efelychiadau eil-dwym ond fel cerbyd i fynegiant hollol Gymraeg a Chymreig oedd heb fodoli cyn hynny. Do cafwyd hwyl yn esbonio hyn, roedd pawb wedi adnabod llun “Johnny Rotten” a tybiaf mae dyma’r tro cyntaf erioed i lun o’r Sex Pistols gael ei ddangos mewn sgwrs i Merched y Wawr.

Ond doedd dim oedi ar y cyd-destyn Seisnig i fod, doedd dim angen, cefndir yn unig oedd hyn i esbonio sut cafwyd chwyldro diwylliannol yn y Byd Pop (a sgwennu) Cymraeg yn ystod yr 80au, yr hyn fedyddwyd yn “Sin Danddaearol” a sydd hyd heddiw yn gyfrifol am greu rhai o feirdd mwyaf beiddgar Cymru, David R Edwards, Mark Cyrff a Gruff Rhys – beirdd wrthreswm sydd heb eu hurddo a mawr yw fy ngobaith na fydd “urdd” yn dod iddynt chwaith achos fe fydda hynny yr arwydd mwyaf o fethiant llwyr.

Do fe dreuliwyd dipyn ar gyfnod colofn Y Faner (1984-85). Roedd yn amlwg faint o barch oedd i’r golygydd Emyr Price yn yr ystafell ac esbonias fel y cefais ryddid anhygoel gan Emyr i ymosod yn fisol ar y “Byd Cymraeg”. Cyd-destyn hyn esboniais oedd cylchgronnau fel The Face a colofnwyr miniog eu teipiadur fel Julie Burchill a Jon Savage. Roedd pawb yn dilyn, neb yn pendwmpian a finnau yn fewnol yn gweddio fod neb yn dweud “dyna ddigon Mr Mwyn”.

Roedd angen y cyd-destyn yma er mwyn i’r stori wneud synnwyr ond gwybio heibio Burchill a Savage oeddwn i, dim ond egluro fod fy arddull i pryd hynny yn deillio o ddylanwad y cymeriadau tanllyd yma. Roedd colofnau’r Faner yn perthyn i’w hamser wrthgwrs. Parod iawn oeddwn i gydnabod gwendid a diniweidrwydd y colofnau ond o ran neges roeddwn hefyd yn glir – “dwi’n dal i gredu yr un peth, does dim wedi newid yn hynny o beth”.

Un peth a’m trawodd wrth sgwrsio yw mor brin yw’r cyfleoedd bellach i drafod diwylliant Cymraeg ar y Cyfryngau. Nid fy ngholofn yn yr Herald yw’r lle gan fod llais unfrydol yn galw am golofnau am Hanes Cymru ac heblaw am ambell i gyfraniad i Barn, prin iawn yw fy sylwadau diwylliannol y dyddie yma. Cofiwch mae elfen amheus ynddof fod y Cyfryngau ddigon hapus hefo hyn – “mae Mwyn yn Archaeolegydd bellach felly does dim ei angen i drafod Canu Pop”. Rwyf rhwng dau le, yn hapusach yn y Byd Hanes heb os, ond heb ymddeol yn llwyr o’r Byd Pop chwaith.

Er fod Archaeoleg fel prif destyn y sgwrs wedi ei wrthod, dyma gyrraedd colofnau’r Herald a dyma ni yn ol ar dir cyfarwydd i bawb. Defnyddiais engreifftiau diweddar o luniau dynnais ar gyfer y golofn bob trydedd wythnos, sef y rhai gyda llun,  er mwyn son am y broses o sgwennu a hefyd i gael symud y sgwrs tuag at beddrod anhygoel Bryn Cader Faner, cromlechi hynafol iawn Neolithig Dyffryn Ardudwy, y dosbarth Archaeoleg sydd gennyf yn Y Las Ynys Fawr, ie braf oedd cael dychwelyd i’r tir cyfarwydd ac esgus i ddangos lluniau o wynebau cyfarwydd i’r merched.

Rwy’n cyfaddef i mi dynnu coes ychydig ar trydar o flaen llaw, “sut mae esbonio Julie Burchill i Merched y Wawr ?” ond mewn gwirionedd roedd pawb yn hapus i dderbyn y cyd-destyn, y storiau a’r hwyl wedi’r cwbl oedd yn cynnal y noson. Cefais gyfle i greu darlith fydd yn ddefnyddiol eto yn y dyfodol, ac wrth deithio adre o Dalsarnau dros Bont Briwet ac Afon Dwyryd islaw, dyma ddiolch yn fewnol i Merched y Wawr am eu gwahoddiad, eu croeso cynnes, eu parodrwydd i wrando, y banad a sgwrs wedyn – roedd hon wedi bod yn noson fendigedig.

Beth bynnag oedd fy nghyfraniad i ac eraill i’r Byd Pop Cymraeg yn y cyfnod “Tanddaearol” does byth wahoddiad o Brifysgol na Choleg i drafod y cyfnod yma, sydd yn fy synnu rhywsut na fyddai Hanes Diwylliant Cyfoes Cymraeg yn cael ei drin a’i drafod yn Academaidd bellach. Ond o ystyried y croeso a’r derbyniad yn Nhalsarnau dwi ddim am golli gormod o gwsg am hynny. Edrychaf ymlaen at y noson nesaf yng nghwmni Merched y Wawr !

No comments:

Post a Comment