Thursday 1 November 2012

Oriel Ynys Mon Herald Gymraeg 31 Hydref 2012


 
“Pwy ydym ni ?” dyma oedd testun sgwrs Ken Brassil o’r Amgueddfa Genedlaethol yn Oriel Ynys Mon wythnos yn ol fel rhan o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig ac Arddangosfa Llyn Cerrig Bach. Dwi’n cymeryd mae’r “ni” yw y ni fel Cymry, hynny yw pwy ydym ni fel Cymry ? Diddorol. Rhaid bod yno. A hefyd, mae Ken a finnau yn hen ffrindiau, bu’r ddau ohonnom ochr wrth ochr yn cloddio (archaeolegol) ar y safle Rhufeinig yng Nghaersws yn ol yn yr 80au – profiad sydd wedi ein clymu mewn brawdgarwch byth ers hynny. Felly doedd peidio mynd ddim yn opsiwn.

                Neithiwr, cyn sgwennu’r golofn yma rwyf yn gwylio rhaglen ar BBC4 yn hwyr, hwyr iawn y nos, llawer rhyw hwyr, ond …….. Mae’r rhaglen am yr artist Marina Abramovic a’i gwaith diweddar yn y MOMA yn Efrog newydd lle mae hi wedi treulio wythnosau yn eistedd yn ei hunfan tu cefn i fwrdd yn cyfarfod a’r cyhoedd (yr ymwelwwyr i’r MOMA) a hynny heb ddweud gair. Celf Modern, Celf Cysyniadol, heriol, rhyfeddol, emosiynol hyd yn oed i rhaio’r ymwelwyr – ond yn sicr – diddorol.

                Yn gynharach yr un diwrnod roedd Andrew Marr ar ei raglen rhagorol fore Llun ar BBC Radio 4 hefyd wedi crybwyll Marina Abramovic mewn sgwrs ehangach am sawl agwedd o’r Byd Celf o gelf- modern i weithiau cerddorol clasurol llai amlwg gan drafod adwaith y cyhoedd i’r profiadau. Lle mae’r Andrew Marr Cymraeg gofynais yn syn ? Y dyddiau yma rwyf yn awchu am fwy o sylwedd yn y Gymraeg, yn enwedig gan y Cyfryngau Cymraeg.

                Mae na amser ers mi fod yn Efrog Newydd, 2006 dwi’n credu oedd hi ddwetha ar daith hefo’r canwr Jeb Loy Nichols ac am ychydig dyma ddechrau hiraethu, hiraethu am oriel o’r fath,neu ddiffyg oriel o’r fath yng Nghymru,  am y cyfleoedd, am y bobl ddiddorol celfyddydol, am y bobl radical ac arbrofol, popeth da ni ddim yng Nghymru. Anghywir wrthgwrs a ddaru hyn ddim para ond ychydig eiliadau !

                Wedi’r cwbl, mae celf modern yn cael ei arddangos yn lleol yma yng Ngogledd Cymru yn Oriel hyfryd Mostyn, a bydd rhaid i mi fynychu Mostyn cyn bo hir i adolygu un o’r sioeau ar gyfer y golofn hon. A mae gennyn hefyd yr unigriw Oriel Ynys Mon, efallai ddim mor amlwg am gelf modern ond yn hytrach am eu Kyffin, Tunnicliffe a’r chwiorydd Massey.

                Yr unig wahaniaeth mae’n debyg rhwng cynulleidfa Marina Abramovic a chynulleidfa Ken Brassil yn Oriel Ynys Mon, yw fod cynulleidfa Ken yn gwisgo llai o ddu, yn llai amlwg “celfyddydol” a dydi Ken druan ddim yn mynd i orfod eistedd yma am dri mis wrth reswm. Ond fel arall mae gennym gynulleidfa barod i gael eu herio, agored i syniadau a damcaniaethau newydd ac hefyd o ystyried fod hon yn ddarlith drwy gyfrwng y Gymraeg bron i hanner yn defnyddio’r offer cyfieithu..

                Dyna un o’r pethau da sydd yn taro rhywun yn syth am y noson hon,mae hi yn “Noson Gymraeg” ond yn noson sydd yn croesawu’r di-Gymraeg – mae yna wers i ni gyd yn fan hyn ! Hefyd yr ail beth amlwg ym moethusrwydd Oriel Ynys Mon, fe all hwn fod yn oriel yn Tribecca neu pentref Chelsea yn “downtown” Efrog Newydd – oes mae gennym adnoddau gwych yma yng Ngogledd Cymru. Ein hagwedd efallai sydd angen ei symud ymlaen. Be dwi’n drio ddweud yn syml yw anghofiwch Efrog Newydd –mae Oriel Ynys Mon llawer mwy “cwl”

                A dyna yn union mae Brassil yn ei wneud, mae o yn symud yr agenda yn ei flaen, ar garlam, mae’n mynd a ni ar siwrne, gwybdaith heriol ac ofnadwy o ddoniol ar adegau. Rwyf wedi adolygu’r noson yn y Saesneg yn barod ar gyfer Blog ar y We “The Thoughts of Chairman Mwyn”  a dwi di disgrifio bwrlwm Ken fel y “rhyngrhywyd byd-eang ken” sydd yn rhoi argraff i chi, roedd ei ddarlith fel syrffio ar y rhyngrwyd, yn taflu gwybodaeth fel conffeti mewn priodas, doedd dim posib dal bob dim ond roedd yn ein hysbrydoli, yn ein haddysgu ac yn ein gwneud ni chwerthin.

                Dechreuodd y ddarlith gyda cwestiwn, cwestiwn da iawn, beth yw pwrpas yr Amgueddfa ? Beth rydym yn ei ddisgwyl o’r Amgueddfa heddiw yn yr oes sydd ohonni.  Rhywsut wedyn rydym yn edrych ar lun gan Salvador Dali o ferch noeth yn gorwedd ar rhywbeth sydd  yn debyg iawn i fap o Gymru. Oes, mae rhywun yn y gynulleidfa wedi adnabod Penrhyn Gwyr. Dyna chi Gaerdydd, Sir Benfro, Bae Ceredigion ac Ynys Enlli. Rydym hyd yn oed yn “dychmygu” fod Ynys Manaw allan yn y mor i’r gorllewin. A’r ferch noeth ? Hi yw Mon, Mam Cymru yn gorwedd yn awgrymog lle ddylia Ynys Mon fod ar y “map” dychmygol yma.

                Wedyn rydym wedi cyrraedd Ogof Cefn Meiriadog, Charles Darwin ac Adam Sedgwick a’r dant rheinosoraidd. Does dim dyfalu lle bydd Brassil yn glanio nesa. Dwi wedi colli unrhyw synnwyr os ydi’r testun o Pwy Yden Ni ? yn gwned  unrhyw synnwyr bellach ond does neb arall i weld yn poeni chwaith. Dyma ddarlith all yn hawdd iawn fod wedi ei chynnal yn y MOMA. Dyma wneud archaeoleg a’r Byd Amgueddfaol yn hollol bethnasol – i bawb, gan gynnwys y di-Gymraeg.

                Dyma’r agosaf dwi rioed di glywed i ddarlith all rhywun ddisgrifio fel un seico-ddaearyddol neu seico-hanesyddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Lle mae’r awen yn rhydd, y brwdfrydedd yn teyrnasu a’r rheolau wedi eu taflu drwy bob un ffenestr agored yn Oriel Ynys Mon. Yn syml iawn, wfft i orielau Efrog Newydd fe gafwyd darlith gofiadwy iawn ar ein stepan drws  a fe hysbrydolwyd y gynulleidfa – dyna’r nod bob tro !

No comments:

Post a Comment