Sunday 16 December 2012

Blogio Herald Gymraeg 12 Rhagfyr 2012


 

I chwi ddarllenodd fy ngholofn yr wythnos dwetha (5 Rhagfyr) bydd y rhai craff wedi sylwi ar gangymeriad wrth i mi son am Elihu Yale a’i deulu yn mudo i America oherwydd diffyg goddefgarwch tuag at y Piwritaniaid yn ystod teyrnasiaeth Siarl 1af, dyna sydd yn gwneud synnwyr wrthgwrs, ond roedd y golofn yn darllen fel “diffyg goddefgarwch y Piwritaniaid” sydd yn gwneud dim synnwyr o gwbl wrth reswm.

Roedd Yale hefyd yn byw yn Sgwar y Frenhines,  Llundain a dwi’n credu i hynny ymddangos fel “Lloegr” sydd yn bell o fod yn ddaearyddol fanwl, ac yn hollol anfwriadol ar fy rhan i. Felly dyna’r cangymeriadau wedi eu cywiro a dyma symud ymlaen i daflu ychydig o sylwadau ar hyd y lle yr wythnos hon. Y peth cyntaf a’m tarodd yr wythnos yma oedd sut mae’r Cyfryngau Cymraeg ar adegau yn gallu (yn fwriadol neu yn anfwriadol) defnyddio geiriau neu bwyslais sydd wedyn yn lliwio stori mewn ffordd arbennig.

Un engraifft oedd Cylchgrawn Golwg yn son am benodi Cyfarwyddwyr newydd i’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig, dim o’i le yn hynny ond eu bod wedi son am y corff fel “cwango”. Rwan bydd yr holl ymgyrchwyr Iaith yn cofio ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith yn erbyn y cwangos. Rwyf yn digwydd bod yn aelod o fwrdd y corff yma (datgan diddordeb), sydd, mae’n wir, yn cael ei arianu gan y Cynulliad, ond corff sydd yn rhoi cymorth a chefnogaeth i’r Diwydiant Cerddoriaeth Cymreig yw’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig – nid rhyw fwrdd an-etholedig neu an-nemocrataidd. Cefais fy ethol i’r Bwrdd rhai blynyddoedd yn ol gan y rhanddeiliaid mewn etholiad agored a theg.

Gawn ni ddadlau am “cwango” felly. Y pwynt yw, mae’r Sefydliad yn gwenud gwaith da. Y flwyddyn nesa, 2013 bydd yr wyl rhyngwladol Womex yn ymweld a Chaerdydd – a hynny yn bennaf diolch i waith nifer ar Fwrdd y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig.

Wedyn mae cryn sylw wedi bod i’r corff casglu breindaliadau newydd ‘EOS’ ond y pwyslias y tro yma am yr 20,000 o ganeuon fydd efallai ddim yn cael eu chwarae ar Radio Cymru onibai bod y BBC ac EOS yn dod i gytundeb. Neb yn son fod yr egwyddor o ddatganoli hawliau deallusol a hawliau breindaliadau yn rhywbeth ddylid fod ar yr agenda Cymreig. Rwyf wedi dweud sawl gwaith nad oedd unrhyw A.C wedi gweld hyn cyn i’r Diwydiant Cerddoriaeth godi llais.

Cwestiwn felly – ydi hi yn iawn yn y Gymru ddatganoledig, ym 2012 fod hawliau cyfansoddi caneuon Cymraeg i fod i aros hefo corff y PRS (Performing Rights Society)  yn Llundain ? Onid yw hi’n hen bryd fod hawliau cyfansoddwyr Cymraeg yn cael eu cadw yng Nghymru ? Fel arall rydym yn derbyn y ffaith ei bod yn amhosib datganoli agweddau o ddiwylliant poblogaidd Cymraeg o gyrff yn Llundain ?

Y dyddiau yma rwyf yn ceisio cyhoeddi cymaint ac y medraf o fy ngwaith sgwennu ar y safle blog “Thoughts of Chairman Mwyn”. Hen joc gan y cyfarwyddwr ffilm, Wil Aaron oedd “Thoughts of Chairman Mwyn”, rhyw dynnu coes yn sgil damcaniaethau cadeirydd arall, sef Mao, a rhywsut mae’r disgrifiad wedi goroesi. Byddaf yn sgwennu ychydig yn Saesneg am y diwylliant pop Cymraeg a rhannu hyn hefyd ar safle we link2wales sydd yn cael ei olygu gan Neil Crud. Dwi ddim yn credu fod y darllenwyr ifanc wedi arfer hefo sgwennu “heriol” a diddorol yw darllen eu sylwadau wedyn ar Trydar.

Ar y cyfan byddaf yn chwerthin ond weithiau byddaf yn ateb yn ol drwy drydar, “Burchill, Parsons, Savage a Morley” sef y colofnwyr hynny oedd yn cyfrannu colofnau “dadleuol” wythnosol i’r Face yn yr 80au. Dwi’n dal i ddweud, y pedwr yma ysbrydolodd mi i sgwennu yn Gymraeg nid T.Llew Jones a nid Kate Roberts (yn anffodus neu ffodus).

                Diddorol iawn hefo’r busnas Blogio ’ma yw fod rhywun yn gallu gweld faint sydd wedi darllen y colofnau neu’r darnau. Yn achos un golofn, rhyw fath o arall eiriad Saesneg o golofn yr Herald 31 Hydref, sef y golofn yn trafod darlith Ken Brassil o’r Amgueddfa Genedlaethol yn Oriel Ynys Mon mae’r dudalen yn dangos fod 136 o bobl wedi ymweld a’r dudalen benodol honno. Y gobaith yw fod y rhan fwyaf wedi aros a darllen.

                Rwan da ni ddim yn son am filoedd yn fan hyn, wedi’r cwbl, dyma’r Byd Cymreig, ond mae pob un cwsmer neu ddarllenydd yn cyfrif, mae pob ymwelydd i’r Blog yn bwysig – fel byddaf yn dweud bob tro, ein gwaith ni yw cyfathrebu – nid cyfri’r niferoedd – ond wrth reswm gorau oll os oes mwy yn darganfod y blog a mwy yn darllen.

                Gair ddigon diflas yw “dadleuol”. Gwell gennyf son am fynegi barn, a hynny sydd mor bwysig yn y Byd Cymraeg a Chymreig, yn y “Gymru Fach” – sef ein bod yn barod i drin a thrafod ac yn barod i fynegi barn. Rhywbeth arall gynhyrfodd y dyfroedd Trydarati Cymraeg oedd son am fy hoffter o raglen Andrew Marr ar BBC Radio 4 bob bore LLun a’r diffyg rhaglen tebyg yn y Gymraeg ar y radio. Y gair rwyf yn drydar yw “Sylwedd” mae angen “Sylwedd”.

No comments:

Post a Comment