Wednesday 9 January 2013

Eglwys Sant Brothen, Herald Gymraeg 9 Ionawr 2013



Dyma ni ar drywydd Lloyd George unwaith eto, roeddwn yn gyfarwydd a hanes achos Robert Roberts, dyma’r achos wnaeth ddod a Lloyd George i’r amlwg, ond doeddwn rioed di bod i Eglwys Llanfrothen.

Rwyf yn gyfarwydd iawn a’r Ring, Llanfrothen, un o’r tafarndai gorau yng Nghymru ac yn sicr un o’r Cymreiciaf, hyd yn oed yng nghanol Haf yn byrlymu ac ymwelwyr.  Rwyf yn gyfarwydd a’r Siop a’r Caffi yng nghanol y pentref, ymdrech fendigedig i gadw’r gymuned a’r economi leol yn fyw ond petae rhywun wedi gofyn i mi am gyfarwyddiadau i’r Eglwys dwi ddim yn siwr iawn i pa gyfeiriad byddwn wedi chwifio fy mraich.

Dyma edrych ar y map O.S a phenderfynu fod rhaid mynd allan o Lanfrothen i gyfeiriad Rhyd ond hyd yn oed wedyn doedd fawr o hwyl ar gael  hyd i’r Eglwys. Doedd dim i’w weld o’r ffordd. Roedd y troead milain i’r Dde yn bosib ond doeddwn ddim yn siwr. Dychwelais i Lanfrothen a phenderfynu gofyn i rhywyn, wfft i’r map, dwi angen rhwyun sydd yn gwybod !

Roeddwn yn berffaith iawn y tro cyntaf, (doedd y map ddim yn ddrwg i gyd felly) roedd rhaid troi i’r dde ar y gyffordd hegar hynny rhyw hanner milltir allan o Lanfrothen i gyfeiriad Rhyd a chefais gyngor da iawn gan wr lleol  i adael y car cyn cyrraedd y tai ger yr Eglwys. Nid hawdd yw gwybod weithiau beth ddylid ei gynnwys mewn colofn fel hon, hawdd pechu, hawdd rhoi eich troed ynddi ond eto rhaid rhywsut son am y blerwch tu allan i’r tai ar y ffordd at yr Eglwys.

Rwyf ar ganol darllen llyfr Simon Armitage ‘Walking Home’  am ei daith gerdded ar hyd Llwyr Pennine ac ar dudalen 167 mae Armitage yn cyfeirio  “I’ve also been making a mental note of places that are truly ugly, and somewhere in the next valley I see my least favourite house so far”. Felly mae eraill o fy malen wedi son am flerwch, achos rhaid cerdded llwybr gwlyb iawn rhwng dau dy i gyrraedd llidiart yr Eglwys ac yn wir dyma flerwch anhygoel, sbwriel a hen gelfi ym mhob man, pethau yn gorlifo allan o bob adeilad – bron bydda rhywun yn dweud fod hyn yn fygythiol, yn sicr dydi’r fath flerwch ddim yn estyn croeso.

Er fod  cwn yn cyfarth wrth i ni dreodio’r llwybr, does dim byd bygythiol amdanynt a dyma gyrraedd Eglwys Sant Brothen yn ddiogel ac yn ddi-drafferth. Mae arwydd llwybr cyhoeddus rhwng y ddau dy. Deallais fod gwasanaeth newydd fod yn yr Eglwys dros y Dolig ond heddiw fel y disgwyl roedd yr Eglwys ar gau. Roeddwn a diddordeb mawr gweld y tair ffenestr “lancet” ar wal ddwyreiniol yr Eglwys a dyma dynnu llun.

Hefyd o ddiddordeb mae’r ddwy gloch uwch y wal orllewinol. Rhyfedd oedd gweld y rhaff y clychau yn chwifio yn y gwynt ar ochr ogleddol yr Eglwys a rhaid oedd perswadio’r hogia bach (a fi fy hyn) i beidio tynnu arni - a chanu clychau Sant Brothen yn falch ac yn uchel. Ond prif reswm dros ein hymweliad, er fod yr Eglwys ei hyn o ddiddordeb, oedd canfod carreg fedd Robert Roberts.

Doedd ganddom ddim syniad ble roedd y bedd. Y penllinyn oedd fod Roberts wedi ei gladdu drws nesa i fedd ei ferch a fod Roberts wedi marw ym Mis Ebrill 1888. Y penllinyn arall, defnyddiol iawn, oedd cyfeiriad Ffion Hague yn ’The Pain and the Privilege, The Women in Lloyd George’s Life’  fod y garreg fedd yn yr estyniad i’r fynwent, rhodd yn wreiddiol i’r Eglwys gan rhyw Mr a Mrs Owen.

Felly dyma edrych yn fras am yr “estyniad”, dim byd hollol amlwg i’w weld,  ond mae’n rhaid mae’r darn o dir i’r de o’r fynwent yw hwn. Dyma ddechrau fel bob tro mewn mynwent o gerdded yn systematig  ar hyd y rhesi ac yn wir dyma dddod o hyd i fedd gyda’r enw Robert Roberts arno ond plenty oedd hwn, nid y gwr dan sylw.

O’r diwedd Nest y wraig sydd yn darganfod y garreg, ac yn wir drws nesa dyma garreg fedd  Kate Roberts annwyl ferch Mr Roberts a Gwen Roberts, mae’n rhaid mae hwn yw’r lle iawn felly. Yr hanes wrthgwrs yw fod Robert Roberts eisiau cael  ei gladdu yn y fynwent ger bedd ei annwyl ferch. Yn dilyn Mesur George Osborne Morgan A.S ym 1880 cafwyd caniatad i anghydffurfwyr gael eu claddu ym mynwentydd plwyf heb orfod cael eu claddu drwy ddefod Anglicanaidd.

Er hyn, dyn ceidawadol ar y naw oedd Ficar Llanfrothen, Richard Jones a doedd ru’n Mesur yn mynd i newid ei feddwl felly dyma roi clo ar y giat i’w rhywystro rhag claddu Robert Roberts. Wrth i deulu Roberts droi at y cyfreithiwr lleol Lloyd George am gyngor fe awgrymodd Lloyd George fod y teulu a pherffaith hawl i gladdu Roberts yno, heb sel bendith Richard Jones, felly dyma dorri clo y giat a’i gladdu. Mae’r clo a dorwyd i’w weld hyd heddiw yn Amgueddfa Lloyd Goeoge yn Llanystumdwy

Dyma ddilyn yr achos LLys enwog ym Mhorthmadog gyda Lloyd George yn cynrhychioli teulu Roberts ac er i’r Barnwr gwreiddiol ochri gyda Jones fe newidwyd eu dyfarniad gan yr Uchel Lys erbyn Rhagfyr 1888. Cafwyd sylw yn y Wasg am yr achos ac heb os hyn arweinodd at enwebu a dewis Lloyd George fel darpar Aelod Seneddol ar ran y Rhyddfrydwyr dros Fwrdeisterf Caernarfon ychydig yn ddiweddarach. Darn bach o hanes felly …………

Anodd gwybod beth yn union  i’w wneud yma. A ddyliwn ddatgelu union leoliad y bedd neu ydi hi fwy o hwyl i ddarllenwyr yr Herald Gymraeg fynd am dro i Lanfrothen a darganfod y bedd dros eu hunnan ? Efallai mae gadael hi felly y gwnaf am y tro. Os yw rhywun wirioneddol eisiau neu angen y lleoliad, digon hawdd ebostio’r Herald.

 

No comments:

Post a Comment