Wednesday 23 January 2013

EOS etc Herald Gymraeg 23 Ionawr 2013.


 

Rwyf yn cael pleser wythnosol o sgwennu’r golofn hon, rwyf yn cael pleser o gyfarfod chi y darllenwyr a chael adborth a sgwrs. Rwyf yn mwynhau cael awgrymu lleoliadau hynafol a diddorol i ymweld a nhw a rwyf wrth fy modd yn dysgu rhywbeth newydd wrth wneud gwaith ymchwil ac ymweld a safloedd ar gyfer y golofn.

                Mae’n debyg y gallwn wneud hyn am weddill fy oes heb unrhyw drafferth cael hyd i rhyw heneb neu safle newydd i ni ymweld ac e; does dim prinder safloedd a does dim prinder storiau a hanes a chorneli o Gymru sydd yn ddiethr i mi. Ar y llaw arall, rwyf wedi treulio rhan helaeth o fy mywyd (dros tri deg mlynedd)  yn “brwydro” i ddatblygu, cyfoesi, hyrwyddo a chenhadu y pethe diwylliannol yma sydd ar yr ymylon, y “busnas pop Cymraeg amgen” ’ma, a wyddo’chi beth, weithiau (yn anffodus) mae yna gyfrifoldeb i fynegi barn am “y pethe” (amgen).

                Dwi ddim yn cael pleser o wneud hyn. Brwydr ddiflas ydi hi. Brwydr lle rwyf yn teimlo fel hen ddyn syrffedus o ail-adroddus. Dyn blin fengach na Gwilym Owen. Pync Rocar sydd yn methu derbyn bod 1977 drosodd, mwy ymylol na fuais i erioed, hen geffyl ras allan yn pori, hen furddyn heb do, y mwsogl yn drwch, ymgyrchydd heb fatri i’w megaffon a heb gyfrwng (i bob pwrpas)….. lle od i fod. Dwi ddim yn gyfforddus nac yn anghyfforddus – jest allan o le, allan o amser, allan o unrhyw gynefin. Cofiwch ella fod hyn yn beth da.

                Felly y ddadl yma fod “streic EOS” rhywsut yn effeithio ar y gerddoriaeth sydd ar Radio Cymru. Wel ydi, mewn fordd ddiddorol iawn mae’r streic wedi gorfodi BBC Radio Cymru i chwarae stwff saff, canol y ffordd, hen ffasiwn gwahanol i’r chwech neu ddwsin o artistiaid canol y ffordd roedd Radio Cymru yn arfer ei chwarae hyd syrffed yn ystod y dydd. Fe all rhywun ddisgrifio hyn fel “newid”, newid un math o “ganol y ffordd” am “ganol y ffordd” arall.

                Dyma’r ddadl. Nes i ddim ymuno ac EOS i sicrhau fod 6 artist canol y ffordd yn cael tua 80% o’r gacan. Beth am yr holl artistiaid Cymraeg arall ? Engraifft amlwg yw’r diffyg sylw i’r Byd Gwerin (heblaw Sesiwn Fach sydd yn rhaglen ardderchog). Mae hwnna yn gwestiwn sydd rhaid ei holi. Mae angen ychydig o Robin Hood arnom a rhannu’r cyfoeth !

                Dyma’r ddadl. Os ydi pawb / pwy bynnag / gwrandawyr yn poeni cymaint am y gerddoriaeth a rhaglenni cerddorol o safon, byddai Lisa Gwilym wedi cael rhaglen ddyddiol ar BBC Radio Cymru yn y prynhawn. Dydi rhgalen Lisa ddim yn amgen na chwyldroadol, ond mae yn perthyn i’r Unfed Ganrif ar Hugain a nid yr 80au.

                 Dyma’r ddadl. Petae pawb (neu hyd yn oed unrhywun o gwbl) yn poeni am y pethe amgen, y pethe ifanc, y pethe sydd yn symud y pethe ymlaen, wel yn syml byddai Huw Evans yn dal ar yr awyr yn hwyr y nos. Cyflwynydd ifanc doniol a diddorol, cyflwynydd ddylia fod yn cyflwyno Noson Lawen gyfoes ar S4C ar Nos Sadwrn petae ni ond yn sylweddoli fod yn bryd i Ddiwylliant Cymraeg fentro mewn i’r Unfed Ganrif ar Hugain.

                Dyma’r ddadl. Beth bynnag yw’r gerddoriaeth (canol y ffordd) rwdlan (fel awgrymodd Gwilym Owen yn Golwg) mae Dafydd a Caryl a rwdlan mae Geraint Lloyd, dydi’r rhaglenni ddim gwell na dim gwaeth o gael caneuon canol y ffordd gwahanol, mae nhw’n dal i swnio fel rhywbeth o’r wythdegau cynnar. Rwdlan mae Tudur Owen a’i griw hefyd ond mae’r gerddoriaeth yn tueddu fod yn well oherwydd cynhyrchwyr BBC Bangor. Rwan mae rhai yn hapus hefo rwdlan ond i’r rhai sydd ddim mae rhywun yn gorfod newid gorsaf.

                Dyma’r ddadl. Mae angen BBC Radio 4 Cymraeg i ni sydd eisiau mwy o sylwedd. Mae angen 6Music i ni sydd yn cymeryd ein cerddoriaeth o ddifri. Popeth yn Gymraeg. Dydi un orsaf i bawb ddim yn gweithio. Efallai fod yn bryd datganoli darllediadau Radio Cymru a chynnig mwy  o ddewis ar y We. Mae digon o arain yna go iawn i wneud hyn ! Dwi’n gwrando ar 6Music ar y We wrth sgwennu hwn heddiw – syml !

Dyma’r ddadl. Y rhai sydd wedi dioddef mwyaf yn hyn i gyd, yn fwy na’r gynulleidfa yw staff cynyrchwyr, ymchwilwyr a chyflwynwyr y BBC. Pobl fel BBC Bangor sydd yn creu rhaglenni gwych fel rhai Lisa Gwilym. Nid EOS a’r streic sydd wedi eu rhoi yn y twll yma ond amharodrwydd a methiant eu penaethiaid yn Llundain yn sicr, ac yn BBC Cymru hefyd, i ddygymod a’r ffaith fod Oes y Deinasoriaid drosodd.

Dyma’r ddadl. Heddiw ym 2013 does dim lle i “fonopoli” fel yr un sydd rhwng y BBC a PRS a’r taliad blanced. Glywso’chi rioed am ddatganoli ? Cam naturiol ymlaen yn y Diwydiant Cerddoriaeth Cymraeg yw sefydlu EOS a dim ond mater o rannu’r blanced rhwng Cymru a gweddill taliad PRS yw hi go iawn. Syml. Y BBC sydd yn amharod i chwalu’r blanced a’r monopoli. Dwi ddim hyd yn oed yn un sydd yn dadlau am y pres - dwi’n dadlau am yr egwyddor !

Dyma’r ddadl. Dydi EOS ond yn datganoli hawliau darlledu ym Mhrydain. Un cam ar y tro. Codwyd calon rhywun o weld y gefnogaeth yn y Cynulliad gan Aelodau fel Rhodri Thomas, Bethan Jenkis ac Elin Jones  a wedyn darllen yr hen rocar ei hyn Wigley, yn lambastio agwedd y BBC yn y Daily Post.

Dyma’r ddadl. Mae hyn oll yn siomedig tu hwnt, siomedig fod hyn rioed di digwydd a wedi gorfod digwydd. Dwi am roi galwad i Robin Hood fel dwedodd Joe Strummer a gofyn am rannu’r cyfoeth !

 

               

No comments:

Post a Comment