Thursday 28 February 2013

Llandrindod Wells Herald Gymraeg 27 Chwefror 2013


 

“Déjà vu”, dyna’r union air, dyna’r union brofiad wrth i mi sefyll ger weddillion Capel Maelog yn Llandrindod, “Llan’dod” i ni bobl Powys (Sir Drefaldwyn) a Llandrindod Wells wrthgwrs i’r di-Gymraeg. Ond, mae rhywbeth yn fy mhoeni, rwyf yn gyfarwydd a ffurf y capel, gweddillion y seiliau ond mae rhywbeth mawr o’i le.

            Bu i mi gloddio yma ym 1984 tra yn gweithio gyda Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys, cofiaf yn iawn y daith o dros awr o’r Trallwng yng nghefn Landrover, a finnau ddigon ifanc pryd hynny  i beidio bod yn sal yn eistedd yn y cefn. Cofiaf hefyd fod y safle ychydig i’r Gogledd o Lan’dod ar Ffordd Cefnllys.

            Peth arall sydd yn glir iawn i mi yw Llyn Llandrindod, cofiaf y man yma yn dda iawn achos yma roedd dechrau a gorffen y rasus traws-gwald pan roeddwn yn cystadlu ar lefel y Sir yn ystod fy nyddiau ysgol. Wrth sefyll yma yn edrych ar Gapel Maelog gyda’r llyn tu cefn i mi dechreuais amau os oeddwn yn dechrau ei cholli hi, yn mwydro, yn anghofus, wedi drysu ?

            “Diawch nid fan hyn oedda ni yn cloddio ym 1984” meddyliais yn uchel. “Roeddem yn cloddio o flaen cynllun datblygu tai, ddim yn bell o’r ffordd allan am Rhaeadr. Dydi hyn ddim yn gwneud synnwyr o gwbl”. Dwi’n gwybod fy mod yn gallu mwydro weithiau ond argian dan hyd yn oed ar bnawn Dydd Sadwrn oer yn Llandrindod yn 2013 siawns fy mod yn cofio lle bu’m yn gweithio ym 1984.

 

            Un rheswm rwyf yn cofio Capel Maelog mor dda oedd i mi gysgu’n hwyr un bore a cholli’r Landrover a gorfod gyrru ar garlam wedyn yn y car yr holl ffordd lawr o lanfair Caereinion  i Landrindod – a chyrraedd oleiaf awr yn hwyr – hogyn drwg – bydd rhaid gweithio yn galed i adfer fy enw da. Ond y peth doniol am y bore hwnnw oedd i mi ddarganfod hanner ceiniog arian yn perthyn i gyfnod Harri 3dd o fewn y pum munud cyntaf ar ol cyrraedd yn hwyr.

            Cofiaf y darn arian achos fy argraff gyntaf oedd fy mod wedi dod o hyd i hen dop potel laeth cyn sylweddoli mae darn o arian gyda croes hir ar y cefn oedd y darn bach yn fy llaw a wyneb Harri 3dd ar y blaen. Achubiaeth a maddeuant – hogyn da – roeddwn yn gyfrifol am “ddarganfyddiad y dydd” yng nghanol yr holl gyrff o amgylch hen fynwent Capel Maelog.

            Felly beth am y Déjà vu ? Wel do roeddwn wedi cloddio’r Capel yn ol ym 1984, ar Ffordd Cefnllys yn sicr, ond wedyn ym 1985-86, symudwyd y cyfan carreg wrth garreg (yn null Sain Ffagan) a’i ail osod ger y llyn. Capel yn dyddio i’r 12fed Ganrif hwyr neu ddechrau’r 13edd Ganrif sydd yma ond fod yma hefyd  fynwent yn dyddio yn ol mor fuan a’r 10fed Ganrif wedi ei amgylchu a chlawdd siap pedol. Dyma’r tro cyntaf i mi fod yn ol i Gapel Maelog ers 1984, hynny yw yn ol i’w safle newydd.

            Diddorol oedd treulio penwythnos yn Llandrindod, wrth gerdded tuag at y llyn roeddwn yn mynd heibio un o’r garages ‘Art Deco’ sydd yn nodweddiadol o Landrindod, yn perthyn i 20au’r Ugeinfed Ganrif a chynlluniau mawr y moderneiddiwr lleol Tom Norton. Ger yr allt at y llyn mae’r hen garage lle mae’r Amgueddfa Beics heddiw, fe welwyd un o’r beics “trydan” ar Darn Bach o Hanes llynedd ar S4C, roedd yr hogia yn cofio’r eitem.

            Ar y to, saif rhes o lewod gwynion, yn cadw golwg, yn amddiffyn y safle, yn llonydd ac yn urddasol – da di ‘Art Deco’ meddyliais, hollol ang-Nghymreig wrthgwrs ond wedyn beth sydd yn Gymreig am Llandrindod ? Hen dre Spa, pobl yn heidio am y dwr iach, tref Victoraidd go iawn, a fel awgrymodd Mike Parker yn ei lyfr Real Powys, 2011 (Seren)  “is anything beyond the stentorian facades” – mae’n teimlo fel rhywbeth allan o ffilm.

 

            Teimlais fel rhyw George Borrow cyfoes, y nodi a thynnu lluniau’r  nodweddion, braf oedd cael troedio yn hytrach na gyrru drwy’r dre. Ceisias gychwyn sgwrs gyda unrhyw drigolyn, gwenais, “Pnawn Da, is there much Welsh in Llandrindod these days ?” Chlywais i yr un gair yn ystod y penwythnos. Pobl ddiethr oedd yn rhedeg y gwesty, o dde Lloegr mae’n debyg yn ol yr acenion, ac er mor glen oedd pawb, doedd neb yn gallu cadarnhau iddynt glywed y Gymraeg yno yn y dyddiau dwetha.

            Roedd y ferch yn y siop bapur newydd yn meddwl fod yna “Welsh Society” yn y dre ac yn gadarnhaol doedd neb i weld yn poeni o gwbl wrth i mi ddiolch iddynt a’u cyfarch yn Gymraeg. Tref Victoraidd, ddigon agos i’r Gororau, dwi’n dallt hyn, cefais fy ngeni a fy magu yn Nwyrain Sir Drefaldwyn. Pobl y Gororau. Acenion y Gororau, fydda na neb yn dyfalu “Welsh” mewn cwis acenion Gwledydd Prydain.

            Y bore canlynol rwyf yn cerdded dros furiau caer Rhufeinig Castell Collen ger yr Afon Ithon rhyw filltir a hanner i’r Gogledd o Landrindod.Bu gwaith cloddio mawr yma ym 1911-13 a’r peth mwyaf od yw fod y tyllau wedi eu gadael ers hynny, gan ddangos cynllun rhai o’r adeiladau, y barics a adeilad dal gwenith ac o bosib rhai o’r adeiladau gweinyddol yng nghanol y gaer.

            Mae popeth wedi dirywio ers ddechrau’r Ugeinfed Ganrif, canlyniad yr holl gloddio yw fod darnau o’r waliau wedi disgyn ac eto yma ac acw fe welir waliau wedi goroesi yn glir, y cerrig wedi eu siapio gan y Rhufeiniaid yn flociau sgwar. Mae archaeoleg yr Ugeinfed Ganrif felly i'w weld fel “olion archaeolegol” erbyn heddiw, rhyfedd ac anghyffredin.

Digon anodd oedd cael lle i adael y car ger y gaer, anoddach byth oedd troi y car,ond fe lwyddais. Roedd mwd ym mhobman ond mae hynny i’w ddisgwyl ond methais a chael hyd i fynedfa i’r safle a mae’n rhaid cyfaddef fy mod yn dechrau teimlo fod yna achos bellach i wahardd anifeiliaid amaethyddol o safleoedd archaeolegol. Rwyf wedi ymweld a sawl safle yn ddiweddar lle mae ceffylau yn enwedig yn achosi erydu difrifol i gloddiau safleoedd.

Ol defaid oedd yma, ddim mor ddrwg efallai, ond yn gwneud yr holl le yn for o fwd ar adegau. Dyma safle pwysig sydd wedi ei anghofio a’i anwybyddu. Rhywsut mae Llandrindod yn teimlo fel y dref Victoaraidd rydym ni fel Cymry yn ddewis ei anwybyddu onibai fod rhyw gynhadledd neu’i gilydd yma. Fel cyfeiriodd Parker yn ei lyfr “yn anghyfleus i bawb”. Wyddoch chi beth fe wnes fwynhau darganfod Llandrindod. Yn ol ym 1984 cefais ddiod o ddwr o’r Spa, heddiw mae’r lle yn adfail ……..

 

1 comment:

  1. Where did my comment go? I'd like to read this in English too please.......

    ReplyDelete