Wednesday 20 February 2013

Llyfrau Tywys Casglwr Rhif 107 Gwanwyn 2013



Un o’r pleserau mawr yn ystod fy ieuenctyd oedd cael mynd ar wyliau, ac yn wir cael trefnu’r ymweliadau dyddiol i wahanol gestyll, cromlechi ac amgueddfeydd. Hyd yn oed fel hogyn Ysgol Gynradd roedd diddordeb mawr gennyf mewn hanes, roeddwn wrth fy modd mewn amgueddfeydd mawr a bach a hyd yn oed pryd hynny roeddwn yn ddipyn o gasglwr, rhaid oedd cael y llyfr tywys ym mhob safle .A diolch byth am y tuedd yna i fod yn gasglwr achos mae’r holl lyfrau tywys dal gennyf hyd heddiw.

Yn ddiweddar rwyf wedi bod yn gwneud dipyn o waith tywys ac arwain ymweliadau i safleoedd  felly rwyf wedi cael rheswm da iawn i bori drwy’r holl hen lyfrau tywys oedd gennyf ers y 70au. Mae’r rhan fwyaf ohonnynt o Gymru ac felly yn hollol berthnasol i’r gwaith heddiw ond cyn son am rai o’r llyfrynnau Cymreig mae’n werth crybwyll fy ymweliadau a Cor y Cewri ac Avebury yn ol yn y 70au.

Ar fy ymweliad cyntaf a Chor y Cewri, prynais gopi o ‘What is Stonehenge ? a guide for young people” , ail-argraffiad 1968 yw hwn ac ar dudalen 14 mae trafodaeth diddorol am sut cludwyd y meini gleision o’r Preseli draw i Gor y Cewri, pellter o 140 milltir. Mae’r ddadl yn parhau hyd heddiw, eu cludo ar gwch ar hyd Afon Hafren neu a oedd y cerrig wedi eu dosbarthu cyn hynny gan rhewlifiant ? Mae hyd yn oed damcaniaeth diweddar, Pearson (2012) iddynt gael eu cludo dros y tir a hynny yn fwriadol a fod rhai o’r gerrig glas yn dod o ardal Nanhyfer sydd i’r Gogledd o’r Preseli a felly yn bellach o’r mor ac ardal Aberdaugelddau. Mae hon yn ddadl fydd yn parhau.

Mae sawl diagram a map yn ceisio esbonio sut creuwyd ac adeiladwyd Cor Y Cewri a gan fod y llyfryn ar gyfer pobl ifanc, mae’n ddefnyddiol gan fod y syniadau a’r damcaniaethau yn gymharol ddealladwy.

Er mae cof plentyn sydd gennyf o’r ymweliad, roedd yn bosib cerdded ymhlith y cerrig pryd hynny; mae hyn dal yn bosib ym mhentref Avebury ac un o’r llyfrau glas “Department of Environment” sydd gennyf a fy llofnod a’r dyddiad arno, Haf 1979. Pris 50ceiniog. Fel gyda Cor y Cewri mae yma dirwedd o gofadeiladau sydd yn cynnwys y cylch cerrig, beddrod Neolithig West Kennet, y rhodfa o gerrig ac wrthgwrs Tomen Silbury. Yng nghefn y llyfryn mae map o henebion yr ardal.

 

Gan ddychwelyd i Gymru, mae’n rhaid mae un o’r safleoedd mwyaf trawiadol i ni ymweld oedd Gadeirlan Ty Ddewi.Llyfryn arall cyfarwydd sydd gennyf o ran ei ffurff, sef y llyfrau Pitkin, mae hwn gan H Marriott a fe gyhoeddwyd y llyfryn ym 1970. Ychydig bach yn or-gymhleth efallai yw cyflwyniad Marriott, yr hyn rydym yn ei alw yn y busnes tywys yn “ormod o fanylder”, oes mae angen y gwybodaeth cefndir weithiau ond y gamp yw cyflwyno’r hanes a chyd-destyn mewn iaith ddealladwy a diddorol ar gyfer ymwelwyr.

Yn ol Marriott, Ty Ddewi yw’r Eglwys Gadeiriol sydd a hanes parhaol hiraf yng Nghymru o ran safle ond mae son tebyg am y gadeirlan ym Mangor hefyd. Mae’r llyfr Pitkin yn frith o luniau gwych du a gwyn o wahanol nodweddion o Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi ac yn werth ei gael.

 

Mae neuadd Erddig ger Wrecsam dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, felly cyhoeddiad yr Ymddiriedolaeth yw’r llyfr tywys, mae fy nghopi  i yn dyddio o 1977 ac un o’r nodweddion mwyaf diddorol am Erddig yw’r casgliad hyfryd o brotreadau o’r staff sydd i’w gweld yn ystafelloedd y gweithwyr. Ar dudlaen 12 o’r lllyfr tywys er engraifft cawn weld copiau du a gwyn o bortread Edward Barnes 1830, ef oedd yn torri coed ar y stad a mae llun hefyd o’r forwyn Jane Ebbwell a hithau yn 87 oed ym 1793.

Mae’n werth ymweld ac Erddig am swl rheswm wrthgwrs ond rhaid cyfaddef fod y portreadau o’r “werin bob” yma  yn parhau i fod yn un o’r uchafbwyntau i mi hyd heddiw..

Drwy ymweld a’r holl gestyll mae gennyf gasgliad eang iawn o’r llyfrynnau glas ‘Ministry of Public Building and Works OFFICIAL GUIDEBOOK’. Yn eu plith mae llyfryn Castell Cydweli (1952 arg,1970)  y castell a sefydlwyd ar lan  Gwendraeth Fach gan y Normaniaid, yn ol yr hanes  gan Roger, Esgob Salisbury a gafodd dir yma gan Harry 1af.

Mae son wedyn am Arglwydd Rhys yn adeiladu castell yma ym 1190 a’r tebygrwydd yw fod y Cymro wedi ail ddefnyddio’r safle Normanaidd. Rhaid fod hyn yn rhywbeth fyddai wedi rhoi pluen yng nghap y Cymry, yn sicr o ran yr ochr wleidyddol.  O ystyried fod Gruffydd ap Cynan yn meddianu castell Mwnt a Beili Robert o Rhuddlan yng Nghaernarfon ddiwedd yr Unfed Ganrif ar Ddeg ac efallai wir fod adeiladau Llys Llywelyn Fawr yn Abergwyngregyn hefyd ar hen safle  Mwnt a Beili o eiddo Robert, mae’n rhaid i ni ystyried fod ail ddefnydd o safleoedd Normanaidd gan y Cymry yn fodd o ddangos eu bod wedi ail sefydlu eu rheolaeth a grym yn yr ardal.

 

Ymhlith y llyfrynnau Ministry of Public Building and Works mae gennyf un ar Gastell “Criccieth ( sydd yn atgoffa rhywun o gan y Dyniadon ‘Pawl C sydd yng Nghricieth ?’ a mae hwnnw gennyf ar record feinyl 7” Sain 23, mae’r cangymeriad yn fwriadol gyda llaw ar y clawr), Castell Carreg Cennen, , Castell Coch, Segontium  a nifer mwy – pob un yn cael defnydd rheolaidd gennyf.

Mae llyfrynnau arall ar gael hefyd ar gyfer y cestyll gyda llun mewn inc o’r cestyll ar flaen y clawr, rhai wedi eu cyhoeddi gan Adran yr Amgylchedd fel DOE Official Giuidebook.

Heb os un o’r twyslyfrau mwyaf diddorol yw un Sain Ffagan (1970) wedi ei sgwennu gan y Curadur Iorwerth C Peate. Wrth ddarllen y llyfryn cawn weld sut oedd San Ffagan yn ol yn y 70au ac wrthgwrs mae rhywun felly yn gweld cymaint mae’r amgueddfa wedi datblygu dros y blynyddoedd diweddar ac wrthgwrs mae Sain Ffagan ar fin datblygu ymhellach yn y blynyddoedd nesa i ddod.

Ymhlith yr adeiladau cyntaf  i’w hail-gyfodi roedd Abernodwydd ym 1955, adeilad a chysylltiad agos i mi achos roedd hogia teulu Abernodwydd, Llangadfan yn yr ysgol a mi. Wrth i Peate drafod Abernodwydd mae’n nodi fod y ty wedi ei ail-gyfodi gan Gyngor Sir Drefaldwyn, Sir a lyncwyd i grombil anferth Powys ac anodd dychmygu unrhyw un o’r Cynghorau Sir hefo’r fath arian sbar yn yr hinsawdd economaidd sydd ohonni heddiw. Dyn a gweledigaeth anhygoel oedd Iorwerth C Peate ond dyn hefyd fydda ddim wedi caniatau i Sain Ffagan ymestyn i gynnwys adeiladau “Diwydiannol” fel Neuadd Oakdale ac yn sicr os bydd hen dafarn y Vulcan o Gaerdydd yn cael ei ail-godi bydd Peate yn troi yn ei fedd.

 

Cyfeirias yn gynharach at Nanhyfer yng nghyd destun Cor y Cewri ond llyfryn tywys arall rwyf yn ei drysori yw hwnnw ar gyfer Eglwys Sant Brynach. Nodwedd amlycaf y fynwent yw’r Groes Geltaidd, yn codi 13 troedfedd i’r awyr ac ymhlith y mwyaf “perffaith yng Nghymru” yn ol y llyfryn ac yn gyfartal o ran harddwch a chroes Carew a chroes Maen Achwyfan. Mae’r llyfryn sydd yn dyddio o 1976 hefyd yn cyfeirio at nifer o gerrig bedd Cristniogol cynnar sydd i’w gweld o amgylch y safle, rhai gyda’r geiriau Hic Iacit, sef “yma gorweddai” a hefyd rhai eraill yn cynnwys ysgrifen Ogham fel y garreg er cof am Maglocunus.

 

Efallai mae priodol fyddai gorffen ein taith ym Machynlleth gyda’r llyfryn ‘History of Owain Glyndwr and his associations with Machynlleth’. Wrth gyfeirio at Glyndwr fel “rebel and sedicious seducer” rhaid cyfaddef fod hyn yn ddisgrifiad y byddwn ddigon balch i gael ar fy ngharreg fedd fy hyn. Cyfeirio at y Senedd dy a’r Institiwt ym Machynlleth mae’r llyfryn yma.

Mae gan bawb eu rhesymau dros gasglu hen lyfrau, rwyf er engraifft yn ymddiddori yn hanes Gwilym Cowlyd ac Arwest Glan Geirionnydd a felly wedi casglu unrhyw lyfr a chysylltiad a Chowlyd dros y blynyddoedd. Mae nifer o rhain yn brin, yn fregus ac yn werthfawr ac yn aros yn saff ar y silff ond yn achos yr hen lyfrau tywys mae’n rhaid cyfaddef eu bod yn cael defnydd llawn a rheolaidd gennyf fel rhan o fy ngwaith dydd i ddydd – mae yna o hyd rhyw damaid o wybodaeth neu stori fydd yn ddefnyddiol !

 

 

 

 

No comments:

Post a Comment