Tuesday 30 April 2013

'Babs v Amelia Earhart' Herald Gymraeg 24 Ebrill 2013



Herald Gymraeg 24 Ebrill 2013

Cyd-ddigwyddiad oedd dod ar draws ‘Babs’ (y car cyflym) yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Sadwrn dwetha. Roeddwn i lawr yn Abertawe ar gyfer cyfarfod ‘WOTGA’, sef ‘Cymdeithas Tywysyddion Swyddogol Cymru’ ac ychydig wythnosau yng nghynt roedd criw ohonnom wedi bod heibio Pentywyn ac yn ddigon naturiol yn trafod yr amgueddfa ar lan y mor lle mae ‘Babs’ yn treulio’r Haf a hynny bob Haf.

            Yr hyn oedd yn cael ei drafod oedd “lle mae Babs yn treulio’r gaeaf ?” Hwn oedd y cwestiwn mawr a doedd neb i weld yn siwr iawn, a dweud y gwir tybiais fod Babs yn mynd i rhyw garej yn rhywle i gael dipyn o ofal, rhyw MOT bach i gadw’r olwynion yn troi fel petae, ond dyna ni yr ateb, dyna Babs yn syth o fy mlaen wrth i mi gamu i mewn i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

            Mae rhai blynyddoedd ers i mi ymweld a Babs yn yr amgueddfa ym Mhentywyn, deg oleiaf, cyn i ni gael yr hogia yn sicr, a’r peth cyntaf am tarodd oedd cymaint oedd maint y car. Argian dan roedd hwn yn glomp o beth ac yma yng nghyntedd agored yr Amgueddfa dyma ddechrau dychmygu faint yn union o swn fydda’r injan yn ei greu petae yn cael ei thanio.

            Bu erthygl hynod ddiddorol yn yr Observer yn ddiweddar yn trafod sut mae rhai o amgueddfeydd ac orielau Llundain wedi bod yn cynyddu incwm drwy werthu nwyddau casgliadwy yn eu siopau. Nwyddau David Bowie oedd un esiampl amlwg yn ogystal a pethau wedi ei gwneud allan o hen ddarnau o seddau tren ac yn y blaen. Hyn oll yn hanfodol bellach oherwydd y toriadau mewn arian cyhoeddus wrthgwrs.

            A dyna daro ar syniad gwych ar gyfer cynyddu incwm Amgueddfa Genedlaethol Cymru, beth am “werthu” cyfle i fynd am sbin yn Babs ar hyd Bae Abertawe, neu ar hyd y Mumbles neu am bris premiwm i gael mynd hyd at 90milltir yr awr ar draeth Pentywyn. Mi fyddai miloedd ar filoedd ar y rhestr aros i chi !

            Ac er ein bod yn Ne Cymru o ran yr amgueddfeydd, mae cysylltiad agos iawn a’r Gogledd wrth drafod hynt a helyntion Babs. Y gyrwr yn ol yn y 1920au oedd John Godfrey Parry-Thomas, periannydd a mab i gurad o Rhosddu ger Wrecsam. Fe brynnodd Parry-Thomas y car gan wr or enw Count Louis Zbrowski ac ar ol dipyn o addasiadau fe fedyddiodd y car yn ‘Babs’.

            Yn ystod y 1920 roedd Sais o’r enw  Malcolm Campbell, dyn o gefndir breintiedig, yn brysur cystadlu a Parry-Thomas i geisio gosod y cyflymder mwyaf ar y tir mewn car ac ym 1927 roedd Cambell wedi llwydddo i yrru car ar gyflymder o 174.22 milltir yr awr.

            Ar y 3dd o Fawrth 1927 roedd Parry-Thomas yn ymdrechu i guro cyflymder Campbell ar draeth Pentywyn, ond roedd anwyd mawr os nad y ffliw arno ac yn anffodus fe aeth y car allan o reolaeth wrth gyrraedd cyflymder o 100 milldir yr awr. Bu i Parry-Thomas gael ei ladd wrth i’r car fynd a’i ben drosto a fe benderfynwyd claddu’r car yn y fan a’r lle o dan y tywod. Yno bu y car wedyn yn rhydu am dros 40 mlynedd.

            Yn y 1960au daeth gwr arall o Ogledd Cymru i gymeryd rhan flaenllaw yn hanes Babs. Y gwr oedd Owen Wyn Owen, perchenog garej o Gapel Curig a hefyd darlithydd ar beirianneg yng Ngholeg Technegol Sir Gaernarfon ym Mangor. Ar ol cloddio gweddillion Babs o’r tywod treuliodd Owen flynyddoedd yn adfer yr hen gar yn ei garej yng Nghapel Curig. Bu i Babs yrru unwaith eto yn y digwyddiad ‘Canmlwyddiant Brooklands’ ym 2007 a derbyniodd Owen dlws ‘Tom Pryce’ am ei waith gyda’r ysgrif “Atgyfodwr Babs” ar y dlws.

            Mae traeth Pentywyn yn ymestyn dros 7 milltir ac un o nodweddion y tywod yw ei fod yn gallu bod “mor galed a choncrit” felly mae’n addas ar gyfer gyrru arno. Heddiw, mae son fod modd i yrrwyr fynd am dro ar y traeth ond ar y diwrnod aethom ni heibio roedd y mynediad i’r traeth ar gau, dim bod unrhyw fwriad gennym rasio yno chwaith, nid yn y Mondeo yn sicr.

            Un arall a chysylltiad a Thraeth Pentywyn yw Amy Johnson, bu hi a’i gwr hedfan oddi yma ym 1933 gyda’r bwriad o hedfan yn ddibaid i Efrog Newydd. Chwythwyd yr awyren oddiar ei gwrs a glaniodd y ddau yn Connecticut lle cafodd y ddau eu hanafu yn ddifrifol.

            Cofeb arall a chysylltiad ar byd awyrenau yw honno ym Mhorth Tywyn ger Llanelli i Amelia Earhart y fenyw gyntaf i groesi Mor yr Iwerydd, mewn awyren o’r enw “Friendship”, gan lanio ym Mhorth Tywyn ar yr 18 o Fehefin 1928. Fe ddechreuodd hi a’r peilotiaid o Trepassey yn Newfoundland  20awr ac 49 munud yn gynharach ar yr 17fed o Fehefin. Roedd cyfaill yn teithio hefo mi yn y car a rhaid oedd galw heibio cofeb Earhart gan ein bod mor agos.

            Er mae lle bach yw Porth Tywyn nid hawdd oedd canfod y gofeb, yn bennaf oherwydd ffyrdd bach cul tu cefn i’r brif stryd, ond dyma lwyddo ar ol sawl cylch o’r styrd yn y car. Dyma sefyll yn y glaw, talu teyrnged a thynnu llun. Yn ol y son nid glanio ym Mhorth Tywyn oedd ei bwriad, rhaid oedd chwerthin, pa ddewis gwell meddyliais ?

            Wrth hedfan awyren fel peilot ar draws yr Iwerydd pedair mlynedd yn ddiweddarach ym 1932, campwaith arall Earhart,  glaniodd  yn Derry, Gogledd Iwerddon sydd yn swnio fel glanio braidd yn fuan i mi !!! Porth Tywyn amdani felly – pa well le?

 

No comments:

Post a Comment