Wednesday 3 April 2013

Mynegi Barn Herald Gymraeg 3dd Ebrill 2013



Dyma chi gwestiwn da, ydw’i am fentro i ffae’r llewod neu ddim yn sgil sylwadau Geraint Jones, Trefor ynglyn a CADW yn cymeryd cyfrifoldeb am gartef Kate Roberts, Cae’r Gors ? Yr ateb yw, nacdw, ddim yr wythnos hon achos os wyf am fentro trafod hyn mae angen dipyn mwy o waith ymchwil i’r cefndir cyn sgwennu’r golofn. Wythnos efallai ? Cawn weld …….. ond mae angen gwneud mae hynny yn sicr.

            Mae’n rhaid bod yna gyfrifoldeb arnom fel colofnwyr i drafod a mynegi barn ond roedd fy sylwadau am Can i Gymru a Noson Wobrwyo Y Selar yn ddiweddar hefyd yn profi fod hyn yn beth ddigon anodd i’w wneud yng Nghymru. Fel soniais ar trydar, gallaf fod yn ffrindia hefo y rhai sydd yn anghytuno a mi ond does fawr o Gymraeg rhyngddof a’r rheini sydd am wrthod yr hawl i mi (neu unrhywun arall) fynegi barn.

            Heb dreulio gormod o amser yn ail-bori’r gwelltfeydd mwdlyd, roedd profiad trafod hyn oll a’r Taro’r Post yn ddigon i roi y felan i mi am ddyddiau wedyn, nid oherwydd fod pobl yn anghytuno ond am y modd roedd pobl yn anghytuno, yr atgasedd di-wynebog ar trydar a’r ffaith fod y “Maoistiaid” fel dwi’n eu galw yn ymwrthod ac unrhyw wahanaiaeth barn. “Nhw” bia’r Byd Pop Cymraeg bellach a rhaid cyfaddef i mi ddileu y “nhw” i gyd o fy nghyfrif trydar.

            Canlyniad hyn oll oedd teimlo fod unrhywbeth rwyf am gyfrannu eto i’r Byd Pop Cymraeg yn y dyfodol (a mae ‘os’ mawr am hynny) yn mynd i orfod bod yn hollol hollol annibynnol o’r Maoistiaid. Cofiwch ymateb y rhan fwyaf o bobl i “ffarsgate” fel roeddwn yn ei alw a’r Taro’r Post, oedd “Pam – be di’r Selar ?” Ond teimlais na fyddwn yn dymuno rhannu’r un gofod a “nhw” byth eto – oes dwi isho byw yn Gymraeg fel mae’r Gymdeithas yn ei ddweud on nid ar eu telerau “nhw”.  

Petae’r Selar yn agored i drafodaeth fe fyddan wedi gwahodd trafodaeth am werth gwybrwyo fel cysyniad yn eu cylchgrawn – mae hyn yn wahanol iawn i werth y noson fel gig a digwyddiad !  Yn rhyfedd iawn, yn yr un wythnos a fy sylwadau i roedd Primal Scream yn y Guardian a Damon Albarn a Noel Gallagher oll wedi bod wrthi yn lambastio Gwobrau’r Brits. Rhyfedd – da ni gyd ru’n oed hefyd sydd yn dweud rhywbeth am ein hagwedd a’n cefndir diwylliannol  efallai ?

            Yng nghanol y felan meddyliais am y profiadau gwaethaf dwi di gael dros y blynyddoedd wrth geisio cyfrannu i’r ‘Byd Cymraeg’ ac yn sicr o fewn y Byd Pop Cymraeg ac yn sicrach byth ym maes ymgyrchu dros yr iath – mae’n wir i dddweud fod y bobl mwyaf annymunol i mi rioed ddod ar eu traws a dadlau a nhw wedi bod yn y Byd Cymraeg – nid Tory’s rhonc fel bydda rhywun wedi ei ddisgwyl ond y “Tory’s Cymraeg” fel dwi’n eu galw oherwydd eu ceidwadaeth a’u culni ! Felly dwi ddim am roi fy enw lawr i fyw yn y Dref Gymraeg mae Adam Price am ei chodi ar lannau’r Fenai. Dwi ddigon hapus yng Nghaernarfon diolch hefo “pobl go iawn”.

            A dyna chi golofn arall, ydi Price oddifri ? Doeddwn ddim yn y gynhadledd yma, un o’r cynhadleddau wythnosol bellach sydd i ‘Achub yr Iaith’, rhaid chwerthin achos mae rhywun yn teimlo fod yr holl drafodaethau yma drwy wahoddiad yn unig – rhag ofn i rhywun gyflwyno gwrth-safbwynt, rhag ofn i rhywun feiddio anghydffurfio a’r weledigaeth. Mae chwerthin yn well na chrio, ond ………..

            Felly digonedd o ddeunydd am golofnau am wythnosau i ddod, ond ydi’r bobl yma o ddifri ?  Y gwir amdani, fel colofnydd, mae angen mynd yn ol a gwneud dipyn o waith ymchwil, deall y cyd-destyn a sicrhau fod y dyfyniadau yn Golwg360 ddim allan o gyd-destun. Ond mae hyn yn peri pryder mawr i rhywun, lle yn union da ni’n mynd hefo hyn oll ?

            Beth bynnag oedd egwyddorion a syniadaeth Adfer yn y dyddiau cynnar am fynd yn ol i’r Gorllewin, erbyn i mi gyrraedd y Brifysgol (1980-83) roedd myfyrwyr (lleiafrif wrthgwrs) neuadd breswyl JMJ ym Mangor wedi meddiannu Adfer ac i bob pwrpas rhain oedd y “stormtroopers” yr “S.S” eithafwyr oedd bellach yn casau eu cyd-Gymry am fyw yn y rhan anghywir o Gymru, nid dyna’r syniadaeth wreiddiol siwr Dduw. Cefais gyfarwyddyd unwaith yn Y Globe ym Mangor i “F*** Off yn ol i Gaerdydd”. Doedd daearyddiaeth ddim yn brif bwnc yn amlwg iddynt, a finnau o Faldwyn !

Dwi’n chwerthin achos y darlun yn fy meddwl yn barhaol bellach yw rhaglen deledu y “Young Ones” – wyddo’chi pan mae’r cymeriad  Rick yn galw unrhywun sydd ddim yn cytuno yn “ffasgydd”, yn wir hon oedd ein joc rheolaidd ni yn y fan wrth deithio Ewrop hefo’r Anhrefn flynyddoedd yn ol, gormod o oriau ar draffyrdd yn yr Almaen, felly roedd jocs plentyniadd i weld yn gweithio yn well rhywsut – pawb yn “ffasgydd”.

            Dyma engraifft gwych o hiwmor hollol hollol blentynaidd Rick, “No, no, no, no, no, not "Bank Manager," it's far too crawly bum-lick. Tell it like it is, put "Fascist Bullyboy!" meddai Rick wrth geisio llunio llythyr i’w rheolwr banc lleol. Iawn, mae hyn yn rhoi gwen ar wyneb rhywun efallai, ond i fod o ddifri, mae rhywun yn teimlo fod angen i ni fod llawer mwy trieddgar bellach wrth drafod a sylwebu ar syniadaeth, damcaniaethau a datganiadau sydd allan yna yn y Byd Cymraeg.

            “Ffrae burath ysgol” yw’r drafodaeth ar Taro’r Post yn amlach na pheidio, nid yr aeddfedrwydd angenrheidiol. Dwi’n nol eto at yr hen bregeth, yn galw am Jeremy Vine yn Gymraeg ac am golofnwyr sydd yn cael herio cystal a Julie Burchill. Heb yr anghytuno a’r gwahaniaeth barn rydym yn llithro i sefyllfa o drwmgwsg diwylliannol sydd yn llai na derbyniol.

1 comment:

  1. Da iawn eto - llygaid y lle, oes modd gwrando nol i Taro Post?
    Gedru

    ReplyDelete