Wednesday 10 April 2013

Safleoedd CADW Herald Gymraeg 10 Ebrill 2013


 

Rwan ta, beth yw’r ddolen gyswllt yn fan hyn ?

            Trefignath y gromlech hynod ger Caergybi, un o’r engreifftiau gorau o adeiladwaith aml-gyfnod lle mae’n amlwg fod y safle claddu wedi bod yn cael ei ddefnyddio dros gyfnod hir o amser.Wrth edrych ar y cofadail o gyfeiriad y gorllewin mae tair siambr gladdu gwahanol i’w gweld a mae’r drydedd yn cau mynedfa’r ail, hynny yw mae wedi’w adeiladu ar draws y fynedfa i’r “hen” siambr.

            Yr archaeolegydd  Frances Lynch gymharodd hyn a’r ail adeiladu ac ail godi sydd yn gysylltiedig ac eglwysi ac eglwysi cadeiriol, eto y lle sydd yn sanctaidd fellly mae’r ail adeiladau yn arwydd o barhad o ddefnydd yn yr un lle dros gyfnod hir o amser. Mae stori arall ddifir am Drefignath, fod y Foneddiges Stanley, sef mam yr hynafiaethydd W.O Stanley, wedi bod yn gyrru heibio un dydd yn ei choets a wedi rhywstro rhyw weithwyr rhag malurio’r cofadail a dwyn y cerrig i gyd.

            Nid aml mae wyr i chwarelwr yn canmol y Boneddigions ond yn yr achos yma, diolch i Stad Penrhos fod y gromlech yma gyda ni heddiw. Wrth ymweld a Threfignath heddiw gwelir fod y cofadail wedi ei atgyweirio a’i ail osod yn sylweddol.

            Ewn yn ein blaen at Persaddfed, eto cromlech drawiadaol yn cynnwys dwy siambr arwahan y tro yma, a hynny ger cae cricied Bodedern. Lle da i ymweld ac e dros yr Haf achos fe gewch weld y cromlechi ac os yn lwcus cyfle i weld ychydig o gricied yr un pryd. Mae yna bosibilrwydd, heb ei gadarnhau, fod y ddwy gromlech yn wreiddiol yn rhan o’r un cofadail ac yn gorwedd o dan un garnedd fawr.

Stori arall ddigon trist am persaddfed yw fod y gromlech ddeueol wedi bod yn Gartref y deulu oedd wedi cael eu taflu allan o fwthyn cyfagos. Stori ddim mor dda am y boneddigions efallai ?

A wedyn dyma chi Barclodiad y Gawres, rhwng Llanfaelog ac Aberffraw, o bosib yr ail gromlech mwyaf adnabyddus ar Ynys Mon, ar ol Bryn Celli Ddu. Dyma chi feddrod sydd yn rhannu’r un traddodiad, cynllun ac ddigon posib yr un crefydd a beddrodau fel Newgrange a Knowth yn Nyffryn y Boyne yn Iwerddon. Dyma chi gromlech sydd yn gwenud i rhywun feddwl.

Pwy groesodd Mor Iwerddon i rannu’r traddodiad newydd yma o gladdu’r meirwon ? A beth yw arwyddocad y cerrig sydd wedi eu naddu gyda cylchoedd a zigzags o fewn y beddrod ? Yn anffodus mae ymwelwyr wedi amharchu’r cofadail dros y blynyddoedd felly does dim modd ymweld a thu mewn i’r gromlech heb drefniant o flaen llaw. (Mwy am hyn ar ddiwedd yr erthygl).

Gan aros yn ardal Llanfaelog dyma chi gromlech arall, Ty Newydd. Fe gloddiwyd yma yn y 1930au a’r awgrym yw  fod hwn  yn engraifft o feddrod cynnar iawn yn y cyfnod Neiolithig, sef Oes y Cerrig a chyfnod yr amaethwyr cyntaf. Dyma chi feddrod sydd mewn cyflwr ddigon truenus a mae blociau wedi eu gosod oddi tan y gapfaen er mwyn diogelu’r cofadail. O ran diffiniad fe all hwn hefyd fod yn perthyn i’r traddodiad o feddrod cyntedd.

A dyma chi Din Dryfol, ger Soar yng nghanol Sir Fon, beddrod arall sydd wedi ei chwalu yn ddrwg dros y canrifoedd ond sydd yn rhannu nodweddion tebyg iawn i gromlech Trefignath. Eto y ddamcaniaeth yw fod yma feddrod aml-gyfnod a felly fod y safle yma wedi bod yn fan pwysig i’r amaethwyr cynnar yma ar Fon.

Ac os am dynnu llun o’r “gromlech berffaith” pa well gromlech na’r un twt a thaclus ger Bodowyr, ddim yn bell o Frynsiencyn. Engraifft arall o feddrod cyntedd a chynnar yn y cyfnod Neolithig o ran ei adeiladu. Hwn di’r un mae pawb yn ei ddisgrifio fel “cromlech sydd yn edrych fel cromlech”.

Fe allawn fynd ymlaen ac ymlaen, Bryn Celli Ddu, Cromlech Lligwy, Capel Garmon, Dyffryn Ardudwy. Ond beth felly yw’r ddolen gyswllt ?

Yn amlwg mae’r safloeodd rwyf wedi cyfeirio atynt oll yn gromlechi, yn feddrodau yn perthyn i’r Cyfnod Neolithig, cyfnod yr amaethwyr cyntaf yn y rhan yma o Ynysoedd Prydain, y rhan rydym yn ei adnabod fel Cymru heddiw. Mae’r safleoedd yn dyddio oddeutu 3500 Cyn Crist hyd at 2000 Cyn Crist.

Rydym yn son am gyfnod cyn unrhyw syniad o Gymru fel lle. Rydym yn son am afordir gorllewinol Ynysoedd Prydain – ar hyd y draffordd efallai – sef y mor. Rydym yn son am gyfnod cyn yr Iaith Gymraeg er rydym oll yn gytun fod codi’r fath gofadaeiladau yn ddipyn o gampwaith felly roedd rhaid fod yr adeiladwyr yn gallu cyfathrebu – rhaid bod ganddynt Iaith.

Rwyf hefyd yn weddol argyhoeddedig fod yna barhad ers cyfnod yr amaethwyr cyntaf. Do fe gafwyd Efydd a Haearn yn eu tro yn ystod y ddwy fileniwm cyn Crist, fe gafwyd y traddodiad Celtaidd yn y canrifoedd cyn y Rhufeiniad ond dwi ddim yn derbyn nad oes yna  barhad gan bobl ar yr un darnau o dir ers cyfnod y cromlechi.

Y nhw  yw’’r “hen bobl”, efallai wir ond y ni sydd dal yma – rydym yn perthyn, yn perthyn i’r un darn o dir, yn perthyn i’r un lle, er efallai fod yr Iaith wedi newid, mae rhan o’r traddodiad wedi newid a do fe gyflwynwyd Cristnogaeth ar ddiwedd cyfnod y Rhufeiniad, ond heblaw am hynny mae yna fwy o gysylltiad na sydd o wahaniaeth.

Ond yn ol at y cwestiwn, yr ateb go iawn yw fod yr holl adeiladau rwyf wedi cyfeirio atynt dan ofal CADW. CADW yw’r corff sydd yn gyfrifol am ein henebion ar ran Llywodraeth Cymru. Y ni oedd yn galw am Ddatganoli ac y ni gafodd hynny mewn egwyddor. Y ni y trethdalwyr sydd yn arianu hyn, ein llywodraeth ni yw hwn – ein corff ni yw CADW.

Drwy gyfeirio at y cromlechi fe fydd yn hollol amlwg nad oedd rhaid i mi gyfeirio o gwbl at unrhyw gastell a godwyd gan Edward 1af, wedi’r cwbl “Cestyll Edward 1af yw’r adeiladau hynny sydd yn ein atgoffa yn ddyddiol (os da chi fel fi yn codi yn y bore ac yn edrych dros Gastell Caernarfon) ein bod dan orthrwm y “Sais” hyd at heddiw”. Pryd o pryd mae’r nonsens yma am ddod i ben ? Digon yw digon. Hanes yw hanes.

Mae Cymdeithas Tywysyddion Gogledd Cymru bellach yn cyd-weithio a CADW i sicrhau teithiau tywys i Barclodiad y Gawres ac mae modd cysylltu drwy trydar @NWTGA.

No comments:

Post a Comment