Thursday 16 May 2013

Carreg 'Levelinus' Herald Gymraeg 15 Mai 2013



Digon anodd yw cael at Tomen y Foelas (Cyfeirnod map SH 870522) bellach, mae’r safle dan goed a mieri trwchus ond mae rhywun yn cael argraff o faint y domen o’r llwybr ger ffermdy Foelas Uchaf rhyw hanner milltir tu allan i bentref Pentrefoelas ar y ffordd B5113 am Nebo. Yn ol y son mae’r domen yn codi i uchder o 7.5medr ond mae hyn yn cael ei atgyfnerthu yn sylweddol gan ffrwd Nant y Foel sydd yn amgylchu’r domen ar yr ochr Ogleddol a ddwyreiniol.

            O edrych ar y map OS mae nhw yn cyfeirio at y domen fel y ‘Foel Las Motte’ a fferm arall cyfagos yw ‘Hen Voelas’. Does fawr o hanes ar gael am y domen, felly cwestiwn amlwg yn syth yw, a’i perthyn i’r Normaniaid wrth iddynt wthio i mewn i Ogledd Cymru neu efelychiad diweddarach o’r adeiladawaith Normanaidd gan y Cymry yw’r safle yma ?

            Yr hyn sydd yn cael ei gytuno, efallai, yw fod y domen yn gweld diwedd ei hoes erbyn ddiwedd y ddeuddegfed ganrif, oddeutu 1198-99 pan rhoddir darnau sylweddol o dir yn yr ardal yma i Abaty Aberconwy gan Llywelyn Fawr. Mae’r rhodd yma o dir i Aberconwy gan Llywelyn yn un o’r ffactorau hefyd wrth i ni geisio dyddio y twr canol oesol ar ben Dinas Emrys. Mae’r ddadl yn pwysleisio’r hyn sydd yn digwydd wrth i Llywelyn drosglwyddo’r tir ac felly a oedd angen di-gomisiynu’r cestyll fel petae ?

            Cerddais i fyny o bentref o Bentrefoelas tuag at y domen gan ddilyn arwyddion pren “Llwybr Hiraethog”. Codwyd fy nghalon yn sylweddol gan hyn, roedd golwg newydd ar yr arwyddion ac oleiaf felly mae hyn yn arwydd fod rhywun yn rhywle yn dangos diddordeb yn ein henebion. Doedd dim awgrym o’r pellter o’r pentref at y domen a braidd yn anelwig oedd y llwybr ac yn wir i ba gyfeiriad roeddwn i fod i gerdded.

            Fel dyn mapiau a dyn sydd bellach yn hen gyfarwydd a chroesi caeau mwdlyd a choedwigoedd tywyll defnyddiais gyfuniad o synnwyr cyffredin a synnwyr o le a chyfeiriad. Ond efallai fod angen gwneud pethau yn ychydig haws i ymwelwyr ?  Ar ol croesi tri cae rwyf yn cyrraedd stad Hen Foelas ac yn anelu am y coed – a dyna hi y domen. A bod yn onest mae bron yn amhosib gwneud allan lle roedd y beili, sef y buarth, ond mae olion ffosydd ac amddiffynfeydd i’w gweld yng nghanol y mieri.

            Gweddol di-pwrpas yw dringo i gopa y domen ond mae’n rhaid gwneud yn does. Bellach mae’r olygfa i lawr am y pentref a dyffryn Merdddwr wedi ei golli oherwydd y coed ond yn amlwg roedd hon yn safle drawiadol yn ol yn y ddeuddegfed ganrif. Ond rwan, mae rhywbeth arall o bwys yma ar stad Hen Foelas. Yma mae’r arwyddion braidd yn gamarweiniol neu efallai y dyliwn i awgrymu braidd yn “gam”. Eto gyda chydig o synnwyr cyffredin a sylwi ar lwybr troed newydd mae rhywun yn cyrraedd ‘Carreg Llywelyn’, ond o ddifri mae’r arwyddion yn awgrymu fod angen cerdded yn bell i’r chwith o’r llwybr – fedra’i ond mynegi barn fod yr arwydd yn gam !

            Y ddadl arall wrthgwrs sydd wedi cael ei chrybwyll yn y golofn hon sawl gwaith yn ddiweddar yw’r diffyg “sylw” neu’r diffyg “ymwybyddiaeth” o’n safleoedd Cymreig, pwyslais ar y gair Cymreig wrthgwrs. Faint ohonnom sydd yn gwybod am “Garreg Llywelyn” ? Pam mor amlwg yw’r garreg hon – dyna chi gwestiwn da.

            Mae’r gwreiddiol bellach yng nghasgliadau’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a copi o’r garreg sydd i’w gweld heddiw ym Mhentrefoelas, er mae golwg ddigon hynafol ar y garreg gyda mwsogl drosti a dim modd o gwbl darllen unrhyw ysgrifen. Hon yw’r garreg “LEVELINUS” neu Llywelyn ac yn ol Coflein yr ysgrif arni yw ‘IN XRISTO EST PRO HOC LAPIDE IN BAL EM(RYS) FORTITUDINE BRACHI CE(LE) BR(IS) LEWELINUS PRINCEPS NORTH (WALLIE)’  .

            Mae cofeb fechan ger y garreg yn nodi fod Col. Wynne Finch wedi trosglwyddo’r gwreiddiol i’r Amgueddfa Genedlaethol ym 1935 er mwyn ei chadw yn saff. Does dim gair o Gymraeg ar y gofeb hon a mae amrywiaeth rhwng yr ysgrif a noder ar y gofeb hon a’r hyn sydd ar safle we Coflein. Rwyf yma wrth iddi dywyllu. Mae cwn y fferm yn cyfarth o bell. Does dim byd yma go iawn sydd yn esbonio arwyddocad y garreg. Anodd dychmygu fod yma fawr o ymwelwyr. Anodd gwybod beth yn union i’w feddwl.

            Yn ol rhai, mae’r garreg yn cofio am y rhodd o dir gan Llywelyn i Abaty Aberconwy ac os felly yn dyddio oddeutu 1198-99 neu yn ddiweddarach wrthgrws; mae Llywelyn yn fyw hyd at 1240. Mae son hefyd fod cyfuniad o’r Gymraeg a’r Lladin ar y garreg. Rwyf angen gwybod mwy, bydd ebost yn cael ei yrru i’r Amgueddfa Genedlaethol yn sicr.

            Unwaith eto, dyma dro fach fydda’n gweithio ar bnawn Sul, ddim rhy bell a rhwng y domen a’r garreg, digon o bethau diddorol i’w gweld. Cyfuno hynny hefo’r Eglwys a dro bach o amgylch Pentrefoelas, pawb yn hapus.

            Yr hyn sydd yn poeni rhywun fwyaf yw pam fod cyn llied o sylw i’r garreg hon. Ydi mae hi ddigon di-nod yr olwg, a does dim gobaith mul o ddarllen unrhywbeth arni, ond mae yma stori, a’r stori a’r drafodaeth yw’r peth diddorol, a’r peth pwysig. Unwaith eto, rhaid gofyn cwestiynau ynglyn a faint o ddiddordeb rydym yn ddangos yn ein hanes.

            Dim digon da rhoi bai ar y system addysg  neu y pwyslais “honedig” ar Gestyll Edward 1af, does dim yn ein rhwystro rhag ymweld a Tomen y Foelas a Charreg Llywelyn heblaw arwydd pren braidd yn gam a llwybr braidd yn anelwig.

 

 

           

No comments:

Post a Comment