Wednesday 29 May 2013

Swydd PRS Herald Gymraeg 29 Mai 2013


 

“Er mwyn llwyddo yn y swydd hon, rhaid i chi allu dangos sensitifrwydd i’r materion gwleidyddol y mae ein sefydliad yn eu hwynebu yng Nghymru a’r diwydiant cerddoriaeth yn ehangach”.

“Advising the organisation on strategy to counter political activists amongst the membership in Wales”

Rwyf yn dyfynu o swydd-ddisgrifiad ar gyfer swydd Uwch Reolwr Datblygu  Aelodau – Cymru o hysbyseb diweddar gan y corff casglu breindaliadau PRS (Performing Rights Society), corff sydd a’i bencadlys yn Llundain, Lloegr (a’r UK hefyd jest i fod yn saff), yn weddol amlwg os nad yn hollol amlwg.

 Mae’n amlwg hefyd i unrhywun sydd yn darllen nad yw’r swydd ddisgrifiad yn gyfieithiaid llythrennol a’r syndod mawr yw eu bod heb gyfeirio at y “membership in Wales” fel “those restless natives up in the mountains”. Byddai ein galw yn “sheep *********” efallai yn mynd rhy bell ond yr un yw’r sentiment ynde, yn y cyd-destyn yma “political activists” yw “bloody nuisance” a hyn gan gorff sydd o ran ei gyfandsoddiad yn cynrhychioli yr aelodaeth (i fod). Rwyf yn disgwyl iddynt ofyn, “where is your leader, can we meet this Owen Glendower fellow ?”

Felly mae’r “political activists” yn rhan o’r aelodaeth sydd wedi meiddio codi llais, herio’r drefn a gofyn am amodau gwaith gwell a thal teg am eu llafur. Fel corff sydd yn cynrychioli’r aelodaeth byddai rhywun yn tybio y byddai’r corff yn cyd-ymdeimlo ac yn gwrando ar yr aelodaeth ond nid dyma sydd yn digwydd yn yr achos yma. Yn yr achos yma rydym fel Merched Beca a Siartwyr Llanidloes yn cael ein gorfodi i weithredu gan fod y “Meistri” yn gwrthod gwrando. (Y gweithredu oedd y “streic” diweddar yn rhwystro BBC Radio Cymru rhag chwarae caneuon EOS)

Bron fod rhywun yn clywed “Rule Britannia” dros y sustem tanoi, fod carped sychu traed hefo Plu Tywysog Cymru ac Ich Dien yno i’n croesawu dros drothwy  a fod y gweithly yn PRS yn dal i wisgo hetiau “bowler” ac yn cario ymbarel a “briefcase” i’r gwaith ac yn byw yn rhywle fel Slough. Dyma Reggie Perrin, Ealing Comedy, Monty Pythnon a choler a thei yn llithro yn ol heb i neb sylwi i’r presenol, fel hunllef ddrwg o oes a fu

 Mae’r 50au yn ol, croeso yn ol Attlee, Churchill, Eden a Macmillan, neu efallai’r 60au a’r Rhyfel Oer. Dyma The Spy Who Came in From The Cold, Richard Burton yn edrych dros Checkpoint Charlie, mewn du a gwyn wrthgwrs, hefo mwg, digonedd o fwg a milwyr yr hen DDR mor dlws yn eu lifrau, Claire Bloom mor dlws hefyd a chyfarwyddwr  dawnus fel Martin Ritt i sicrhau fod y goleuo yn berffaith ac effeithiol ar gyfer stori John Le Carre – ie wir y Rhyfel oer.

Efallai fod yn angenrheidiol felly i’r ymgeisydd wylio The Spy Who Came in From The Cold , fod angen iddo fo neu hi allu ymdoddi yn ol i’r gymdeithas gerddoriaeth Gymraeg a chyfeillio a’r “activists” cyn sleifio yn ol i Lundain gyda adroddiad wedi ei deipio ar deipiadur (nid gliniadur) gyda stamp coch “CYFRINACHOL” yn fawr ar y clawr. Rhaid troi y Cymro felly i fod yn asiant-dwbl.

            Heb os mae’n darllen fel rhywbeth allan o’r llyfr hanes yntydi, unwaith eto, onid “political activists” oedd ein cyn deidiau hefyd yn mynnu cyflog ac amodau gwaith teg wrth sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ym 1874. Sgwni pa ansoddeiriau ddefnyddiwyd pryd hynny i ddisgrifio’r  “agitators” a’r “activists” ? Rwyf am yrru copi o lyfr  R Merfyn Jones “The North Wales Quarrymen 1874-1922” i’r ymgeisydd llwyddianus ac yn wir at fwrdd y PRS – darllenwch hwn.

            Rwyf am yrru llun o’r wal gerrig ar Fynydd Cilgwyn iddynt, wal a godwyd yn ddyddiol gan Arglwydd Niwbwrch i geisio “dwyn” y tir comin a wal a dynwyd i lawr yn nosweithiol gan chwarelwyr Cilgwyn wrth iddynt ddychwelyd adre o’r gwaith (a mi oedd fy nghyn-deidiau go iawn yn rhan o’r weithred yma – mi sgwennais am hyn ychydig yn ol yn yr Herald yn dilyn ymweliad i’r safle gyda fy nhad oedd yn cofio’r stori).

            Efallai fod rhan o’r hyn rwyf wedi sgwennu yr wythnos hon yn ymylu ar fod yn afresymol, yn ddychanol ac yn ffwrdd a hi, ond mae hyn yn fwriadol er mwyn dangos fod y datganiad yma gan PRS, sydd mewn print ac yng ngolau’r dydd yn dangos pam mor afresymol, allan o gysylltiad ac anacronistaidd yw’r swydd ddisgrifiad yma. Swydd “cynffonwr” os bu un erioed !

            Fe gyfeirwyd at yr hysbyseb yma ar safle we Golwg360 ac i ddechrau rhaid mi gyfaddef fy mod yn ei chael hi’n anodd iawn credu fod y PRS wedi defnyddio’r fath iaith, onid dyma’r ffordd ora o gael sywl drwg a negyddol yn y wasg medda fi, yn fy niniweidrwydd ? Yn fy niniweidrwydd yn sicr, achos heblaw am Golwg360 dwi ddim yn credu i mi glywed fawr o son am y peth yn y wasg.

            Edrychais am ymateb ar trydar ond doedd y trydarati Cymraeg arefrol ddim yn trydar. Deallaf fod EOS yn fwriadaol heb or ymateb, gan adel i’r PRS dyllu eu twll ond yw ein difaterwch cymaint bellach nad oes neb yn nunlle yn codi llais. Distaw fu’r Byd Pop Cymraeg. Distaw yn wir fu’r “political activists”. Yr unig rhai oedd yn mynegi unrhyw farn oedd aelodau Plaid Cymru fel Bethan Jenkins, oleiaf mae’r Aelodau Cynulliad ifanc yma yn fodlon trafod a chysylltu drwy trydar – y math o gysylltiad ac atebolrwydd sydd i’w ddisgwyl yn yr oes amlgyfrwng yma.

            Anhygoel a dweud y lleiaf. Anhygoel fod corff fel PRS yn cynnwys y fath frawddeg mewn swydd ddisgrifiad ac anhygoel ein bod ni fel Cymry Cymraeg mor hollol ddi-ymadferth.

1 comment:

  1. Byddwn i'n dweud Chalfont St Giles yn hytrach na Slough ei hun.

    ReplyDelete