Thursday 13 June 2013

Eglwys St Cybi, Herald Gymraeg 12 Mehefin 2013


 

Yn fy ngholofn yr wythnos dwetha (Herald Gymraeg 5 Mehefin 2013) cyfeirias at Gwilym Cowlyd fel rhyw fath o “arwr” i mi a’r wythnos hon dyma grybwyll gwr arall lle mae parch mawr gennyf ato, yn sicr am ei waith fel hynafiaethydd ac fel arloeswr yn y maes archaeoleg, W.O Stanley.

            Roeddwn wedi ymweld a Chaergybi ar gyfer lansiad yr arddangosfa gelf ‘Meini Hirion Mon’ yn y llyfrgell dan ofal Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Yn wir roedd gwaith disgyblion ysgolion cynradd Mon a’r artist Julie Williams yn ddim llai na bendigedig, trawiadol ysbrydoledig a hynod lliwgar a byddwn yn argymell fod pawb yn galw heibio yn ystod yr wythnosau nesa i weld yr arddangosfa hynod yma. Bydd cyfle dros y misoedd nesa hefyd, i weld yr arddangosfa yn Oriel Ynys Mon a Galeri, Caernarfon ond rheswm arall dros argymell mynd i weld yr arddangosfa yng Nghaergybi yw fod modd wedyn bachu ar y cyfle i ymweld ag Eglwys St Cybi.

            W.O Stanley oedd yn gyfrifol am y gwaith cloddio ar gytiau crynion Ty Mawr ger Ynys Lawd a hefyd ar y beddrodau a’r cytiau ym Mhorth Dafarch. Bu’m ddigon lwcus i gael hyd i’w lyfr ‘Cyttiau’r Gwyddeolod, Antiquities in Holyhead Island and Anglesey by The Hon. William Owen Stanley F.S.A’ yn ystod un o ffeiriau llyfrau Cymdeithas Bob Owen (Y Casglwr) yn ddiweddar. Trysor o lyfr am y lluniau inc o’r cytiau heb son am ddadansoddiad a nodiadau gofalus Stanley, yn sicr dyma un o arloeswyr gwaith cloddio archaeolegol yng Nghymru.

            Cydnabyddir Stanley yn y cyhoeddiad ‘Trafodion Canmlwyddiant 2011’ , cyhoeddiad gan Gymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Mon, mewn erthygl gan Frances Lynch ar hanes cloddio archaeolegol ar Mon, lle mae Lynch yn cydnabod mae Stanley oedd “tad archaeoleg ar yr Ynys”. Mae Lynch hefyd yn cyfeirio at ei fam, y Foneddiges Stanley a mae’n debyg mae iddi hi mae’r diolch am achub cromlech Trefignath yn ogystal a throsgwyddo’r diddordeb mewn henebion i’w mab.

            Felly dyma gamu mewn i Eglwys Sant Cybi a gwneud fy ffordd am Gapel Dewi Sant, neu Gapel Stanley fel mae rhai yn ei alw, capel a godwyd dan ofal y pensaer Gilbert Scott ym 1897 er cof am Stanley. Mae’n debyg i Gilbert Scott fod yn gyfrifol am adnewyddu darnau o’r eglwys rhwng 1877 a 1879 a mae oel ei waith hefyd i’w weld yng Nghadeirlan Bangor.

            Dyma’r tro cyntaf i mi gael mynediad i’r eglwys hon a rhaid cyfaddef fod y rhan helaeth o’m sylw wedi cael ei roi i gofeb mamor Carrara, W.O Stanley. Gorweddai Stanley gyda ei law chwith wrth ei ochr a’i law dde ar ei fol o dan ei fron. Mae copa ei ben yn foel ond mae gwallt yn llifo tu cefn i’w glust a mae golwg fel petae yr hen greadur yn gorwedd yn heddychlon gyda llian drosto a chlustog o dan ei ben. I’r naill ochr mae dwy angel yn edrych drosto mewn gofal. Dyma chi beth ydi cofeb.

            Er mor dywyll oedd hi yng nghornel yr eglwys daeth fy llygaid i ymgynefino mewn amser a dyma drio cymeryd holl ysblander yr olygfa o’m blaen i mewn a’i ddadansoddi yn bwyllog. Nid hawdd gan fod llen o bolion haearn yn ein gwahanu, felly dyma fod yn hogyn drwg a benthyg stol i mi gael edrych yn iawn ar gofeb Stanley. Dyma wneud yr hyn rwyf yn ei wneud bob tro, cymeryd llwyth o luniau a wedyn dyma roi y stol yn ei hol yn daclus.

            Does dim dwywaith fod hon yn gofeb teilwng os nad ysblenydd, ond does dim yma go iawn i esbonio arwyddocad gwaith Stanley fel hynafiaethydd. Ef er engraifft roddodd yr esgyrn mammoth a ddarganfuwyd ym mhorthladd Caergybi ym 1864 fel rhodd i’r Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain, esgyrn sydd bellach ar fenthyciad i Amgueddfa Morwrol Caergybi (trysor bach arall yn y dref hon).

            Ond nid dyma’r oll yma yn y capel bach hynod, gan nad oes modd osgoi y ffenestr lliwgar uwchben cofeb Stanley. Gwydr lliw yn dangos ffrwythau ar goed yw hon a mae rhywun yn adnabod arddull William Morris yn syth wrth edrych ar y ffenestr. Yma mae ychydig o ddryswch, yn ol rhai ffenestr o ffatri William Morris yw hon, neu yn arddull Morris, a honnir mae’r cynllunydd oedd gwr o’r enw Bowman ond yn ol eraill y cynllunydd oedd
Edward Burne-Jones a gynlluniodd y ffenestr yng ngweithdy ei ffrind William Morris.

 

            Gwraig W.O Stanley oedd Ellin Williams o deulu Bodelwyddan wrth gwrs, hi sydd wedi rhoi ei henw i Dwr Ellin, y twr gwylio adar RSPB bellach, ger Ynys Lawd. Mae ffenestr arall yn y capel er cof am Ellin, gyda’r seintiau  Theresa, Dorothy ac Agnes ac unwaith eto awgrymir fod y ffenestr yma yn arddull Burne-Jones. Yma rhaid cyfaddef nad arbeingwr ydwyf ond byddai’n ddiddorol iawn cael clywed gan ddarllenwyr yr Herald Gymraeg os oes gan unrhywun wybodaeth pellach am wenuthurwyr y ffenestri yma.

            Maddeuwch i mi am ail-adrodd, ond byddaf yn dweud o hyd fod angen ymweliad arall os am wneud cyfiawnder ag Eglwys St Cybi. Roeddwn mor fodlon cael treulio ychydig amser yng nghwmni W.O Stanley fel nad oedd fawr o awydd arnaf i gychwyn archwylio gweddill yr eglwys yn llawn – felly mae angen ymwleiad arall er mwyn darganfod nodweddion eraill St Cybi.

            Ar y llaw arall, rwyf yn hen gyfarwydd a thu allan St Cybi gan fod yr eglwys yn eistedd yn dwt a thaclus o fewn y gaer Rhufeinig, hon yw’r gaer wrth gwrs sydd yn rhoi yr enw i’r dref Caer Gybi. Nodwedd amlycaf y muriau Rhufeinig yw’r patrwm “asgwrn-penwaig” gan fod y cerrig wedi ei gosod am i fyny ac yn groes i’w gilydd. Nodwedd arall ddiddorol i’r gaer yw fod y ffordd fawr ger y porthladd unwaith yn ddwr gan mae yno oedd y mor yn gyrraedd yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Caer arfordirol oedd hon yn gwarchod Gogledd Cymru rhag ynosodiadau o’r mor.

            Dyma droi yn ol at ddechrau’r stori, treuliwch amser yn darganfod Caergybi, ewch draw i Lyfrgell Caergybi i weld yr arddangosfa ‘Meini Hirion Mon”, chewch chi ddim eich siomi ac os oes cyfle, ac os yw’r eglwys ar agor, ewch i mewn i weld cofeb famor W.O Stanley yr hynafiaethydd a’r arloeswr archaeoleg o Fon.

No comments:

Post a Comment