Wednesday 17 July 2013

Gregynog Herald Gymraeg 17 Gorffennaf 2013.




JMW Turner ‘The Morning After The Storm’ (c1840-1845), Claude Monet ‘San Giorgio Maggiore’ (1908) ac wrth gwrs Renoir ‘La Parisienne’ neu’r Ladi Las, fel mae ambell un yn disgrifio’r neu gyfeirio at y llun. Wrth ymweld ac orielau celf yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, un peth sydd yn creu argraff yw faint o’r lluniau ‘eiconaidd’ yma sydd wedi eu gadael i’r Amgueddfa fel rhodd gan y chwaeorydd Davies.

            Bu rhaglen wych ar S4C yn ddiweddar gyda Ffion Hauge yn olrhain hanes Gwendoline (1882-1951) a Margaret (1884-1963) wyresau David Davies, Llandinam y gwr wnaeth ei ffortiwn drwy adeiladu porthladd y Barry a rheilffyrdd er mwyn allforio glo, fe wnaeth ffortiwn o’r pyllau glo yn ogystal.

            Bydd unrhywun sydd yn teithio ar hyd yr A470 yn gyfarwydd a chofeb David Davies yn Llandinam ac atgof doniol mewn ffordd sydd gennyf bob amser o’r hen David Davies gan fod rhywun wedi gosod ‘cone traffic’ am ei ben a hwnnw wedi ei adael yno am flynyddoedd yn ystod ein ieuenctyd yn Sir Drefaldwyn.

            Dychwelais i Gregynog i recordio rhaglen ‘Hawl i Holi’ gyda Dewi Llwyd. Roeddwn yn edrych ymlaen gan fod gweithio gyda Dewi bob amser yn hwyl ac yn bleser ond yn fwy byth na recordio ‘Hawl i Holi’ roeddwn wedi edrych ymlaen i dreulio ychydig o amser o amgylch Gregynog. Mae blynyddoedd ers mi fod yno a roeddwn am drio dilyn dipyn ar ol traed Gwendoline a Margaret, eistedd yn y gerddi, edrych ar adeiladwaith y ty ac anadlu awyr iach Maldwyn.

            Ond fel sydd o hyd yn digwydd yn y Byd prysur hwn, dyma alwad ffon gan Hefin Elis, cyn aelod o’r grwp Edward H wrthgwrs, a mae Hefin am i mi gyfrannu i raglen radio mae’n recordio ar hanes y grwp Edward H (i’w ddarlledu ar Radio Cymru Awst 1af).Digwydd bod yr un diwrnod roeddwn yn cloddio hefo Prifysgol Bangor i fyny ym Meillionydd ym Mhen Llyn ar safle ‘cylchfur dwbl’  Oes Efydd / Oes Haearn, felly roedd rhiad cyfarfod Hefin ar fy ffordd lawr am Sir Drefaldwyn, ym Mhenrhyndeudraeth i recordio, a dyma ddiwedd ar unrhyw obaith o gyrraedd Gregynog awr neu ddwy cyn dechrau recordio rhaglen Dewi Llwyd.

            Mae unrhyw gyfle i drafod Hanes Canu Pop Cymraeg yn bwysig ac yn un na fyddwn  yn ei fethu a doniol oedd cyfarfod a’r gyflwynwarig annwyl a hynod broffesiynnol Mari Lovgreen sydd yn dyfynu rhywbeth ddywedais yn y Faner ym 1985 mae “cancr y Cymry oedd y Steddfod a Edward H”. Efallai na fyddwn yn ei ddweud cweit mor haerllyg heddiw ond yn y bon, mae’r pwynt yn iawn, os ydym yn fodlon hefo cyn llied o amrywiaeth ac ystad o ddiwylliant mae hi yn ddu arnom.

            Nid beirniadaeth uniongyrchol o’r Steddfod nac Edward H (er mi oedd o ar y pryd) ond trio gwneud y pwynt fod angen Popeth yn Gymraeg, rhaid ymestyn ffiniau yn hytrach na’i cyfyngu nhw – rhaid cael mwy o amrywiaeth nid llai – ac efallai mae beirniadaeth o agweddau’r Cymry Cymraeg (culni diwylliannol) oedd hyn yn ei hanfod, neu rhywstredigaeth yn sicr, ein bod yn fodlon hefo “un grwp” neu “un prif ddigwyddiad”.

            Rhyfeddach byth oedd mae Hefin oedd yn recordio, a rhyfeddach byth mae’r person nesa yn y rhes i gael ei recordio oedd Dafydd Iwan. Rhaid chwerthin, achos wrth i mi gyrraedd Gregynog pwy oedd yn rhannu gofod a mi ar y panel ond neb llai nau Huw Jones “Dwr” sef Cadeirydd S4C. Chwerthais na fyddwn wedi dod a ‘ffelt-tip’ du hefo mi a chael y tri i arwyddo hen recordiau feinyl !

            Unwaith eto mae yna gwestiynau gan y gynulleidfa ynglyn a nifer gwrandawyr BBC Radio Cymru a sut i ddenu gwilwyr newydd at S4C ? Awgrymais fod angen i’r “sianeli” bellach fod yn darparu cynnwys yn hytrach na gweithredu fel sianeli neu gorsafeydd traddodiadol. Syniad hen ffasiwn yw “Sianel Deledu” ond mae’r angen am gynnwys Cymraeg yn bwysicach nac erioed. Dyma ni yn ol i’r dyfyniad yn y Faner ym 1985.

            Yr hyn sydd angen yw AMRYWIAETH a llawer mwy o honno, ar lwyfannau amrywiol a dim am y tro cyntaf dyma ofyn cwestiwn, oes unrhywun o gwbl yn gwrando ? Mae’r cwestiynau yma yn tin-droi, mewn pwll di-waloed o falu awyr. Yn fy rhywstredigaeth dyma ofyn pryd bu i Brif Weithredwr S4C, Ian Jones drydar ddwetha ? Dyma’r modd mae pobl mewn sefydliadau ayyb yn gallu “cysylltu” a’r gwrandawyr neu’r gynulleidfa yn uniongyrchol.

            Dyma ffordd mor hawdd ac effeithiol o “wrando” a chyfathrebu a’r werin bobl yn yr Oes Ddigidol, y tro olaf i Ian Jones drydar oedd 19 Tachwedd 2012. Ar y llaw arall gweler Marilyn Lewis, pennaeth CADW yn trydar ychydig oriau yn ol wrth i mi sgwennu’r golofn yma.

            Wyddoch chi beth, byddwn wedi gwenud unrhywbeth i osgoi’r drafodaeth yma, roedd Huw yn gampus iawn (fel chwaraewr criced) yn batio’r bel yn ol a finnau yn 51 oed yn gyrru adre ar ol y rhaglen yn teimlo fel y dyn ifanc yn ei ugeiniau oedd yn herio drwy golofnau’r Faner. Ychydig rhywsut sydd yn newid, a fel gyda agweddau o fewn y Byd Pop Cymraeg, sydd yn ymddangos fel petae wedi colli unrhyw weledigaeth na phwrpas gwelidyddol mae’n ofod y dymunaf gadw’n glir ohonno.

            Bellach mae’n rhaid ‘creu er mwyn chwalu’ , mae’n rhaid gwthio ffiniau’r Gymraeg wrth reswm ond byddai treulio oriau yn trafod Gwendoline a Margaret a chael gwerthfawrogi’ ‘The Morning After The Storm’ wedi bod yn llawer mwy pleserus na trafod yr un hen bethau (sydd yn amlwg yn poeni’r gynulleidfa) ond os yw’r cwestiwn yn cael ei ail adrodd mae’n awgrymu fod dim yn newid / neb yn gwrando ?

1 comment: