Wednesday 14 August 2013

Archaeoleg v Rock'n Roll Herald Gymraeg 14 Awst 2013.


 

Yn ystod Mis Gorffennaf bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn gwneud gwaith cloddio pellach o amgylch safle Ysgol yr Hendre, Llanbeblig, Caernarfon. Fe gyfeiriodd y golygydd Tudur Huws Jones at Adroddiad Llanbeblig yn yr Herald (05.06.2013) sydd i’w gael i’w lawrlwytho o safle we’r Ymddiriedolaeth.

            Y bwriad yn ystod Gorffennaf oedd cael golwg pellach ar y safle lle bu olion mynwent ganol oesol gynnar a hefyd poptai pydew (ar gyfer pobi bara i’r milwyr) yn dyddio i oddeutu 77 oed Crist, sef yr union gyfnod sefydlwyd y gaer Rhufeinig, Segontium. Felly y ddamcanaieth oedd fod yma wersyll ar gyfer y Rhufeiniaid oedd yn adeiladu’r gaer gerllaw – eto i gael mwy o wybodaeth lawrlwythwch yr adroddiad.

            Fy ngwaith i yn ystod y cloddio, yn ogystal a chael cyfle i ymuno yn yr hwyl o gloddio, oedd cydlynu’r ymweliadau gan y Wasg i’r safle a chafwyd bore bendigedig yng nghwmni criw rhaglen ‘Heno’ S4C a’r gyflwynwriag Elin Fflur. Rwan ta, dwi’n adanabod Elin wrthgwrs fel y gantores pop, neu’r “seren pop”, fel aelod o Carlotta hefo’i brawd Ioan Llywelyn ar un adeg  cyn iddi fentro i faes y gyrfa unigol. Rydym hefyd yn adnabod Elin fel wyneb cyfarwydd ar y teledu, fel cyflwynwriag sydd bob amser yn hapus a brwdfrydig.

            A dyma frwdfrydedd eto gan Elin, mae’n rhaid fod y criw ffilmio wedi bod ar y safle am oleiaf dwy awr. Roedd Elin am siarad a phawb medrai’r Gymraeg, ond yn wahanol i bobl teledu arferol sydd ond eisiau’r dyfyniad ar y ffilm a diolch yn fawr, ffwrdd a ni, roedd gan Elin amser i bawb. Teimlai pawb fod eu cyfraniad o bwys wrth i Elin wrando’n astud. Mae’r ddawn ganddi i wneud pobl yn gyfforddus o flaen camera ac i deimlo fod eu sylwadau yn bwysig.

            Ond yr argarff gefais i y bore hwnnw oedd fod diddordeb Elin wedi ymestyn tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir gan gyflwynwraig broffesiynnol, roedd hi wirioneddol a diddordeb yn yr hyn oedd yn digwydd yn Llanbeblig. Roedd Anita a Sadie o’r Ymddiriedolaeth yn arwain gwahanol ddosbarthiadau ysgol i’r safle – a rheini wedyn yn cael cyfle i gloddio yn y baw – eto pa well ddeunydd ar gyfer y teledu ? Rhaid cofio hefyd fod yn hollol fwriadol yn ystod y cloddio i roi gwahoddiad i’r gymuned leol, gwirfoddolwyr o’r newydd a disgyblion ysgol i gymeryd rhan yn y gwaith cloddio !

            Cymeriad adnabyddus arall o fyd S4C/ BBC Radio Cymru sydd wedi dangos cryn ddiddordeb mewn archaeoleg / henebion yw’r digrifwr Tudur Owen, cymaint felly fy mod wedi gaddo mynd a Tudur am dro rhyw ben, efallai i weld safle hynod drawiadol fel Bryn Cader Faner neu Carneddau Hengwm yn Ardudwy.

            Bu Tudur yn y ‘newyddion’ fel petae yn ddiweddar oherwydd “Gwilym Owen-gate”. Yn eironig iawn wrth recordio rhaglen Hawl i Holi yn ddiweddar ar gyfer Radio Cymru bu i mi gyfeirio at Gwilym Owen fel “deinasor” oherwydd ei sylwadau am gyflwynwyr fel Tudur, Eleri Sion ac os dwi’n cofio yn iawn Dafydd a Caryl. Ond y tro yn y cynffon oedd i mi ddatgan wedyn fy mod innau hefyd yn ddeinasor ac yn hollol gytun a Gwilym – mae’r rhaglenni yna yn ddigon i mi droi drosodd at Radio 4.

            Dydi hynny wrthgwrs ddim yn fy rhwystro rhag gyrru ymlaen hefo Tudur, ac yn wir mae’r polisi cerddoriaeth ar ei raglen yn wych, ond fedra’i ddim gwrando ar bobl yn chwerthin yn uchel ar jocs eu hunnan a fedra’i ddim dioddef rwdlan. Y rheswm efallai i mi ddefnyddio’r gair “deinasor” oedd wrth gyfeirio at y rhaglen ar Radio Cymru yn ddiweddar lle holwyd Gwilym a Sian Gwynedd (Golygydd Radio Cymru)  gan Dylan Iorwerth am ffigyrau gwrando Radio Cymru a doedd dimson na thrafod o gwbl am yr angen am fwy o ddewis ac amrywiaeth ar y We (chwi gofiwch nad oeddwn am godi hyn byth eto achos does neb yn gwrando !!!!)

            A hyn oll yn fy arwain wedyn at gwestiwn holwyd i mi yn ystod darlithio am “Beth yw Archaeoleg ?” yn ystod Gwyl Arall eleni, sef beth oedd y cysylltiad rhwng canu pop ac archaeoleg. Cyfeirio oedd yr holwr wrthgwrs at Julian Cope, cyn leisydd y Teardrop Explodes o Lerpwl, a ysgrifennodd lyfr cynhwysfawr a gwirioneddol ddiddorol a doniol ar adegau o’r enw  The Modern Antiquarian” (Thorsons, 1998).

            Yn ei lyfr mae Cope yn egluro sut i ynganu Bryn Celli Ddu – “Brin Kethle Thee”, hwn yw’r awdur oedd ofn y defaid ym Modowyr, cromlech gyfagos, os maddeuwch i mi am ddyfyniad arall gan Copey y Sgowsar “As we crossed the field ….. the sheep faced us and refused to back down”.

            Ychydig flynyddoedd yn ol bu’m ar daith o Gymru gyda’r canwr gwleidyddol Billy Bragg a roeddwn wedi edrych ymlaen am gael cyfle i drafod gwleidyddiaeth Cymru hefo fo. Dros yr holl bythefnos o deithio yr unig ddiddordeb gan Bragg oedd fy holi am henebion i’w gweld yn ar hyd y daith a finnau wedyn yn ei gyfeirio at Abaty Cymer, neu lle bynnag, ar hyd yr A470.

            Cofiaf sgwrs arall gyda’r actores Sharon Morgan rhyw dro wrth ffilmio ‘Pethe’ a hithau’n son fod ganddi radd mewn archaeoleg, cyn troi yn seren eiconaidd y Byd actio gan ymddangos yn y ffilm ‘seminal’ ‘Grand Slam’ wrthgwrs. Gradd mewn hanes oedd gan Rhodri Llwyd Morgan neu Rhodri Cerrig Melys (sef y grwp roc Cymraeg  o Aberteifi) fel oedd o i ni yn y Byd Pop ac yn ddiweddar iawn rwyf wedi cael cyfle i gyd-weithio a chyffaill iddo, cyn actor arall Morgan Hopkin, sydd bellach yn cyfarwyddo cyfres am Archaeoleg ar gyfer S4C.

            A sut mae modd anghofio’r hanesydd, awdur, rebal a chymeriad hynod a dweud y lleiaf Dewi Prysor ? Cofiaf Prysor fel hogyn ysgol yn un o ddilynwyr prin yr Anhrefn yn eu dyddiau cynnarganol yr 80au. Heb “drefnwyr” fel Prysor yn ein gwahodd i Drawsfynydd fydda’r grwp rioed di cael cyfle i fagu dilyniant hyd a lled Cymru.

            Y dyddiau yma mae Prysor yn cyflwyno’r rhaglen ardderchog (er fod y cyfresi bell, bell rhy fyr) ‘Darn Bach o Hanes ar S4C a sawl gwaith rwyf wedi cael y plerser o gyd ffilmio hefo Dewi mewn lleoliadau archaeolegol.

            Felly oes yna fymryn o wirionedd i’r dywediad mae “Archaeoleg yw’r Rock’n Roll Newydd” ?

 

 

 

No comments:

Post a Comment