Wednesday 28 August 2013

Does dim brodorion yng Nghymru. Herald Gymraeg 28 Awst 2013


 
Herald Gymraeg 28 Awst 2013.

Does dim brodorion yng Nghymru; rydym i gyd yn fewnfudwyr” dyna’r dyfyniad gwych gan Dr Eurwyn William yn ei gyflwyniad i’r llyfr 'Discovered in Time, Treasures From Early Wales' (National Museum Wales Books 2011). Llyfr yw hwn sydd yn amlygu 70 gwrthrych o’r cyfnodau cyn-hanesyddol hyd at y Canol Oesoedd o gasgliad yr Amgueddfa mewn ymdrech i ddeall yn well pwy yw’r bobl sydd wedi byw yma ar y darn bach o dir a elwir bellach yn ‘Cymru’.

            Roeddwn wedi cael gwahoddiad gan yr Amgueddfa Genedlaethol i gymeryd rhan mewn trafodaeth am yr Amgueddfa Genedlaethol yn benodol, yn ogystal ac amgueddfeydd yn gyffredinol, yn yr oes sydd ohonni, ym Mhabell y Cymdeithasau ar Ddydd Mercher y Steddfod ac fe dddyfynais Eurwyn i agor y drafodaeth.

            Yn gynharach yn yr wythnos roedd yr Archdderwydd newydd Christine James wedi awgrymu fod angen denu mwy o bobl o gefndir ethnig i’r Orsedd a rhyfedd o beth, sut mae rhywun yn taro’r zeitgeist weithiau, dyna’n union oedd yn mynd drwy fy meddwl wrth i mi deithio i gyfeiriad Dinbych, “go brin wela’i fawr o wynebau croenddu ar y maes heddiw”, nid fy mod yn meddwl am yr Orsedd yn benodol ond yn fwy am y Steddfod yn gyffredinol.

            Chafwyd ddim cyfle i ymhelaethu ar ddatganiadau Christine James yn ystod ein trafodaeth amgeueddfaol. Yn rhannu’r llwyfan gyda mi roedd Gareth Miles a Sian Melangell felly gallwch ddychmygu cyfeiriad a phwyslais ein trafodaeth a hynny ar ddiwrnod dychwelyd Mantell Aur yr Wyddgrug i Amgueddfa Wrecsam tan ganol Medi. Do wir, fe awgrymodd Miles fod Amgueddfeydd Lloegr (sef y rhai “Prydeinig”) yn ganlyniad casglu (dwyn) gwrthrychau o’r cyfnod Imperialaidd / Fictoraidd.

            Ddigon gwir yn aml wrthgwrs, a dwi ddim yn credu fod neb yn anghytuno cymaint a hynny a Gareth ond rhaid oedd awgrymu fod angen i ni symud y drafodaeth ymlaen, fy nheimlad i yn sicr yw fod angen iaith ac agwedd newydd ar gyfer yr oes ddatganoledig yma, un fwy ‘hyderus’ os mae’r dyna’r gair, achos mae’r Ymerodraeth Prydeinig drosodd, er fod rhai efallai heb sylwi, a mae angen i’r iaith newydd yma ein harwain at gael perchnogaeth ar ein dyfodol yn hytrach na fod yn gaeth i’r hen ystradebau, “Imperialaidd”, “Prydeinig”, “gormeswyr” …… hynny yw, mae modd newid pethau ond i ni fod yn fodlon newid yr iaith.

Roedd cwestiwn ynglyn a chartref parhaol y Fantell Aur yn un lle roedd barn unfrydol y dylid dychwelyd y Fantell i Gymru (o’r Amgueddfa Brydeinig). Efallai bydd yr oriel newydd yn Sain Ffagan yn gweddu – ond bydd rhaid wrth ymgyrch o ddifri gyntaf ! Roedd engraifft ‘Meini Pemprys’, sef cerrig bedd Gwynhoedl ac Edern a ddychwelwyd i Plas Glyn-y-weddw yn Llyn o’r Ashmolean yn Rhydychen yn dilyn ymgyrch gan Gyfeillion Llyn ac R.S Thomas yn engraifft da lle mae gwrthrychau wedi cael “dychwelyd gartref”.

O fewn y cwta 40 munud roedd gormod i’w drafod adim digon o amser i’r gynulleidfa gael mewnbwn i’r drafodaeth ond un peth oedd yn sicr – mae digon yma i’w drafod – a mae yma drafodaeth sydd angen i’w barhau. Roedd yn fraint cael gwahoddiad i ymuno yn y drafodaeth gan yr Amgueddfa Genedlaethol a rhaid cyfaddef fy mod wedi mwynhau cwrdd a Gareth a Sian. Ar ddiwedd y sesiwn rhoddwyd copi o araith Pont Trefechan, Miles (Cyhoeddiad y Blaid Gomiwnyddol) gan Gareth fel anhreg bychan i Sian, minnau a Mari o’r Amgueddfa.

Ond i fynd yn ol at ddyfyniad gwreiddiol Dr Eurwyn William, onid yw hyn yn ein herio i newid iaith a naws y drafodaeth ehangach ?  Pryd bynnag oedd ‘Cymru’ nid dyna oedd yr enw ar y lle, na’r syniad o le, pan roedd y plentyn Neandertalaidd yn colli ei ddanedd yn Ogof Pontnewydd. Hyd yn oed pan roedd y Fantell Aur yn cael ei gladdu o amgylch gwraig o ardal “Wyddgrug” oddeutu 1900 cyn Crist, doedd dim syniad o Gymru na Chymreictod a does dim sicrwydd beth oedd yr Iaith mor fuan a hynny yn yr Oes Efydd.

Ar ol yr Oes Ia olaf mae tystiolaeth fod dyn wedi treulio amser ar Trwyn Du ger Aberffraw er engraifft, yn hela ac yn chwilota am fwyd, o bosib yn dymhorol, ond y dyddiad yma oddeutu 7,000 cyn Crist yw’r dyddiad cyntaf mewn ffordd lle mae dyn yn aros yn y darn o dir a elwir yn Gymru o hynny ymlaen. Erbyn 4,000 cyn Crist mae amaethyddiaeth yn cael ei gyflwyno o’r Cyfandir, neu o dros y mor, a dyma ddechrau am y tro cyntaf o berthyn i le ac i ddechrau perchnogi tir.

Mae cromlechi Dyffryn Ardudwy ymhlith y rhai cynharaf yng Ngogledd Cymru, yn dyddio o ganol y pedwerydd mileniwm cyn Crist. Efallai mae dyma’r awgrym cyntaf yng Ngogledd Cymru o amaethwyr sydd wedi ymgartrefu yma, sydd yn perthyn i le ac yn ‘hawlio’ perchnogaeth drwy adeiladu cofadeiladau i’r meirwon sef ei cyn dadau ?

Felly beth mae astudio’r cyfnodau cyn-hanes yn gallu ei ddysgu i ni fel Cymry ? Ein bod i gyd yn fewnfudwyr, mae rhai wedi bod yma yn hirach na’i gilydd, ond does neb yn frodorion; rhaid dweud fod Eurwyn William wedi agor y drafodaeth mewn ‘steil’.

2 comments:

  1. Dani gyd yn fewnfudwyr o Affrica'n wreiddiol.

    ReplyDelete
  2. Erthygl diddorol, ond dw i ddim cweit mor siwr bod yr Ymerodraeth Prydeinig drosodd cweit eto!

    Er bod gyda ni datganoli, nid yw hyn yn golygu annibyniaeth, ac mae'r Alban yn dal yn rhan o'r DU.

    Nid fel bod gen i fawr o gariad at syniad o 'annibyniaeth' ynddo ei hun, gan fy mod i'n anarchydd, ond mae gen i lawer o ddiddordeb mewn bod yn rhydd, ac mae dod yn annibynol yn rhan o'r broses.

    Ond fel y cyfryw, rwy'n cytuno y dyal fod iaith newydd er mwyn i ni hawlio perchnogath ar ein dyfodol.

    ReplyDelete