Wednesday 11 September 2013

'Bloody Old Britain' Herald Gymraeg 11 Medi 2013


 

Heulwen ar hyd y glennydd - a haul hwyr

A’i liw ar y mynydd

Felly Llyn ar derfyn dydd,

Lle i enaid gael llonydd.

Efallai i J. Glyn Davies grisialu popeth yn y llinell olaf yna. Sawl gwaith rwyf wedi ei ddyfynu yn y golofn hon, a dyna pam mae rhywun yn cerdded llwybrau, mynyddoedd, yr afordir, coedwigoedd ynde, yn y gobaith fod ein henaid bach gor-brysur yn cael y mymryn lleiaf o lonydd – i ffwrdd o swn y Byd.

Ond wedyn mae yna linell gan T.H Parry Williams sydd hefyd yn crisialu popeth, sef i ni beidio meddwl ein bod mor bwysig a hynny, pethau bach gymharol di-bwys, yma am gyfnod byr, ydym wedi’r cwbl, yn gobeithio ein bod yn gwneud rhyw wahaniaeth, yn cael rhyw effaith ond yn y bon, beth ydym “ond swp o esgyrn mewn gwisg o gnawd ?”.

Does dim dwy waith fod Cymru wedi cynhyrchu toreth o feirdd a llenorion sydd wedi gallu mynegi pethau oedd angen eu mynegi ond ychydig iawn sydd wedi gallu son am beth sydd ar y tirwedd yn hytrach na chanmol ei brydferthwch. Byddaf yn dweud yn aml iawn mae’r broblem fawr hefo Cymru yw fod y golygfeydd mor hyfryd a’r cwmni mor dda rydym yn treulio ein hamser cerdded yn rhyfeddu ar yr olygfa ac yn mwynhau sgwrs ac o ganlyniad does neb byth yn edrych i lawr i weld beth sydd o dan ein traed.

Un o fy fyfyrwyr gyflwynodd y llyfr ‘Bloody Old Britain’ i mi gyntaf. Gweithred gyfeillgar a chymwynasgar o rannu gwybodaeth drwy fenthyg  a dyma ddarllen y llyfr o glawr i glawr o fewn dyddiau. Yn ddiweddar bu rhaid i mi brynu’r llyfr, gan fy mod am ei ail ddarllen a gan fy mod angen copi yn y llyfrgell, mae’n lyfr mor hanfodol a hynny !

Yn y bon, cynnwys y llyfr yw adroddiad gan Kitty Hauser, sydd bellach yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Sydney, o fywyd a syniadaeth gwr o’r enw O.G.S Crawford. Mae teitl y llyfr ‘Bloody Old Britain’ yn ategu teitl llyfr Crawford o’r 1930au na chafodd ei gyhoeddi gan fod cynnwys y llyfr llawer rhy negyddol a sinigaidd wrth i Prydain ymbaratoi am ryfel gyda’r Almaen. Dim ond dogfennau ac ambell gopi felly sydd yn bodoli o lyfr Crawford, does dim pwynt chwilota amdano ar Amazon.

Bu Crawford yn hedfan dros y ffosydd yn ystod y Rhyfel Mawr, ei waith oedd edrych ar safleoedd yr Almaenwyr o’r awyr er mwyn cyfeirio y bomiau i’r cyfeiriad iawn dros y ffosydd, ac wrth reswm i osgoi gollwng bomiau ar y Fyddin Brydeinig. Dyn mapiau oedd Crawford felly roedd ei gyfnod olaf yn y Rhyfel yn ymwneud ar ochr gwybodaeth yn hytrach na saethu yn uniongyrchol. Er hynny, gwaith peryglus iawn oedd hedfan dros linellau’r Almaenwyr a bu i’w awyren gael ei saethu i lawr a fe’i anafwyd ond bu’n lwcus iawn o gymharu a chymaint o’i gyd filwyr a’i gyfoedion – daeth adref yn fyw.

Rhwng y rhyfeloedd bu’n gweithio i’r Ordnance Survey fel eu hunig swyddog archaeoleg ac mae diolch mawr i Crawford am ychwanegu cannoedd o safleoedd a henebion i’r mapiau OS rydym yn eu defnyddio ac yn eu gwerthfawrogi gymaint heddiw. Diddordeb arall gan Crawford oedd ceisio sicrhau ‘gwell Byd’, lle roedd rhesymeg gwyddonol yn trechu ofergoeliaeth a chrefydd ac i’r perwyl hyn bu’n teithio’r Undeb Sofietaidd fel roedd Stalin wrthgwrs yn dechrau’r newidiadau mawr yn y Byd amaethyddol yno.

Fel nifer o’i gyfoedion mae awgrym fod Crawford wedi bod yn ddall i rai o erchylltera amlwg Stalin ond yng nghyd destyn y cyfnod efallai fod pobl yn gobeithio fod comiwnyddiaeth yn mynd i gynnig rhywbeth gwell na’r drefn gyfalafol. Yn y bon roedd Crawford yn iawn o ran ei gymhellion  ond doedd neb efallai yn rhagweld pam mor eithafol yr oedd Stalin am fynd a hawdd yw i ni ei feirniadau am ei ddiniweidrwydd heddiw drwy sbectol yr unfed ganrif ar hugain.

Ond beth sydd wrth wraidd llyfr Hauser a holl ddamcanaiaethau Crawford yw pwysigrwydd y tirwedd a’r angen i ni fel y boblogaeth i fagu a meithrin y sgiliau i allu darllen a dehongli yr hyn sydd o dan ein traed.  Sais oedd Crawford ac ardaloedd sialc De Lloegr oedd ei gynefin, ond mae ei syniadau yn cyfieithu a mae modd eu trosglwyddo  yn uniongyrchol i’r hyn sydd ei angen yng Nghymru heddiw. Rydym angen gwell dealltwriaeth o’r darn bach yma o dir, y lle yma rydym yn perthyn iddo, yn brwydro dros ei Iaith a dadl Crawford yn ei hanfod yw fod archaeoleg a dealltwriaeth o’r tirwedd yn rhywbeth gwleidyddol, rhesymol, gwyddonol sydd yn ein harwain at well dinasyddiaeth a mwy o barch at ein cyd-ddyn.

Wrth reswm mae hyn yn ddweud mawr, ond o ystyried sylwadau Crawford mae rhywun yn gweld pam mor bwysig a pherthnasol yw’r tir, y tirwedd a hanes a datblygiad y tirwedd yna i ni fel Cymry. Dyma’r tirwedd a’r hanes sydd wedi ein creu !

Yn ol Crawford mae gwyddoniaeth yn ein harwain tu hwnt i “genedlaetholdeb” yn ogystal a chrefydd, a hyn oll wedi ei ysgrifennu yn y 1920au a’r 30au. Dyn diddorol heb os a dyn lle gallwn fabwysiadau, dwyn neu addasu rhai o’i syniadau.

 

No comments:

Post a Comment