Tuesday 24 September 2013

Cardifftothesee Herald Gymraeg 25 Medi 2013


 
llun Ani Saunders 'Coch'
 
 

Oes unrhywun yn darllen y golofn hon sydd yn cofio cylchgrawn ‘The Face’ ddechrau’r 80au ? Ar y pryd roedd y cylchgrawn arloesol yma yn cael ei ddisgrifio fel y “Beibl Steil” ac i nifer o bobl oedd yn ymwneud a diwylliant poblogaidd (yng Nghymru hefyd) yn ei holl amrywiaeth, The Face oedd y Beibl, yn hytrach na chyfieithiad William Morgan, 1588 ! Llwyddiant y cylchgrawn oedd i ddod a gwahanol agweddau o ddiwylliant at eu gilydd o fewn yr un clawr ac yn sicr i wthio ffiniau a herio agweddau.

            Fel cymaint o gerrig milltir diwylliannol, mae’r Face yn parhau i fod yn bwysig o ran dylanwad a diwyg a mae unrhywun sydd yn ymwneud ar maes heddiw angen bod yn ymwybodol oleiaf, o’r hyn ddigwyddodd dan olygyddiaeth rhai fel Nick Logan a Sheryl Garratt, a’r ffaith fod y cylchgrawn bellach yn cael ei arddangos (a’i gydnabod felly) yn yr Amgueddfa Gynllunio yn Llundain fel rhywbeth o bwys o ran cynllun a chysodi.

            Un elfen bwysig yn y Face oedd ffotograffiaeth arloesol, boed hynny yn luniau o’r ffasiwn diweddaraf neu o ddiwylliannau llwythol ieuenctyd fel y Mods neu Teddy Boys yn rhywle fel Siapan, neu yn amlwg y ffasiwn “Rhamantaidd Newydd” ddaeth yn sgil y gwisgoedd a gwalltiau heriol a wisgir gan Gymry fel Steve Strange a Lowri AnnRichards.

            Roedd y “stryd” o hyd yn bwysig, sef yr hyn oedd yn digwydd ar y stryd ei hyn neu mewn clybiau nos a mae’r broses yma o ddehongli a chofnodi drwy ffotograffiaeth yn rhywbeth sydd wedi parhau hyd heddiw. Beth yn union sydd i’w weld ar ein strydoedd yma yng Nghymru, o ran adeiladwaith ac o ran pobl ac os ydym am gymeryd sylw o eiriau yr Archdderwydd newydd Christine James, beth am y diwylliannau eraill yna sydd yng Nghymru, y diwylliannau a’r lliwiau anweledig, yn enwedig yn y Byd Cymraeg ?

            A dyma daro ar draws Blog hyfryd cardifftothesee.com sef Cardiff to the See ond yn chwarae hefo geiriau a gweld lluniau trawiadol Ani Saunders (cerddor / Pipette / cynllunydd ffasiwn). Lluniau fydda wedi gorwedd yn gyfforddus yn The Face dan olygyddiaeth Garrett, lluniau o “bethau a gwisgoedd” ar strydoedd Caerdydd, y brif-ddinas, Prif Ddinas Cymru ac eto lle aml-ddiwylliant. Yr hyn am trawodd yn syth am luniau Ani Saunders oedd fod hi yn ymdrin a Chaerdydd heddiw ond drwy lygaid sydd yn gweld yr anweledig.

            O edrych ar blog cardidfftothesee.com y peth cyntaf amlwg yw fod Ani yn gallu ymdrin ac adeiladau. Rwyf newydd orffen darllen y llyfr ‘Bloody Old Britain’ sydd yn ymwneud a chofnodi drwy ffotograffiaeth pethau yn y tirwedd wledig a threfol / dinesig a mae llun Ani o’r teils ar hen orsaf yr Heddlu yn Canton yn union y math o beth fyddai wedi dwyn sylw O.G.S. Crawford yn ei ddydd.

            Bron fod y teils ar yr orsaf heddlu yn eich tywys i wlad Islamaidd, rhywle yn Tunisia neu Morocco a rhywsut neu’i gilydd mae’r ffenestri budr wedi troi yn las a’r ffaith fod paent gwyn y ffram angen cot newydd yn ein harwain yn daclus at enw Ani i’r llun ‘teilie di treulio’. Ond nid llun o adeilad mo hwn, darn yn unig, nodwedd wedi ei amlygu, darlun sydd yn arwain at y disgrifiad, bron byddwn yn awgrymu a’r un cynildeb a’r bardd.

            Rhyfedd, achos rywf yn adnabod yr adeilad yma, fel unrhywun arall sydd wedi cerdded neu yrru trwy “downtown Canton”. Dyma’r pethau mae Crawford yn ei annog i ni sylwi arnynt, i’w cofnodi, i’w cadw lle bosib ond yn sicr i’w gwerthfawrogi. Felly os yw Ani Saunders yn defnyddio ei chamera fel mae’r bardd yn trefnu geiriau mae hi hefyd, heb yn wybod ddychmygwn i, yn dilyn llwybr Crawford. Mae hi yn gofnodwraig, yn archaeolegydd celfyddydol yn y tirwedd ddinesig, yn creu ar gyfer yr oriel gelf (blogiau) yn hytrach na’r  adroddiadau Comisiwn Brenhinol. Celf yw hyn go iawn nid cofnod pur ond mae’n gofnod o gyfnod gan ddal eiliadau ar gamera fydd byth yn digwydd, neu’r un fath, eto.

            Wrth reswm mae ei lluniau o gymeriadau, ffasiwn a diwylliannau yn llawer llai parhaol na’r adeiladau, er fod rhywun yn pryderu bellach  pam mor sydun a hawdd mae adeiladau yn diriwio neu yn diflannu. Cymeriadau o dras neu gefndir  Affricanaidd / Dwyrain Canol / Islamaidd sydd yn cael ei sylw ac un o’r lluniau wnaeth i  i chwerthin yw’r un o’r ddau hogyn ifanc yn ei gwisg traddodiadol ond gyda jeans ac un gyda  ‘trainers’. Yma mae’r ddau ddiwylliant yn cyfarfod – fel Constantinople, y Dwyrain a’r Gorllewin.
 
llun Ani Saunders 'Traddodiad jeans'
http://cardifftothesee.com/

            Dim ond yn y ddinas mae modd cael hyn, dydi hyn ddim mor hawdd yn Llanrug neu Ffostrasol ond mae’n gwneud i ni feddwl, os nad gwenu, a mae geiriau Christine James wedi fy nghyffwrdd go iawn ers y Steddfod eleni. Beth yw ein perthynas a’r Somalis yn y Dociau (Bae Caerdydd bellach), lle mae’r Gymraeg yn hyn i gyd, beth yw Cymru a Chymreictod, cwestiynau mawr ?

            Ewch am dro i safle cardifftothesee, dyma gipolwg drwy chwyddwydr neu sbeinddrych amgen, dyma olwg arall ar Gymru yn 2013. Ac wrthgwrs, a dwi’n derbyn hyn, mae dyddiau’r Face drosodd go iawn, ond rwyf yn defnyddio’r gymhariaeth fel modd i awgrymu fod yr hyn sydd gan Ani Saunders yn wirioneddol dda ac yn ychwanegu at y peth amhrisiadwy yna “diwylliant Cymraeg a Chymreig” yn ei holl amrywaith.

            Dyma luniau sydd yn ysbrydoli rhywun i drio adanabod y lle yma yn well, i ddarganfod onglau gwahanol ac i agor ein llygaid yn union fel pregethodd O.G.S. Crawford. Roeddwn mor, mor falch o daro ar draws y lluniau yma achos y Face oedd fy meibl i a rwyf yn dal i gredu !
llun Ani Saunders 'Dad'
http://cardifftothesee.com/

 

No comments:

Post a Comment