Wednesday 30 October 2013

Materion Materol Herald Gymraeg 30 Hydref 2013.


 
 

Cefais wahoddiad i agor arddangosfa ‘Materion Materol’, ac i anerch y gynulleidfa yn Amgueddfa Gwynedd yn ddiweddar a fedrwn i ddim peidio taflu dyfyniad Dr Eurwyn William i mewn i’r sgwrs. Eurwyn William gyhoeddodd yn y rhagair i’r llyfr  ‘Discovered in Time’ (Amgueddfa Genedlaethol Cymru) “fod dim brodorion yng Nghymru ….. rydym oll yn fewnfudwyr”.

            Rwan neges Eurwyn oedd fod gwrthrychau sydd i’w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn ein galluogi i ddeall y darn bach yma o dir yn well, i ddeall Cymru yn well, i ddeall pwy yda’ni yn well ac i greu gwell dinasyddion. Felly mae modd i’r Somali ym Mae Caerdydd (Tiger Bay) gael cysylltiad a’r lle drwy astudio’r gwrthrych – dyna’r syniad. Rwyf wedi son am hyn o’r blaen ond mae’n werth ei ail adrodd (a hynny yn aml).

            Gan fod ‘Materion Materol’ yn wahoddiad i artistiaid Cymreig ddehongli gwrthrychau sydd yn Amgueddfa Gwynedd teimlais fod gosodiad Eurwyn yn rhywbeth ddigon teg i daflu at y gynulleidfa a’r artistiaid – wedi’r cwbl, beth yw’r pwynt os nad yw hyn i gyd yn ysgogi trafodaeth a felly teimlais mae fy swydd i ar y noson oedd gwneud nhw feddwl chydig. Yr artistiad yw Carwyn Evans, Sian Green, Iestyn Gruffudd, David Hastie, Helen Jones a Wanda Zyboroska. Helen sydd wedi curadu’r arddangosfa.

            Dechreuais drwy herio’r iaith mae artistiaid yn ei ddefnyddio i ddisgrifio eu gwaith. Disgrifiadau (ansoddeiriau) anealladwy i unrhywun sydd ddim yn y Byd Celf, a synnwn i ddim, anelalladwy i’r artistiad hefyd. Ychydig ddydiau wedyn roeddwn yn gwrando ar Ddarlith Reith, ‘Playing to the Gallery’ ar BBC Radio 4 a dyma Grayson Perry (trawswisgwr / gwneuthurwyr crochenwaith) mwy neu lai yn dweud yr un peth. Darllenodd Perry lith rhyw artist cysyniadol ac ar ddiwedd y darn dyma fo yn cymeryd seibiant cyn ategu “…..nor me !”

            Rhaid dweud roedd Grayson yn wych yn y ddarlith, gyda hiwmor a gonestrwydd roedd yn herio’r gyfundrefn Celf am eu ‘helitiaeth-drwy-ddewis’ ac yn wir rhan o’r pwynt oedd gennyf yn Amgueddfa Gwynedd oedd herio dipyn ar yr artistiaid. Beth yw eich gwaith go iawn ? I bwy mae’r celf ? Be di pwrpas hyn i gyd ? Sut gallwn ehangu’r gynulleidfa ?

            Awgrymais yn garedig mae ein gwaith ni (colofnwyr, artistiaid, cerddorion) go iawn, yw cyfathrebu, heb gynulleidfa mae’r gwaith yn ddi-werth neu yn sicr yn cael ei ddi-brisio. Hynny yw, rhaid wrth gynulleidfa, rhaid wrth y gallu i gyfathrebu ac i gysylltu ac i effeithio ac i roi pleser ac i ofyn cwestiynnau. Wedyn awgymais fod rhaid i artistiaid heddiw fod yn trydar ac yn blogio – rhaid bod allan yna yn cyfathrebu neu mae’r celf yn aros fel rhywbeth hunanol a di-arffordd ?

            Roedd cerddorion o hyd yn dweud yn doeddan “dwi’n sgwennu i mi fy hyn ac os di rhywun arall yn hoffi’r gan mae o yn bonws”, wel fy ymateb i hyn oedd, da chi peidiwch a prynu CD gan unrhyw artist sydd yn dweud rwtsh o’r fath. Eto beth yw’r joban o waith ? Cyfeirias yn sydun at ‘Bloody Old Britain’ sef damcaniaethau O.G.S Crawford am archaeoleg a thirwedd gan awgrymu mae gweledigaeth Crawford sydd ei angen arnom os am fynychu amgueddfa, os am ail ddehongli gwrthrychau – rhaid dysgu i ddarllen y tirwedd ac i ddarllen gwrthrychau a wedyn mae’n bywydau yn gyfoethocach.

            Er mwyn esbonio fod hyn i gyd yn plethu, ac yn gwneud synnwyr, sef y darlun llawn , pregeth Cynefin a Chymuned os mynnwch, sef y cyd-destun, darllenais ddarn o waith T.H Parry Williams gan drafod sut mae deal a dehongli aradl Rhyd Ddu. Gwrandawodd pawb yn astud a wedyn gwrthodais gyfieithu’r geiriau i’r Saesneg ! Edrychiadau nerfys, ambell un yn chwerthin, distawrwydd…….a wedyn awgrymais fod yma her yndoes, i ddysgu’r Gymraeg, wedi’r cwbl, hanner darlun gwech chi o Gymru heb yr Iaith. (And our non-Welsh speaking friends took it in good humour).

            Dwi dal yn fyw, nath neb wylltio na gweiddi arnaf i gau fy ngheg ond dwi ddim yn siwr beth oedd pobl yn feddwl ? Mae’n od dyddiau yma achos dydi’r gwleidyddol ddim yn yr eirfa boblogaidd, dydi caneuon protest ddim yn naturiol Iaith gyntaf, dydi mynegi barn ddim yn rhan o’r celf – mae gormod o artistiaid heddiw ddigon hapus hefo bod yn greadigol ond yn osgoi’r gwleidyddol – a bellach dwi’n tueddu i ddisgrifio fy hyn fel ffosil o Oes arall pan roedd y gwleidyddol yn hanfodol ac yn hwyl, heb unrhyw wrthdaro.

            Rhaid cyfaddef fy mod mor falch o wrando ar Grayson Perry yn cyflwyno’r darlithoedd ‘Playing to the Gallery” eleni, achos mae’n cadarnhau  fod y gwleidyddol yn Iaith gyfoes, ac efallai mae’r sefyllfa yng Nghymru ar y funud sydd wedi ymwrthod a’r peth fel rhyw adwaith i’r Ymgyrch Iaith, Peintio’r Byd yn Wyrdd a Thryweryn – mi newidith pethau eto yn fuan siawns ………

            Mae arddangosfa ‘Materion Materol’ yn Amgueddfa Gwynedd Bangor hyd at 16 Tachwedd. Mae fy araith i’w weld ar safle we culturecolony.com/videos
 
http://www.culturecolony.com/videos?id=14043
           

 

No comments:

Post a Comment